Textpander
Mae Textpander yn declyn handi iawn i’r Macafalwyr. Rhaglen fach sy’n rhedeg trwy’r amser, ac yn gwylio beth wyt ti’n teipio am ddefnydd o fyrfoddau sy’n cael eu cyfnewid yn awtomatig i ddarnau o destun plein. Felly yn lle i fi gorfod teipio <img src="http://morfablog.com/06/03/XXX" title=""> bob tro dw i eisiau rhoi llun mewn cofnod blog, dw i’n defnyddio’r byrfodd imgsrc, ac mae TP yn wneud y gweddill. Mae’n debyg iawn i bethau fel Autocorrect Microsoft, ond mae’n gweithio mewn bob rhaglen.
Wel, dw i’n ei hoffi.
Jakokoyak
Fideo o raglen Bandit neithiwr: Jakokoyak - Canada.
Mae Rhys dal un o’m ffefrynnau ar y sîn Gymraeg anglywadwy. Gwelais i fe yn Steddfod Casnewydd, ond oedd hi bron yn amhosibl ei glywed - enghraifft perffaith o daflu perlau o flaen moch. Dim ond fi, Criddle ac un neu ddau arall hyd yn oed trîal gwrando ar y boi; pawb arall yn dal i fyny gyda eu mêts a’u ciwion.
Ta beth am hynny, mae’r EP newydd ar gael nawr, mae’r safle MySpace yn cynnwys clips bach o’r CD cyntaf, a lot o ddolenni i bethau bach neis eraill.
Amser mynd am dro, dw i’nm eddwl.
Moresukine
Moresukine - blog/dyddiadur/comic, wedi’i sgwennu mewn llyfr Moleskine, gan Almaenwr sy’n byw yn Tokyo.
Synnu bod neb wedi meddwl o wneud hyn o’r blaen.

Dolenni Sydyn
Falle bydd hyn yn feature cyson ar yr hen Forfablog.
- MP3: Kick Me Out - Arctic Monkeys vs team9
- Blog: Bachgen o’r Enw Siwsan - blog Poj!
- Gêm: Pac-Man ar yr iPod
- Syniadau: Beth yw “llif” a sut wyt ti’n ei ffeindio?
- Flickr: Gweld dy holl grwpiau gyda’i gilydd.
- Hwyl: 101 o gemau ar-lein am ddim
MP3 Egsliwsif Dan Amor
CDr yn y post, wastad dechrau da i’r dydd. Dyma ichi drac o albym newydd Dan Amor, canwr Gabrielle 25. Diolch Dan!
Dan Amor - Lluniau Du a Gwyn - (MP3, 4.6MB).
Dyma’r peth cyntaf dw i wedi clywed gan Dan ers i mi roi ei sesiwn ar Pop Peth dros flwyddyn yn ôl.
Dylwn i wrando ar Radio Cymru mwy, dw i’n gwybod, ond, ond, ond…
Nut Flush!
Nut Flush! - blog newydd gan SbecspeledrX am y gêm brydferth.
Dolenni sydyn
Mae del.icio.us i lawr, felly…
- Fideo: Neil Young ar y Daily Show
- MP3: “Bob cân Neil Young ti wedi clywed, erioed”
- Hwrê: dyw’r Thermals ddim yn sugno cala Satan
- MP3: The Thermals - jyst rhag ofn
- Fideo: The Thermals - tra bod ni ‘ma
- Adolygiad: Euros Childs yng Nglasgow
- MP3: Randy Newman - Louisiana 1927 - sgrolio i lawr
- Fideo: Mark Ronson - Just - cân Radiohead, wedi’i ail-wneud, gyda fideo DIY ardderchog
Mwy nes ymlaen, falle. Dw i’n joio blogio heddi.
MP3: Nick Cave a Waren Ellis
Dw i’n mynd trwy adeg Sant nick ar hyn o bryd, felly braf iawn oedd gweld hyn yn fy nentydd Bloglines y bore ‘ma: traciau o drac sain The Proposition gan Nick Cave a Waren Ellis.
Bootlegs Nick Cave. Cwpl o sioeau yna ar y safle swyddogol. (Wps. Dyma’r un swyddogol.)
Wait a minute, they have Nick Cave dolls now?
I want one.
Gwersi iaith am ddim i fewnfudwyr
O’r diwedd, mae rhywun wedi derbyn bod rhaid i fewnfudwyr cael gwersi iaith am ddim os ydyn nhw am gymryd swydd yng Nghymru.
Gwersi yn yr iaith fain, hynny yw.
Mandy Price, human resources manager at Le Monde Restaurants in Cardiff, said, “Providing English lessons is something we were looking at for a while and are now benefiting from this initiative.
“It has helped with attracting, retaining and developing our staff and has led to improved customer service.”
No shit, Sherlock. Ond ’sai unrhywun yn ddigon hy i awgrymu y dylai gweithwyr yn y sector twristiaeth yn y Fro Gymraeg yn cael gwersi Cymraeg am ddim (gorfodol?) tybed beth fyddai’r ymateb?
Undoubtedly Bodacious
Undoubtedly Bodacious - blog (Saesneg, y rhan fwya) gan y bio sy’n gweithio ar y brosiect Rhith Gaerdydd. Dysgwr yw e, felly cer a gadael neges iddo.
Pixoh: Golygu lluniau ar-lein
Mae Pixoh yn declyn handi iawn sy’n gadael i chi olygu lluniau JPG, PNG ac ati ar lein, heb angen meddalwedd arbennig.
Whatever Would Robert Have Said?
Newydd ddod ar draws fideo Van der Graaf ar YouTube, yn wneud fersiwn fer o’r gân Whatever Would Robert Have Said? o’r albym The Least We Can Do Is Wave To Each Other.
Ah, 1970.
Fideo du Jour
Wedi bod yn chwarae gyda Democracy, teclyn teledu-ar-y-rhyngrwyd, yr wythnos ‘ma, sy’n ffordd (arall) wych o wastraffu amser pan dw i fod i wneud pethau eraill. Dw i ddim yn siwr os yw hyn yn well nag iTunes, sydd erbyn hyn yn cynnig podlediadau fideo hefyd - prif mantais falle yw bod Democracy yn cynnwys pethau bach gwirion sy ddim yn dod dan y disgrifiad “blog fideo”. Pethau fel:
Hefyd, cei di fideos cerddorol (BitTorrents yw’r rhain, ond mae Democracy yn eu handlo nhw heb angen meddalwedd newydd - do’n i ddim hyd yn oed wedi sylweddoli taw BT o’n nhw tan nawr):
- The Thermals - How We Know - pync roc hen ei ail
- Aphex Twin - Come To Daddy - mwahaha!
- Bright Eyes - At The Bottom of Everything
Ac wrth gwrs, mae unrhywbeth sy’n dod â Morwynion Ffrengig i fy iMac yn werth arbrofi gyda fe am wythnos neu ddwy.
[Gol.] Diolch i Rhys am y ddolen i Treehugger TV, tanysgrifiad newydd i fi.
Dau beth do’n i ddim yn gwybod
Dw i’n byw hanner mywyd ym Mac OS X, a dwy o’r rhaglenni sy wastad ar agor ar fy nesg yw’r Llyfr Cyfeiriadau ac iCal. Mae’r ddwy wedi dod, yn ara deg, i gymryd lle fy llyfr cyfeiriad a dyddiadur “go iawn”, gan ei fod yn hawdd iawn i drosglwyddo eu cynnwys i’r iPod, sy wastad gyda fi tu allan o’r tŷ.
Ond mae’n debyg mod i ddim yn cymryd digon o sylw o beth mae rhaglenni fel hyn yn gallu wneud.
Ddoe, sylweddolais i am y tro cyntaf, diolch i Merlin Mann, bod hi’n bosibl rhoi calendrau gwahanol iCal mewn “grwpiau”. O leia, o edrych trwy sylwadau ar flog Merlin, nid fi yw’r unig un i beidio gwybod hyn. Defnyddiol iawn.
Wedyn, y bore ‘ma, dw i’n sylwi bod opsiwn yn y Llyfr Cyfeiriadau i Ddangos Map o unrhyw cyfeiriad. ⌘+clec ar y cyfeiriad a bant â chi.
Wedyn, sylweddolais i mod i ddim wedi newid fy nghyfeiriad fy hun yn y Llyfr Cyfeiriadau.
[Gol.] Peth arall - ddim wedi sylwi o’r blaen ei fod yn bosibl ychwanegu maesydd fel “spouse”, “children” ac yn y blaen i gerdyn yn y Llyfr Cyfeiriadau - mae hyn yn handi iawn i fi, sy byth yn cofio pethau fel hyn am ddysgwyr. Drueni bod dim modd cysylltu cardiau partneriaid - wedi dweud hynny, mae’n siwr o fod yn hollol bosibl, dim ond taw fi yw’r afalwr ola yn y byd i’w ddanganfod.
Bobby Sands
Eleni, bydd hi’n 25 mlynedd ers i Bobby Sands farw. Zmag: Bobby Sands, ymprydio a dysgu Gwyddeleg. Erthygl ddiddorol, ond efallai yn gorddweud tipyn bach yma:
He learned the importance of education and, particularly, of learning the Irish language. By using Irish to discuss strategy with his fellow prisoners under the noses of the prison guards, he made it a living language.
Dw i ddim yn gwybod digon amdano, yn amlwg. Ydy hyn yn deg i’w ddweud?
All rhywun awgrymu llyfrau i fi am adeg yr ymprydio? Dw i wedi darllen (blynyddoedd yn ôl) llyfr gan Tim Pat Coogan, ond dw i wedi ei golli ers hynny - a dw i wedi dysgu iaith fy ngwlad fy hun yn y cyfamser. A ddylwn i ail-ddarllen hwnna, neu oes ‘na rywbeth mwy diweddar byddai’n rhoi cyflwyniad i hanes diweddar Iwerddon i mi?
Amazon i Iwerddon
BBC: Amazon i symud i Iwerddon o Loegr i gymryd mantais o sgiliau ieithyddol gwell y Gwyddelod.
The centre will move from Slough to Cork, creating up to 450 jobs there.
“Cork offers the ability to provide our customers with multilingual support,” said Jim Adkins, director of European customer services for Amazon.com.
Lleianod Fflicr
Lleianod - set ffotos ar Fflicr. Dim byd amheus, addo, dim ond hen luniau hyfryd.

Escape Pod
Escape Pod - podledu storïau gwyddonias.
Dim Cymraeg, diolch, Saeson ydyn ni
No Welsh Thanks, We’re English: erthygl yn y cylch ScienceNOW am drosglwyddo’r iaith i blant.
Cyfieithu’r Blogathon
Bach yn gynnar i sôn am hyn efallai, ond bydd Blogathon ‘06 yn digwydd ar y 29ain o Orffennaf eleni, sef wythnos cyn y Steddfod.
Y llynedd, os cofiwch chi, buodd y ‘Thon ar ddydd Sadwrn ola’r Steddfod, sef y diwrnod gwaethaf posibl, ar ran cael blogwyr Cymraeg i gymryd rhan. Fi oedd yr unig un i flogio yn y Gymraeg, ac er i mi gael lot o hwyl, a chodi dros $1000 i Tŷ’r Eos, byddai fe wedi bod yn lot well cael bach mwy o gwmni ar y daith.
Eleni, fel soniais i o’r blaen, mae’r trefnwyr wedi gofyn i mi gyfieithu gwefan y Blogathon. Dechreuais i ar y gwaith hwn y llynedd, ond ar ôl iddyn nhw newid y dyddiad ac oedd yn amlwg taw dim ond fi fyddai ar gael i flogio, doedd dim lot o bwynt cario ymlaen gyda fe.
I wneud yn siwr bod y gwaith yn werth ei wneud eleni, dw i wedi creu addewid PledgeBank. Byddai gwybod bod pobl yn mynd i ddefnyddio’r cyfieithiad yn hwb mawr wrth i fi eistedd i lawr i’r gwaith.
Mae Blogathon yn ffordd wych o godi arian at achos da, ond mae hefyd yn ffordd heb ei ail o godi proffeil dy flog. Mae papurau lleoll wrth eu boddau gyda storiau fel hyn, a pe bai digon ohonon ni yn cymryd rhan yn y Blogathon, yn y Gymraeg, dw i’n siwr y bydd yn ddigon hawdd i gael sylw yn y cyfryngau cenedlaethol.
Beth amdano ‘te?
Next Page »