Neges gan Rhian Owens, Swyddog Maes Bwrdd yr Iaith yn Aberteifi a ddaeth y bore ’ma.
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrthi ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymchwil ar effaith Cyfieithu ar y pryd a pha mor effeithiol y mae’r wasanaeth honno.
Rydym yn awyddus felly i ddod o hyd i grŵp o bobl a fydd yn fodlon dweud eu barn am eu profiadau hwy wrth fod mewn cyfarfodydd sy’n defnyddio cyfieithwyr ar y pryd.
O ganlyniad, rwyf wedi eich dewis chi fel bobl rwy’n tybio sydd wedi cael profiadau da a gwael efallai yn y maes hwn ac yn awyddus iawn pe byddech yn fodlon ein cynorthwyo gyda’r gwaith ymchwil.
Bydd ebost yn cael eu danfon allan yr wythnos nesaf yn nodi mwy o fanylion ynglŷn a ffurf yr ymchwil ac ati.
Gan ddiolch i chi o flaen llaw am eich cydweithrediad.
Unrhywun sydd â diddordeb cymryd rhan yn y gwaith ymchwil, cysylltu â fi a wna i basio eich manylion ymlaen at Rhian.
Dw i dal yn cofio bod mewn cyfarfod yng Nghaerdydd lle oedd dyn o Wlad y Basg yn siarad i gynulleidfa o (ar y cyfan) siaradwyr Cymraeg. Yn Saesneg oedd e’n siarad, gan fod dim ond cyfieithydd Cymraeg-Saesneg oedd yna, a dim ond Basgeg, Sbaeneg a Saesneg oedd y Basgwr yn siardwr. Pan daeth amser am gwestiynau, cododd rhuywun i ofyn rhywbeth, un o Genedlaetholwyr mwya amlwg Cymru, a dechreuodd e gofyn ei gwestiwn yn Saesneg. Torrodd y Basgwr ar ei draws, i’w atgoffa fe bod darpariaeth cyfieithu ar gael, a dylai’r Cymro ofyn ei gwestiwn yn ei iaith ei hun.
Dw i ddim yn cofio ei eiriau yn union, ond oedd e’n rhywbeth fel:
The translator will get paid, even if I’m the only one wearing headphones. You’ve spent 30 years winning the right to have a translator in public meetings. Don’t blow it now.