Monthly Archives: Chwefror 2006

Bach o Lonydd

Y bore ’ma, gwyliais i Serenity, ffilm gyntaf gan Joss “Buffy the Vampire Slayer” Whedon, a’r ffilm sci-fi orau dw i wedi gweld mewn oes. Spin-off o’r cyfres teledu diddymedig, Firefly. Gan fy mod i’n byw mewn swigen di-deledu y rhan fwya o’r amser, do’n i ddim wedi clywed o hyn o’r blaen, a dweud [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged | Leave a comment

Amser i ddechrau mapio’n iawn?

Newydd fod yn hedfan trwy bywyd Jack Kerouac ar Google Earth. Dw i’n hoff iawn o gerdd Twm Morys, “Darllen y Map yn Iawn” (yn ei gyfrol 2, os ti ddim yn gyfarwydd), a dw i wedi sgwennu o’r blaen am y posibiliad o weithredu’r syniad sydd yn gefndir i’r gerdd honno yn realiti trwy ddefnyddio [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged , , | Leave a comment

Widgets Google

Cwpl o Widgets Mac OS X oddi wrth Google. Handi iawn os ti’n defnyddio Gmail a/neu Blogger ar y Mac.
Posted in Heb Gategori | Tagged | Leave a comment

Vates

Diolch i Dewi Prysor, dyma 5 trac gan ei fand Vates – ddim yn siwr, ond mae’n bosib bod tri ohonyn nhw o’u sesiwn C2 (Prys?) Vates – Canibals Vates – Stafall Gefn Vates – Shindig Vates – Gwyfyn y Glaw Vates – “E”
Posted in Heb Gategori | Tagged , , | 5 Comments

Podcastio o’r Brifysgol

Mae Prifysgol Bangor wedi dechrau podledu deunydd o’u cyrsiau. Am wn i, at ddefnydd y myfyrwyr yn unig ydyn nhw, ond tybed a fyddai’n bosibl i’w rhoi ar y we i bawb cael gwrando? Diolch i Maff am y linc.
Posted in Heb Gategori | Tagged , | Leave a comment

Arwyddion Uniaith y Brifddinas

Mae aelodau Cell Caerdydd wedi mynd ati i gasglu lluniau o arwyddion ffordd uniaith Saesneg yn y brifddinas, gan awgrymu all unrhywun arall wneud yr un peth yn eu hardaloedd nhw.
Posted in Heb Gategori | Tagged , , , , , | Leave a comment

Cyfieithu ar y Pryd

Neges gan Rhian Owens, Swyddog Maes Bwrdd yr Iaith yn Aberteifi a ddaeth y bore ’ma. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrthi ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymchwil ar effaith Cyfieithu ar y pryd a pha mor effeithiol y mae’r wasanaeth honno. Rydym yn awyddus felly i ddod o hyd i grŵp o bobl [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged , , | Leave a comment

Rhith-Gaerdydd

Dw i heb chwarae Sim City ers y fersiwn diwetha ond un, ond mae gweld y delweddau o’r brosiect Ail-greu Caerdydd yn wneud i fi feddwl bod hi’n amser prynu copi o SC4. Neis iawn i weld pethau fel arwyddion dwyieithog ac ati. A fydd y Rhith-Gaerdydd yn fwy Cymraeg na’r Caerdydd go iawn, dybed? (Newydd [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged , , , | Leave a comment

Pedwar Peth

Wel, wel, dim ond munudau ar ôl i mi sôn am Cat, dw i’n sylwi mod i wedi cael fy nhagio ganddi. Mouseover for translations, Cat. Pedwar swydd dw i wedi’u cael Garddwr Tirwedd Llyfrgwerthwr Gwas fferm organig (y fferm, nid y gwas) Sensor Ffasgaidd ar maes-e.com Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd Two Lane Blacktop Dazed and Confused Withnail and I ET Pedwar [...]
Posted in Eraill | Tagged , | 5 Comments

Blogathoniaid!

Bydd Blogathon bach gwyrdd ar 24 Chwefror. Dim ond nawr dw i wedi clywed amdano, a bydda i bant dros y penwythnos nesa, ond mae syniad neis iawn. Tra bod ni ar y pwnc, bydd Blogathon 2006 yn digwydd ar 26 29 Gorffennaf eleni, felly fydd e ddim yn clasho gyda’r Steddfod, diolch byth. Dw i [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged , | Leave a comment
  • Now Available in the Language of Your Choice (More or Less)

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar