Dw i’n dechrau rhannu teimlad Hedd Gwynfor a sawl cenedlaetholwr arall bod rhywbeth od wedi digwydd i’r Ceidwadwyr yng Nghymru: maen nhw’n dechrau edrych yn radicalaidd ar gwestiwn yr Iaith. O leia, wrth eu cymharu â’r Blaid Lafur “Gymreig”, sy’n mynd yn fwy ffiaidd tuag at yr iaith a’r sawl sy’n dewis ei defnyddio gyda phob datganiad.
Mewn datganiad o’r wythnos diwetha, eto gan y Toriaid, dwedwyd:
Welsh Conservatives have demanded that Culture Minister Alun Pugh distances himself from “inflammatory” comments made by a government spokesperson about the Welsh language.
The comments came in an article on proposals from the Welsh Language Board for an independent regulator to monitor the rights of Welsh language speakers in the public sector.
In the article the government spokesperson refers to the “death throes” of the Welsh Language Board, and adds: “We are talking about a situation where English speakers have rights too. Turkeys don’t vote for Christmas but no-one voted for the language board either.”
Iawn, dw i’n gwybod bod hyn yn beth hurt i’w ddweud, ac mae llafarydd siwr o fod wedi difaru, ond mae’n dangos pa mor bell yw Plaid Lafur o’r pwynt o wneud Cymraeg a Saesneg yn ieithoedd swyddogol – maen nhw’n dal i weld hyn fel cyfaddawd i siaradwyr Cymraeg yn lle y cam cynta tuag at ddatwneud effeithiau canrifoedd o anghyfiawnder yng Nghymru. Bydd yn ddiddorol gweld sut bydd Llafur yn ymateb i’r her newydd o ddefnyddio’r iaith fel ffordd o ymosod ar y Toriaid a Phlaid Cymru.
Difyr iawn.
![[Digg]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[MySpace]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Technorati]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Email]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)
One Comment
Llafur = British nationalists.
Pam fod cenedlaetholwyr wedi bod yn cadw cefn plaid sy’n sefydliadol wrth-Gymraeg (institutionally anti-Welsh) cyhyd ond yn wrth-Tori? Dal i gredu yn y frawdoliaeth asgell chwith – dihunwch wir!
Pam nad yw Plaid Cymru jyst yn galw Llafur yn British nationalists – oes gan y blaid fach a chenedlaetholwyr Cymreig ofn y Blaid Lafur?
http://www.british-nats-watch.blogspot.com