Bwrdd Yr Iaith Gymraeg Yn Cyhoeddi Papur Safbwynt Ar Sefyllfa Ddeddfwriaethol Y Gymraeg. Dw i dal heb orffen darllen hyn, ond mae’n ymddangos yn fwy radicalaidd na dim byd dw i wedi gweld o’r Bwrdd o’r blaen. Mae hyd yn oed Cymdeithas yr Iaith yn ei groesawi. Dim ond person sinigaidd iawn byddai’n dweud bod hyn yn dod bach yn hwyr yn hanes y Bwrdd, nawr eu bod nhw’n wynebu cael eu llyncu gan y Llywodraeth, a dw i ddim yn teimlo yn sinigaidd heddi. Mae’r haul yn gwenu, mae’r adar yn canu, ac mae Bwrdd yr Iaith yn tynnu ei fys ar fater Deddf Iaith Newydd: gwanwyn cynnar eleni?
BBC Cymru: Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn galw am newid deddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith.
BBC Wales: The Welsh Language Board is calling for a revamp of language laws.
Mordicai: Datblygiadau Deddf Iaith.
Trafodaeth ar maes-e.
2 Comments
Diolch am y ddolen. Edrych mlaen i ddarllen y cynnwys.
… gai fod yn sinig. Ai rhagor o arwyddion dwyieithog yn Dixons etc yw blaenoriaeth y mudiad iaith?
Beth am hyrwyddo unieithrwydd mewn rhai mannau?
+ does neb yn son am y timebomb demograffeg h.y. prinder Cymry Cymraeg (a Chymry di-Gymraeg) yn cael ei geni. Ydi’r Bwrdd / Cymdeithas / Plaid yn son o gwbwl am hyn?
Mae gen i ofn, er mod i’n falch iawn i weld y Bwrdd yn trafod hyn, nad yw mor radical a hynny. Trafod unieithrwydd a demograffeg byddai radicaliaeth go iawn.