Plyg fi, arglwydd
Dw i ddim yn credu mod i’n gor-ddweud yma:
gall y ddolen yma newid dy fywyd.
Wel, newid fy fywyd bach i, ta beth.
[Trwy Lifehacker.]
Hen Dafodau
Archig hen rifynnau cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith, Tafod y Ddraig.
[Diolch i sian eirian ar y maes.]
Ymladd dros ysgol ar Ynys Hir
Erthyglau yn yr Herald a’r Scotsman am y cynllun i greu’r Ysgol Aeleg gyntaf yn yr Ucheldir ac Ynysoedd (mae eisioes un yng Nglasgow).
Sawl blog Cymraeg?
Newydd cyfri y nifer o flogiau Cymraeg ar fy nghyfrif Bloglines ac mae RSS ‘da fi am 88 ohonyn nhw. Iawn, mae rhai o’r rheiny wedi marw, ond mae hynny yn lot mwy nag o’n i’n disgwyl.
Amseroedd diddorol
Dw i’n dechrau rhannu teimlad Hedd Gwynfor a sawl cenedlaetholwr arall bod rhywbeth od wedi digwydd i’r Ceidwadwyr yng Nghymru: maen nhw’n dechrau edrych yn radicalaidd ar gwestiwn yr Iaith. O leia, wrth eu cymharu â’r Blaid Lafur “Gymreig”, sy’n mynd yn fwy ffiaidd tuag at yr iaith a’r sawl sy’n dewis ei defnyddio gyda phob datganiad.
Mewn datganiad o’r wythnos diwetha, eto gan y Toriaid, dwedwyd:
Welsh Conservatives have demanded that Culture Minister Alun Pugh distances himself from “inflammatory” comments made by a government spokesperson about the Welsh language.
The comments came in an article on proposals from the Welsh Language Board for an independent regulator to monitor the rights of Welsh language speakers in the public sector.
In the article the government spokesperson refers to the “death throes” of the Welsh Language Board, and adds: “We are talking about a situation where English speakers have rights too. Turkeys don’t vote for Christmas but no-one voted for the language board either.”
Iawn, dw i’n gwybod bod hyn yn beth hurt i’w ddweud, ac mae llafarydd siwr o fod wedi difaru, ond mae’n dangos pa mor bell yw Plaid Lafur o’r pwynt o wneud Cymraeg a Saesneg yn ieithoedd swyddogol - maen nhw’n dal i weld hyn fel cyfaddawd i siaradwyr Cymraeg yn lle y cam cynta tuag at ddatwneud effeithiau canrifoedd o anghyfiawnder yng Nghymru. Bydd yn ddiddorol gweld sut bydd Llafur yn ymateb i’r her newydd o ddefnyddio’r iaith fel ffordd o ymosod ar y Toriaid a Phlaid Cymru.
Difyr iawn.
Keith Schofield - Artist Atari
Mae Keith Schofield yn wneud fideos cerddoriaeth, ac mae bob un efo thema Atari-aidd. Mm, falle. Dweud y gwir, dw i’n rhy flinedig i wylio bob un nawr. Ond mae’r tri dw i wedi gwylio’n dda iawn. Ac yn Atari-aidd.
Rhaid i mi wylio mwy o fideos. Dw i wastad yn impressed - fel Philippa gyda’n teledu newydd, yn darganfod S4C2.
Wedi blino, yup.
Blog Leanne Wood
Braf iawn gweld bod Leanne Wood wedi dechrau blogio, a phodledu hefyd. Edrych ymlaen at glywed beth mae mashwyr yn y Lladron yn wneud gyda hyn [MP3, 821Kb).
Tra bod ni ar bwnc Pleidwyr ar y we, mae clip bach o Jill Evans [WMV] yn Senedd Ewrop yn herio Blair i hybu’r Gymraeg fel iaith gwaith swyddogol yn werth ei gweld hefyd.
Ail-ddarganfod Paradwys
Archifau Mod-Pop_punk - casgliad gwych ac eclectig o MP3au gan fandiau’r 70au/80au - gan gynnwys Ail Symudiad.
Ffeindiais i’r linc ar dros, ond gan gyd-ddigwyddiad, ro’n i’n edrych ar yr un safle gynnau heddi, trial ffindio rhywbeth am hanes Fflach, gan eu bod nhw newydd prynu hysbyseb ar y maes.
Byd bach, bois.
Ddim yn siarad Saesneg? 15 mlynedd!
Dyn ni’n cael ein gwylltio/diddanu gan enghreifftiau o gyfieithu gwael ond weithiau mae canlyniadau’n gallu bod tipyn bach yn fwy difrifol. Yn America, os dydy dy sgiliau Saesneg ddim yn dda, allwch chi bennu lan yn y carchar:
Unable to speak English, Juan Ramon Alfonzo stood before a judge and expected to receive probation for stealing a toolbox.
To his surprise, the judge sentenced him to 15 years in prison, followed by 15 years of probation, for stealing a dump truck valued at $125,000.
Now, court officials agree Alfonzo entered the wrong plea because his court-hired interpreter, Marianne Verruno, provided an incomprehensible translation.
Fyddai rhywbeth fel hyn byth yn digwydd yma, wrth gwrs.
Her Majesty’s Courts Service Welsh Language Scheme commits Her Majesty’s Courts Service to support fully the principle behind the Welsh Language Act and accept the importance of treating those in Wales who wish to use Welsh, in the same way as those who wish to use English.
Tybed, pryd oedd y tro diwetha oedd rhaid gohiro achos llys gan fod yr ynadon ddim yn medru’r Saesneg?
Bu’n rhaid gohirio’r achos [yn erbyn Gwenno Teifi] gan nad oedd hi’n bosib i’w gynnal yn Gymraeg, dadleuodd swyddogion y llys fod yn rhaid gwneud cais arbennig i gael yr achos yn Gymraeg.
Triniaeth cyfartel fy mhen-ôl.
[Diolch i Pat]
Bwrdd yr Iaith yn deffro
Bwrdd Yr Iaith Gymraeg Yn Cyhoeddi Papur Safbwynt Ar Sefyllfa Ddeddfwriaethol Y Gymraeg. Dw i dal heb orffen darllen hyn, ond mae’n ymddangos yn fwy radicalaidd na dim byd dw i wedi gweld o’r Bwrdd o’r blaen. Mae hyd yn oed Cymdeithas yr Iaith yn ei groesawi. Dim ond person sinigaidd iawn byddai’n dweud bod hyn yn dod bach yn hwyr yn hanes y Bwrdd, nawr eu bod nhw’n wynebu cael eu llyncu gan y Llywodraeth, a dw i ddim yn teimlo yn sinigaidd heddi. Mae’r haul yn gwenu, mae’r adar yn canu, ac mae Bwrdd yr Iaith yn tynnu ei fys ar fater Deddf Iaith Newydd: gwanwyn cynnar eleni?
BBC Cymru: Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn galw am newid deddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith.
BBC Wales: The Welsh Language Board is calling for a revamp of language laws.
Mordicai: Datblygiadau Deddf Iaith.
Trafodaeth ar maes-e.
Adfer iaith am ffilm Malick
The New World, ffilm diwetha y cyfarwyddwr Terrence Malick, yn dilyn hanes John Smith a Pocahontas, ond nid stwff Disney sydd yma, mae’n debyg. Roedd Malick am i’r bobl frodorol yn y ffilm siarad yr iaith frodorol a oedd Pocahontas a’i thylwth yn ei siarad yn yr ail ganrif ar byntheg. Dim ond un broblem sydd: does neb wedi siarad yr iaith honno ers 1795.
Dim problem, meddai Malick, a dyma fe’n cyflogi’r ieithydd Blair Rudes o Brifysgol Charlotte i adfer iaith farw Algonquieg Virginia.
Llunie’r Bechdan
Brechdan Tywod ar Flickr. Y rhifyn newydd yw’r un gorau hyd yn hyn, a dw i wedi bod ati ordro CDs sy wedi’u golygu ynddo. Dylet ti wneud yr un peth.

Bloglines | Mis canales (2006)
Ydy Bloglines pawb wedi troi yn Sbaeneg, neu ai dim ond fi yw e?
A nid y flwyddyn yw’r (2006), ond y nifer o negeuson heb eu darllen.
Gormod o poker yn diweddar, mae arna i ofn.
Pwy yw traed mawr?
Pwy ydw i? Casgliad gwych o hen luniau teulu gan traed mawr ar flickr.
Blogamundo
Blogamundo: blog datblygu gan brosiect i ddod â mwy o gyfieithu i’r we. Edrych yn ddiddorol - ac maen nhw’n chwilio am help gan bobl o bob iaith.
Gwenno yn wynebu carchar
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Aelod yn wynebu carchar.

Bydd aelod ifanc o Gymdeithas yr Iaith yn ymddangos o flaen Ynadon Caerfyrddin am 10am fore Llun (9.1.06) i esbonio paham ei bod yn gwrthod talu costau a iawndal i Radio Sir Gar hyd werth £200.
Mae Gwenno Teifi, 18 oed, o Lanfihangel-ar-arth yn fyfyriwr flwyddyn cyntaf yng Ngholeg y Prifysgol Aberystwyth. Ym mis Ebrill 2005, fe’i cafwyd yn euog gan Ynadon Hwlffordd o achosi difrod i eiddo Radio Sir Gar yn Arberth a gorchmynwyd iddi dalu costau llys ac iawndal hyd werth £200.
Bydd Gwenno’n dweud wrth y llys nad oes unrhyw fwriad ganddi i dalu lawndal i’r Orsaf Radio a fu’n destun ymchwiliad llynedd oherwydd ei diffyg defnydd o’r Gymraeg. Hyd yma, mae swyddogion ar ran y llys wedi methu meddiannu unrhyw eiddo gan Gwenno.
Bydd Gwenno’n ychwanegu yn ei datganiad i’r Ynadon “Mae’r Orsaf Radio hon yn dwyn enw’r sir y cefais i fy magu ynddi, ac y mae eu diffyg defnydd o’r Gymraeg yn warthus. Os yw’r Gymraeg i fyw, rhaid iddi fod yng nghanol yr holl ddatblygiadau sy’n berthnasol i bobl ifainc fel radio leol.
“Mae’r hen Ddeddf Iaith yn perthyn i oes a fu. Rhaid wrth Ddeddf Iaith newydd a fydd yn sicrhau lle i’r Gymraeg yn holl cyfryngau a datblygiadau technolegol y ganrif newydd.
Pob lwc i Gwenno. Safiad dewr iawn.
[Gol. 9 Ionawr 2006] Anhygoel. Oedd rhaid gohiro’r achos yn erbyn Gwenno tan 6 Mawrth gan fod Llys Ynadon Caerfyrddin - blydi Caerfyrddin ddim â’r gallu i glywed achos yn y Gymraeg. Beth yn y byd o’n nhw’n disgwyl, bod aelod Cymdeithas yr Iaith sy’n wynebu carchar ar ôl ymgyrchu dros y Gymraeg yn mynd i ddweud “o, peidiwch poeni, sdim ots ‘da fi cael fy achos yn Saesneg”.
‘Glencoe’ Cymru
Mae hyn yn hen newyddion i’r rhan fwya ohonoch chi dw i’n siwr, ond mae cynnwys y Llyfrau Gleision 1847 ar lein bellach gyda’r Llyfrgell Genedlaethol, ac mae hyn wedi tynnu sylw’r Independent:
Their report to Parliament noted that the “filthy” natives inhabited towns and villages knee-high in stinking dung heaps. Married and non-married couples alike slept crammed into one-room hovels alongside their pigs and poultry. “Petty thefts, lying, cozening, every species of chicanery, drunkenness and idleness prevailed,” they opined.
Jon Bon Jela - y Scymraeg meistr
Mae Jon Bon Jela wedi ymuno â Flickr, felly bydd yn gallu postio ei luniau Scymraeg ei hunan o hyn ymlaen. Ac mae clusuron ‘da fe.
Ddim yn Criogaid
Expert slams plan to ‘invent’ Gaelic words. Ond dydy’r arbennigwr ddim yn arbennigwr, a dydy’r geiriau newydd ddim yn newydd.
New Gaelic words conceived by the panel include:
Cricket - Criogaid
Curry - Coiridh
Fax - Facs
Giro - Dioro
Jeans - Dinichean
Lesbian - Leasbach
Ozone - Oson
Pizza - Piotsa
Quango - Cuango
Video - Bhidio
Vodka - Bhodca
Yoga - Ioga
Dyfeisiol iawn. Pam mae hyn yn stori, tybed?
[Gol.] Mwy ar y stori yn Herald, sy’n adnabod y ffaith taw cadarnhau orthograffi sy’n digwydd yma, ar y cyfan, nid “inventing new words”. Ond mae’n dal llawn top o ystradebau nawddoglyd am siaradwyr yr Aeleg:
Eacstasaidh Ecstasy
While you are unlikely to score this drug at a ceilidh on Barra, at least Gaelic now allows you to inquire about its availability.
Ho ho ho.
[Gol. eto] I fod yn deg, mae’r golofn olygyddol yn yr Herald yn siarad sens.
But Soon My Time Is Over
Peter Hammill: mae Van der Graaf wedi dod i’w ben, siwr o fod.
Roedd 2005 yn flwyddyn anodd iawn, mewn mwy nag un ffordd. Roedd colli Dad, ar ôl ei wylio diodde am 7 mis yn isafbwynt, yn ddigon amlwg. Efallai nad oedd yn syniad arbennig o dda i benderfynnu symud tŷ yn yr un flwyddyn, ond yn lwcus iawn mae hynny wedi mynd yn dda a rydym yn hapus iawn yn y lle newydd. Trwy bopeth sy wedi mynd ymlaen eleni y llynedd dw i wedi bod yn ddigon lwcus i gael cefnogaeth Philippa, ein ffrindiau yma ac acw, a’r gymuned oll, fan hyn yn y Morfa, a fan’co yn y byd go iawn arall.
Yr unig constant arall trwy’r flwyddyn ‘ma yw Van der Graaf. Dw i wedi bod yn gwrando arnyn nhw bob dydd, bron heb eithriad, ac wedi dod i nabod pob gair ar bob albym, gan gynnwys y rhai do’n i ddim yn gyfarwydd â nhw ers talwm. Mi es i i’w gweld nhw am y tro cyntaf yn Lerpwl, deudydd ar ôl angladd fy nhad, y profiad cerddorol mwya emosiynol erioed. Gwelais i nhw dairgwaith ar y daith fach ola yn Lloegr a’r Alban rhyw chwe wythnos yn ôl, o fewn deudydd o symud i mewn i Fro Delyn.
Does dim byd fel bod yn ffan band fel Van der Graaf - mae e fel cael rhannu cyfrinach am Maen yr Athronydd. Does dim pwynt trial esbonio - os dydy’r band ddim yn dy gyffwrdd, dwyt ti ddim yn mynd i gael dy ddarbwyllo gan ddim byd alla i ddweud. Dw i ddim yn teimlo yn gyffrous iawn am yr Arctic Monkeys (dweder), ond ’swn i’n 19 eleni, ac nid 39, fyddwn i ‘na, gobeithio, bodio o gwmpas Prydain i’w gweld bob cyfle oedd ‘da fi.
‘Na ni, newyddion trist i ddechrau blwyddyn newydd, ond nid newyddion drwg, os gwelwch chi be’ sy ‘da fi. Bydd CD newydd gan Hammill yn y man, ac mae CD o’r gig Royal Festival Hall ac, o bosib, DVD o’r un yn Leverkusen i edrych ymlaen atyn nhw.
Diolch yn fawr iawn i Hugh, Guy, Peter a David am amseri’ch aduniad i’r dim.


