(Bosibl mod i wedi blogio am hyn o’r blaen, ond mae e wedi fy ngwylltio eto, felly dw i’n mynd i ranto amdano eto. Diolch am fod yn amyneddgar.)
Sôn am Blaid Lafur wrth-Gymraeg, newydd sylwi eu bod nhw wedi peidio esgus, bellach, bod eu gwefan yn ddwyieithog. Chwiliwch am y gair “cymraeg” yn ofer, ond os dych chi’n ddigon clyfar i’w dreiglo, mi ffeindiwch chi un cofnod dwyieithog ar y safle. A theitl y cofnod hwnnw?
“Adeiladu dyfodol llewyrchus i’r iaith.”
Ai shit iw not.
“Gweledigaeth Llafur i’r iaith Gymraeg yw un o iaith sydd yn agored i bawb, yn berchen i bawb, nid yn un o iaith sydd yn perthyn i’r elit.”
Gweledigaeth twll fy nhin, Leighton, mae hyn yn sinigiaeth bur, sy’n ailadrodd ystradebau tra llwyddo atgoffa pobl o “gynllun cudd” Plaid Cymru i greu apartheid ieithyddol yng Nghymru. Yr unig bobl sy’n creu argraff bod yr iaith Gymraeg yn “berthyn i’w elit” yw dy Blaid di dy hunan. Dadl “when did you stop beating your wife?” yw hon.
Wrth gwrs mae “elit” yng Nghymru, a dw i’n siwr bod llawer ohonyn nhw yn siarad Cymraeg (mae rhai ohonyn nhw wedi dysgu, fel oedolion, fel tithau, Leighton) ond mae pob copa walltog ohonyn nhw yn siarad Saesneg, felly pam dydy gwefan uniaith Saesneg y Blaid Lafur ddim yn sôn am yr iaith honno fel un sy’n “perthyn i’r elit”?
Dwi’n meddwl fod y dewis Cymraeg wedi bod yno unwaith ond roedd e’n gymaint o embaras fel wnaethon nhw ei dynnu lawr. Mae yna ffordd gefn i fewn i’r cynnwys Cymraeg. (nid yw’r L=1 yn cario mlaen drwy bob dolen. Mae’n siwr fod rywun wrthi’n ddiwyd yn cyfieithu gweddill y cynnwys?