Tyrfa Bws – clasur Scymraeg.
“Watsiwch ma’s am y diferion llym wrth adael y bws nawr.”

Blog Ysgol yr Eifl. Neis iawn i weld ysgolion yn defnyddio Blogger fel modd cael eu newyddion ar lein yn hawdd a di-ffwdan.
Oes ’na ysgol Gymraeg arall gyda blog? Rho wybod yn y sylwadau, os gwelwch yn dda.
Unrhywun gweld eisiau Nat Watch?
Reit, dyna beth o’n i’n meddwl.
Ond jyst rhag ofn bod hiraeth arnoch chi, dyma Cam Watch, sori, Notting Hell i lenwi’r bwlch yn eich bywydau. Mae’n debyg taw Nats Lloegr, sef David Cameron a’r Toris Newydd, yw’r bleiddiaid mawr drwg y dyddiau ’ma, ac nid Nats Cymru.
Wrth gwrs, does dim tystiolaeth yn y byd bod y ddau flog yn eiddo yr un person, dim ond pethau fel steil y blog, y ffugenw “doniol” (Cameroon – heh), a’r cyfeiriad di-enw Gmail i anfon mwy o gynnwys i’r blogiwr di-enw. (Bydd yn ofalus os wyt ti’n wneud hynny – os ydw i’n iawn, mae o leia un person wedi colli ei swydd ar ôl cysylltu â’r blogiwr hwn.)
Ond dyw’r llys-enwau dyfeisiol ddim yn stopio yna, o nadyn.
Ddydd Sadwrn diwethaf, postiodd “Cameroon” gofnod am Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru Cabinet newydd y Toriaid, cofnod sy’n dwyn y teitl Cheryl the Peril. Yn ôl Google, mae dim ond un person arall wedi bod yn ddigon hy i alw Cheryl Gillan gan yr enw ’na ac hynny dim ond deunddydd cyn i Cameroon “bathu” yr enw, sef Leighton Andrews, Aelod Cynulliad, blogiwr, a ffan tymor hir (gynt) o Nat Watch.
Ydy Leighton a “Cameroon” yn berthnasau, tybed?
Neis iawn i fynd i wefan y New Welsh Review a ffeindio bod hi’n bosibl archebu ôl-rhifynnau ar-lein (ro’n i am yr un o 2004 gydag erthygl ar David Jones) ac i dalu amdanyn nhw trwy PayPal. Cyfleus iawn.
Diolch i Dafydd am y ddolen i arddangosfa arlein diweddaraf y Llyf Gen, sef Encore : Cerddoriaeth yng Nghymru. Mae’n llawn o luniau gwych fel hyn o’r Blew. Yn anffodus, fel mae Dafydd yn sôn, mae llawer o gamgymeriadau yn y teitlau, ac yn enwedig, yn nyddiadau, y lluniau, ond dw i’n siwr y caiff y rheiny ei sorto ma’s toc.
Gwych hefyd yw gweld enghreifftiau o effemera Cymdeithas yr Iaith yn dechrau ymddangos ar lein, ar ôl i Gymdeithas roi ei chasgliad i’r Llyfrgell.
Newydd lanlwytho set o luniau i Flickr o gloriau’r cylchgrawn Films and Filming 1971-1977. RHYBUDD: rhai ohonyn nhw ddim yn sâff i’r gweithle. Dim byd pornograffig, ond eitha lot o bobl noeth.
Wedi ei ddweud o’r blaen, a dweda i fe ‘to, ond un o’r pethau gwychaf am gerddoriaeth y 60au a 70au cynnar yw faint o stwff newydd sydd i’w darganfod. Dw i newydd ddod ar draws copi o albym cyntaf The Edgar Broughton Band ar y rhwydwaith rhannu ffeiliau o’m dewis, ac mae’n hollol ffantastig. Roedd gan Broughton lais Beefheartaidd, ac yn chwarae’r gitar fel Hendrix. Am ryw rheswm, ro’n i dan yr argraff taw Americanwr oedd e, ond na, Sais ydyw, o un o brifganolfannau roc a rol y byd, Warwickshire.
Bendigedig.

Edgar Broughton Band – Death of an Electric Citizen (MP3 – 6.4MB)
Erthygl ar Slugger O’Toole am y costiau honedig o gynhyrchu un ddogfen swyddogol yn Saesneg (€685) a’i cyfieithu i’r Wyddeleg (€17,000). Mae’r bwlch amlwg rhwng y ddau ffigwr wedyn yn sail i ddadl “allen ni wario’r arian yn well? – er lles yr iaith, os oes angen, ond dere mlân, faint o bobl sy wir yn ei defnyddio…” ac yn y blaen.
Fel mae trafodaeth ar y cofnod yn awgrymu, dyw e ddim yn glir sut cyrhaeddwyd ar y ffigyrau yma:
The Taoiseach on this occasion was only quoting the costs associated with graphics etc wrt to the English version of the document while the time involved by the civil servants and the entire kitchen sink was accounted for in the figure for in the Irish language document.
Ac wedyn, unwaith eto, y ddadl dros wneud dim byd rhag ofn bod siaradwyr Tsieinëeg yn dechrau gweiddi am eu hawliau ieithyddol. Ydy poblogaeth Tsieinëeg Iwerddon yn enwedig o weithredol neu rywbeth? Mae pawb yn eu hofni, mae’n debyg.
(Bosibl mod i wedi blogio am hyn o’r blaen, ond mae e wedi fy ngwylltio eto, felly dw i’n mynd i ranto amdano eto. Diolch am fod yn amyneddgar.)
Sôn am Blaid Lafur wrth-Gymraeg, newydd sylwi eu bod nhw wedi peidio esgus, bellach, bod eu gwefan yn ddwyieithog. Chwiliwch am y gair “cymraeg” yn ofer, ond os dych chi’n ddigon clyfar i’w dreiglo, mi ffeindiwch chi un cofnod dwyieithog ar y safle. A theitl y cofnod hwnnw?
“Adeiladu dyfodol llewyrchus i’r iaith.”
Ai shit iw not.
“Gweledigaeth Llafur i’r iaith Gymraeg yw un o iaith sydd yn agored i bawb, yn berchen i bawb, nid yn un o iaith sydd yn perthyn i’r elit.”
Gweledigaeth twll fy nhin, Leighton, mae hyn yn sinigiaeth bur, sy’n ailadrodd ystradebau tra llwyddo atgoffa pobl o “gynllun cudd” Plaid Cymru i greu apartheid ieithyddol yng Nghymru. Yr unig bobl sy’n creu argraff bod yr iaith Gymraeg yn “berthyn i’w elit” yw dy Blaid di dy hunan. Dadl “when did you stop beating your wife?” yw hon.
Wrth gwrs mae “elit” yng Nghymru, a dw i’n siwr bod llawer ohonyn nhw yn siarad Cymraeg (mae rhai ohonyn nhw wedi dysgu, fel oedolion, fel tithau, Leighton) ond mae pob copa walltog ohonyn nhw yn siarad Saesneg, felly pam dydy gwefan uniaith Saesneg y Blaid Lafur ddim yn sôn am yr iaith honno fel un sy’n “perthyn i’r elit”?
O Ogledd Iwerddon, lle mae dadlau am hawliau ieithyddol ag elfen mwy gwleidyddol na’r arfer, gawn ni ddweud, y daw’r stori am drigolion Cenedlaetholgar sy’n bygwth mynd â’u cyngor i’r llys er mwyn cael arwyddion eu strydoedd yn Wyddeleg. Nid bod y cyngor (Undebol) yn poeni dim am hyn:
DUP councillor Frank Campbell believes putting up Irish street signs in the area will set a dangerous precedent.He said: “There are more people who speak Chinese and Czech in Ballymoney than who speak Irish. What are we to do next, put up signs in the those languages?”
Am ddadl soffistigedig! Neis iawn gweld bod Undebwyr Wlster yn defnyddio’r un ddadl â’r Undebwyr Wêls wrth wfftio hawliau ieithyddol brodorion eu “Provinces”.
Mae llywodraeth y Swistir yn gweithredu i sicrhau bod siaradwyr ieithoedd swyddogol “llai” y wlad yn cyrraedd brig eu maesydd.
But Helvetia Latina, a lobby group for the promotion of Romance languages, claims that German speakers in top posts were over-represented by ten per cent in 2003.
The organisation said German speakers in senior management often preferred to hire staff with the same mother tongue as their own.
Neis weld adolygiad o lyfr Cymraeg yn y Guardian. Wedi dweud hynny, sdim lot yn yr erthygl (gan Hywel Williams) am y llyfr ei hunan.
Diolch i Siôn Jobbins am y linc.
Wythnos diwetha, ces i ebost gan foi yn America, yn hybu ei fand The Judas Bull. Mae’n debyg ei fod e wedi anfon yr un ebost at bawb sy gyda blog MP3, ac er bod fy un fi wedi marw bellach, dw i’n dal i gael negeseuon felly bob hyn a hyn, gan Americanwyr gan amlaf.
I came across your site while researching indie music and how to try to get my new album in the hands of some people other than my friends. It seems to me that music blogs would be a good place to start and try to get some buzz going about what I am trying to do. Could I send you a copy of my album to see if you like it?
Cerddoriaeth am ddim, gwych!
Dyw hyn ddim yn anarferol, gyda llaw. Dim ond yng Nghymru Gymraeg gall bandiau newydd ddisgwyl bod ar y teledu cyn iddyn nhw wneud eu gig cyntaf, a recordiau CD cyn iddyn nhw ddysgu sut i chwarae yn iawn.
Ta beth, er ei fod yn neis i gael cynnig fel hyn, dw i’n diflasu braidd ar bobl sy’n cysylltu â fi a dweud eu bod yn mwynhau fy mlog, tra bod yn hollol amlwg dydyn nhw erioed wedi ymweld â fe. Felly, ac yn ysbryd Popeth yn Gymraeg, sgwennais i nôl at y boi:
Diolch Dan, byddwn i wrth fy modd. Cyfeiriad isod.
Dw i wedi wneud hyn o’r blaen, a’r unig dw i wedi cael yw rhywbeth fel “WTF is that?! Klingon?“, ond nid felly mae Dan. Ei ateb e:
Heh, I think that’s Welsh, but obviously it could just be gibberish. Maybe I’ll try to send you a copy to what appears to be an address in your message.
Ac y bore, dyma CD yn y post o Bittsburgh, gyda nodyn bach:
Betcha thought I wouldn’t actually send this… but I’m part Welsh, so I wanted to give back to my Motherland…
A’r peth gorau am y stori yw… mae’r CD yn wych. Ni fydd wrth dant pawb, ond os wyt ti’n licio stwff o gyrion ALT-roc, mi fyddi di wrth dy fodd. Fel mae Dan yn dweud, mae’n gweithio yn well fel albym cyfan, felly os wyt ti’n lico beth sy ’ma, cysyllta â fe – dw i’n siwr byddai fe’n hapus iawn i gael mwy o ebost uniaith Cymraeg
The Judas Bull – Greedy Man (MP3 – 6.2 MB)
The Judas Bull – Para Ti (MP3 – 6.6 MB)
The Judas Bull – Dead Candy (MP3 – 3.8 MB)
The Judas Bull – Sobre Tu (MP3 – 9.1 MB)
‘I fully support calls by Cymdeithas yr Iaith – and others – for a new Welsh Language Act that will help ensure the language’s future.
‘There is a long history of bringing about change through non-violent direct action, from suffragettes to the civil rights movement.’
Mae dadl Lorraine Barrett yn colli’r pwynt gan, www, can mil milltir.
‘It is astonishing that Plaid Cymru regards the struggle of black Americans as equal to the vandalism of public property in Cardiff.’
Felly, mae’n iawn ymgyrchu yn erbyn anghyfiawnder, ond dim ond os wyt ti’n groenddu, ac yn byw yn America, yn y 1960au. Os wyt ti’n ymgyrchu yn erbyn anghyfiawnder yng Nghymru, yn yr unfed ganrif ar hugain, wyt ti’n dim byd ond troseddwr.
Mewn geiriau eraill, mae agwedd y Blaid Lafur tuag at ymgyrchwyr hawliau sifil Cymry Cymraeg yn gwmws yr un peth ag oedd agwedd gwleidyddion Taleithiau’r De yn ystod ymgyrchoedd Hawliau Sifil tuag at y rhai wnaeth ymgyrchu dros hawliau sifil pobl groenddu America. Maen nhw’n hyd yn oed yn defnyddio’r papurau newydd yn yr un ffordd.
Whites tried to end the boycott in every way possible. One often-used method was to try to divide the black community. [..]
On Sunday morning Montgomery newspapers were going to print the news that the boycott was over and the city’s blacks were going to believe it. [..]
Next, whites turned to the law. On February 21, 89 blacks were indicted under an old law prohibiting boycotts. [Martin Luther] King was the first defendant to be tried. As press from around the nation looked on, King was ordered to pay $500 plus $500 in court costs or spend 386 days in the state penitentiary.
Oes, mae ’na wahaniaethau rhwng y ddwy fudiad. Ond yn y bôn, mae mudiadau hawliau sifil sy’n gweithredu gan dorri’r cyfraith wedi wynebu’r un fath o ymateb gan yr awdurdodau, yn America yn y 1960au ac yng Nghymru yn y 2000au. “Anwybyddu nhw, bychanu nhw, paentio nhw yn droseddwyr, ond unwaith ei fod yn amlwg does dim byd yn mynd i stopio nhw, rhoi iddyn nhw peth o’r hawliau sifil maent yn gofyn amdanynt.”
Mae gwaith newydd gan Linda Norris ar ei gwefan, ac mae’n wych.
Sôn am bethau gwych, mae’r swyddfa yn y tŷ newydd yn wynebu’r môr, ac er mod i ddim yn gallu gweld y môr ei hunan, mae machlud yr haul yn fendigedig o fan hyn. Bydd yn anodd iawn gweithio gyda pethau fel hyn yn mynd ymlaen tu ma’s i’r ffenestr.