Bod a gwneud – pwy ydyn ni?

Erthygl gan Philip Pullman yn y Guardian wythnos diwetha am ryddyd mynegi, yn sgîl darpar ddeddf yn erbyn “casineb crefyddol”. Mae ganddo pwyntiau bwled ar natur hunaniaeth oedd yn taro naw gyda fi. Dyma’r tri chyntaf:

  1. What we are is not in our control, but what we do is.
  2. On the other hand, and simultaneously, what we do depends on what we are (on what we have to do it with), and what we are can be modified by what we do.
  3. What we do is morally significant. What we are is not.

Tarodd #3 fi yng nghanol fy nhalcen pan darllenais i’r erthygl, ac agorodd pob math o ddrysiau. Wedi bod yn darllen am E-prime, “tafodiaith” Saesneg sy’n osgoi defnyddio’r ferf “to be”. A fyddai’n bosibl wneud hyn yn Gymraeg? Pa fath o fyd fyddai un lle nad yw’n bosibl bod yn Gymro, dim ond i actio fel un?

  1. Mae’n syml yntydi ? Cwbl sydd angen i Gymru ennill yn ol y tir diwylliannol ac economaidd mae wedi roi i Loegr yw i bobl ymddwyn fel Cymry.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>