Pethau i’w gwneud, #374 – darllen Anathemata David Jones. Cerdd dw i erioed wedi mynd yn bell trwyddi hi, ond un sy’n talu’r darllenydd yn ôl am yr ymdrech angenrheidiol.
Yn ôl Anne Carson Daly yn Poetry Wales mae’r gerdd yn llawn haeddu lle yn gwmni clasuron moderniaeth megis gweithiau James Joyce, T.S.Eliot ac Ezra Pound.
Adolygwyd y gerdd gan W.H.Auden yn rhifyn cyntaf New York Review of Books yn 1963.
Rhywbeth i wneud trwy’r gaeaf hirlwm sydd o’n blaen.
Dylwn i fod wedi dweud mwy am hyn, ond dw i ddim am olygu’r cofnod nawr. Rhan o’r rheswm dw i am fynd yn ôl at waith David Jones yw’r sylwadau dw i wedi’u clywed yn y dosbarth barddoniaeth Cymraeg dw i’n mynegi. Dosbarth hanner llawn beirdd yw e, ail-ffrwythiau’r Cilie, fel petai. Er mor wych yw’r dosbarth, mae rhagfarn cyffredin yna yn erbyn y fath o farddoniaeth sy yn yr Anathemata. Os dydy’r geiriau ddim yn mynd yn syth o’r glust i’r galon, nid barddoniaeth ydyw, yn nhyb rhai o’r beirdd yn y dosbarth. Fy mhroblem i yw nad yw barddoniaeth Cymraeg byth yn wneud hyn yn fy achos i, gan fod rhaid i mi brosesu bob gair, bron, i ffeindio ystyr y llinell. Mae mwy o waith prosesu i mi mewn awdl bardd fel Dic Jones nag sydd yn y Waste Land.
Och, sa i’n gwybod.
ti’n llygad dy le. yr athronieth tu ol gwaith david jones yw fod yr artist yn anhysbys. ego sy’n tanio meddylfryd y bardd cymraeg traddodiadol
gyda llaw ma llwyth o’i waith e ma gyda fi os gei di drafferth dod o hyd i’w bethe. the hunt yn arbennig o wych. gen i finyl o dj yn darllen ei waith ‘ed.
heb son am ei arlunio a gwaith llythrennu.
tipyn o ysbrydolieth i mi gweud y gwir
Mae’r llyfrau i gyd ‘da fi, dw i’n credu, ac mae un record ‘da fi, gyda’r Tutelar of the Place a’r Tribune’s Visitation – hwnna yw’r un sy ‘da ti? Dw i’n credu i mi weld un arall rhywle.