Diffod y radar

Bydd cyfres newydd S4C, Popeth yn Gymraeg, yn dechrau y fory, fel dych chi wedi clywed, mae’n siŵr gen i. Yn fras, y syniad yw y bydd Ifor ap Glyn yn teithio o gwmpas Cymru ac yn siarad dim ond Cymraeg, hyd yn oed pan clywith e’r anhepgor “sorry mate, don’t speak Welsh”. Ar flog y rhaglen mae Ifor yn disgrifio hyn fel “diffod y ‘radar’”, y radar arbennig hwnna sy’n dweud wrthon ni bod y person o’n blaen ni’n medru’r Gymraeg. Gan gymryd bod pawb yng Nghymru’n medru’r iaith i ryw raddau, ac eu bod nhw i gyd yn fodlon cwrdd â’r Cymro uniaith hanner ffordd, bydd y rhaglen yn arbrawf diddorol iawn ynglŷn â sut mae Cymry di-Gymraeg yn ymateb i Gymro di-Saesneg.

Mae’n syniad gwych, ac yn ôl y sôn, wedi’i wneud mewn ffordd adeiladol, llawn hiwmor. Dyw’r bwriad ddim i ddieithrio’r di-Gymraeg, ond i ddi-ddi-eithrio [sic] y rhai sydd yn medru’r iaith, ond sy wastad yn barod i droi i Saesneg er mwyn beidio codi stwr.

Y gwir yw, ’sai bob un ohonon ni yn wneud hyn fel rheol, fyddai dim rhaid i’r Blaid Lafur malu awyr am “Gymru ddwyieithog” bellach achos byddai honna yn bodoli, dros nos. Dim angen protestiadau, dim angen carcharu neb. Y peth symlaf yn y byd, ond y peth lleia tebyg i ddigwydd.

[This rest of this post will appear on the blog Rhys is setting up, for blogwyr Cymraeg who want to post English versions of some posts, but don't want to run bilingual blogs. Does that make sense? It'll make more once Rhys gets his shit together. Dere mlân Rhys. ;-) ]

Ifor ap Glyn is a Welsh language poet, who was born and brought up in London. As such, he’s more sensitive than most to the need to use one’s Welsh whenever possible. He’s the perfect choice of presenter, therefore, for a new S4C series Popeth yn Gymraeg (Everything in Welsh) which starts on Monday 28th November, and will appear every night at 9.00 for a week.

The premise of the show is simple: Ifor will travel around Wales, speaking Welsh.

Just Welsh.

When he meets someone who says “sorry mate, don’t speak Welsh” he will smile politely and continue… yn Gymraeg. According to Ifor’s blog the reactions he got were overwhelmingly positive, although these may have been mitigated somewhat by the presence of a camera crew. In this post, Ifor talks about turning off the “radar” that tells Welsh speakers whether or not it’s “safe” to siarad Cymraeg with any new person one comes across. The tendancy is to speak English with any new person, unless something tells us that that person can speak Welsh – but this “something” tells us more about our own prejudices than about the other person’s linguistic ability. As the soon to be sadly missed Welsh Language Board keeps reminding us, the only way to know if a stranger speaks Welsh is to start every conversation yn Gymraeg and see what happens. But what Ifor is doing takes the thing to a whole new, and potentially revolutionary (I don’t think that’s too strong a word) level:

There’s a difference between starting a conversation [in Welsh], and insisting on continuing a conversation in Welsh. We’re nervous as bilingual Welsh speakers… but if we were to insist on speaking Welsh, other people in our communities would have to learn. [..]

Do we still have the strength? Through protesting for the externals – official status, roadsigns, forms and so on – have we lost something of the devilishness, the strength of will, which allows people to insist on speaking Welsh?

I don’t suppose for a moment that Ifor is saying that the protesting has not been of fundamental importance, but I agree that the really revolutionary act, — and the only one necessary if only enough people would do it — is speaking Welsh, and only Welsh, at all times.

The irony of me having written more about this in English than I did in the original post isn’t lost on me, but as I said over on maes-e, it’s non-Welsh speakers who really need to see this programme, not Cymry Cymraeg. If you’ve never found yourself in the position of having to use a foreign language in your own country to make yourself understood, you’re less likely to understand how alienating that experience is, or how often Cymry Cymraeg forced to go through it.

  1. Diddorol iawn Nic. Dyma raglen wneith roi dipyn o agoriad llygaid i’r sawl sydd yn mynu ymddiheuro am siarad Cymraeg o flaen person sydd ag ychydig neu ddim Cymraeg o gwbwl.
    Mi fyddai wastad yn edrych ymlaen am ddefnyddio Cymraeg mewn siopau pan fyddaf yn mynd adref ar wyliau….ond o y siom pan glywaf yr ateb ‘ don’t speak Welsh’ :( ( neu ‘dipyn bach’ .
    Pan fyddaf adref tro nesaf, ella , ddylswn inna wneud fel y bydd Ifor ap Glyn…. i roi’r cyfle iddynt fedru defnyddio yr ychydig Gymraeg sydd ganddynt.

  2. Dwi’n falch iawn i clywed am hynny, ond dwi’n dymuno fy mod i’n medru ei gweld hi.

    Be ‘sai’n digwydd os bydda i’n ‘neud popeth yn Gymraeg yma yn yr UDA, tybed? Ella na i’n trio!

  3. Dwi angytuno’n llwyr taw “does angen i’r Cymry Cymraeg gweld hyn”. O’m profiad fi dyna’r targed sy ar goll o’r ymgyrchoedd iaith. Mae’r Mudiadau Iaith wedi cymryd siaradwyr cymraeg yn ganiataol.

    Cymry Cymraeg sy’n troi i’r Saesneg ‘da dysgwyr ydy’r rheswm dros methiant mwyafrif y Dysgwyr sy’n dechrau medru’r iaith yn ymarferol.

    Hen bryd i’r rhaglen yma ymddangos. Croeso mawr iddi, a gobeithio bydd pawb yn ei gwylio.

    Dysgu, bydd y rhaglen, i’r Cymru sut i fynegi eu hunan mewn Cymraeg symlachsymlach yn hytrach na jyst ail-ddweud rhyw ymadrodd Cymraeg astrus (i’r dysgwr) ddwywaith ac wedyn hwffian a throi i’r Saesneg.

  4. Ti’n anghytuno yn llwyr â rhywbeth dw i heb ei ddweud. ;-)

    Pan dwedais i “the people who really need to see this” do’n i ddim yn golygu doedd dim angen i’r Cymry Cymraeg ei gweld hefyd. Wrth gwrs mae hynny yn wir. Ond mae siaradwyr Cymraeg yn nabod y profiad yn iawn, er eu bod nhw ddim yn neud lot amdano fe falle – dydy llawer o’r di-Gymraeg ddim yn gwybod bod y profiad yn bodoli.

    Hefyd, sgwennais i’r cofnod cyn i mi weld y rhaglen – wedi gweld y ddwy raglen gynta nawr a dw i’n hoff iawn o’r ffordd mae Ifor yn mynd trwy ei bethau – enghraifft da o beth sy’n bosib.

    Arna i mae’r bai am ddefnyddio’r term “Cymry Cymraeg” – mae hwnna yn dod â llawer o’i baggage ei hun, ac mae’n siwr o fod yn well ei osgoi. Fel dw i wedi dweud rhywle arall ar y blog yn ddiweddar, nid bod yn Gymro sy’n bwysig, ond actio fel un, hynny yw siarad yr iaith.

    Dw i’n cytuno’n llwyr bod angen dysgu siaradwyr rhugl sut i siarad  dysgwyr, ond mae hefyd angen cael mwy o bobl di-Gymraeg i ddysgu. Dyw dadlau am “Beth sy’n fwy pwysig?” ddim yn helpu: mae’r ddau yr un mor bwysig. Dyna pam dyn ni’n trial cael mwy o siaradwyr rhugl i ddod i ddosbarthiadau Cymraeg, i gwrdd â’r dysgwyr, a dyna holl raison d’être Cyd.

  5. Heh, ces i ebost Saesneg gam gerddor (Americanaidd?) ddoe, yn cynnig copi o’i albym newydd i mi wrando arno, a blogio amdano (ar Pop Peth, mae’n debyg. Fel arfer, dw i ddim yn boddran ymateb, neu yn dweud rhywbeth fel “have you actually looked at my blog”, ond y tro ‘ma nes i ymateb yn gwrtais, yn Gymraeg, gan ddweud:

    Diolch Dan, byddwn i wrth fy modd. Cyfeiriad isod.

    Ces i ebost yn ôl heddi:

    Heh, I think that’s Welsh, but obviously it could just be gibberish.
    Maybe I’ll try to send you a copy to what appears to be an address in
    your message…

    Da iawn Dan, dal ati, ac mae’n debyg y cei di adolygiad wrth dy fodd (os ydy’r tiwns yn dda, wrth gwrs) ;-)

    Lot o hwyl.

  6. Only old monoglot me. What is the ‘foreign language’ to which you refer? English is not a foreign language in Wales…

  7. Newydd weld y rhaglen neithiwr, ac wedi synnu at yr ymateb da gafodd IapG. Dwi’n meddwl bod ei bersonoliaeth siriol yn helpu.

    O ran neges Normal Mouth: I think it is possible for a language to be foreign to a group of people but still be used in their country. In any case, why do some peope seem to think “foreign” is a criticism of a language? It’s just a simple description. English is a foreign language to some people in Wales.

  8. Yn union.

    NM, for many of us English is indeed “foreign”, as we would rather use our first language: Welsh. More often than not, however, we are denied that opportunity and it is we who must do all the compromising. As the Trwynau Coch once sang, “gorfod siarad mewn ail iaith er mwyn cael rhyw fath o adwaith” ;)

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>