Clasur o ddifyniad gan y Puwster yn y Daily Post ddoe:
Conservative AM William Graham asked the minister to urge the Welsh Rugby Union to increase its use of the language on its website. But Mr Pugh said: “I think we are pushing at an open door there.”
Os Ewch chi i wefan y WRU, mi gewch chi eich croesawu gan dudalen uniaith Saesneg, wedyn eich ailgyfeirio at dudalen arall uniaith Saesneg. Am wn i, does dim yr un gair o Gymraeg ar y wefan. Sut mae hyn yn “ddrws agored”?
Ydy Alun Pugh wedi’i gam-ddifynnu yma, neu ydy e wir yn meddwl bod hyn yn gam ymlaen at y Gymru Ddwyieithog mae e’n ei gweld mor glir ar y gorwel?
Ypdêt! Mae’r geiriau “Undeb Rygbi Cymru” wedi’u cynnwys mewn un o’r GIFiaid wedi’u hanimeiddio! Da iawn, WRU, chwarae teg!
Ypdêt arall! Fi sy’n anghywir a chreulon, mae arna i ofn. Newydd ffeindio hyn yn archifau’r wefan:
Heddiw, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru gynlluniau i ddatblygu Polisi Iaith Gymraeg er mwyn cynnwys defnydd helaethach o’r Gymraeg yn ei fusnes.
Mae’r Undeb yn chwilio am ffyrdd i ymgorffori defnydd o’r iaith Gymraeg yn ei waith, a hynny yn enwedig drwy lunio fersiwn Gymraeg o’r wefan www.wru.co.uk.
Mae hynny yn ddyddiedig 25 Mai – felly mae’r drws ar agor ers sbel nawr. Unrhywun yn gwybod pryd bydd y fersiwn Gymraeg yn barod?
Mae awgrymiad y peiriant ymchwilio ar y safle yn ddiddorol:
Cymraeg = 1 canlyniad
Commercial = 67 canlyniad

Hey Nic, diddorol gweld hyn. Mae nifer iawn o drafodaethau ar y maes amdan hyn, a dwi hefyd wedi gofyn i URC sawl gwaith am pryd fydd y fersiwn allan, dim ymateb. Heb son am y bwrdd trafod.
Gyda llaw mond tua 3 erthygl sydd yn y gymraeg ganddym nhw.
Cawn weld os fydd rhywbeth yn digwydd, ond nai ddim dal fy gwynt