Yn y cyfamser, lan yn yr Hen Ogledd
Mae ‘na brinder o athrawon sy’n medru Gaeleg yr Alban.
Ond ar y llaw arall…
Yn ôl Hywel Williams AS, mae Cymry Cymraeg di-waith yn gorfod aros yn hirach am eu taliadau na chwilwyr gwaith Saesneg eu hiaith.
But when a Welsh-speaking jobseeker calls to apply for benefits, the operators are forced to use an English script and translate the questions into Welsh while they talk.
They record the information in Welsh and later translate the replies into English for Job Centre Plus records.
The English transcript of the interview is then sent to the Welsh language unit of the Department of Work and Pensions (DWP) to be translated back into Welsh.
Helo helo helo
BBC: Welsh level set for new officers:
New recruits to North Wales Police will have to reach a set standard in the Welsh language as part of their training.
Debyg bod yr holl amser mae heddweision Gogledd Cymru yn treulio yn gwmni aelodau Cymdeithas yr Iaith yn dechrau dwyn ffrwyth!
Trafod “Popeth yn Gymraeg”
Mae lot o drafodaeth yn mynd yn ei flaen am y rhaglen hon, yn y ddwy iaith, felly dyma fi drial dod â bob cofnod blog at ei gilydd mewn un lle.
There’s lots of discussion about this programme, in both languages, so I thought I’d try to keep a list of the various places here.
- Popeth yn Gymraeg (Cymraeg - safle swyddogol S4C)
- Popeth yn Gymraeg (English - S4C’s official site)
- Blog Ifor ap Glyn (Cymraeg)
- Morfablog (Cymraeg)
- maes-e.com (Cymraeg)
- Smiling Under Buses (English)
- Bratiaith (English)
- Bachgen o Bontllanffraith (Cymraeg)
- Dysgwyr De-Dwyrain (Cymraeg/English)
Bydd trafodaeth byw ar âl y rhaglen heno am 9.30 fan hyn.
There’ll be a live webchat after tonight’s programme here.
Sgrechflwch y Dinosoriaid
Sgrechflwch y Dinosoriaid - gorsaf radio prog roc o Frasil dw i’n gwrando arno ar hyn o bryd, ac yn sgwrsio gyda’r cyflwynydd ar Soulseek.
[Gol.] Gwaith celf Sérgio.
Bod a gwneud - pwy ydyn ni?
Erthygl gan Philip Pullman yn y Guardian wythnos diwetha am ryddyd mynegi, yn sgîl darpar ddeddf yn erbyn “casineb crefyddol”. Mae ganddo pwyntiau bwled ar natur hunaniaeth oedd yn taro naw gyda fi. Dyma’r tri chyntaf:
- What we are is not in our control, but what we do is.
- On the other hand, and simultaneously, what we do depends on what we are (on what we have to do it with), and what we are can be modified by what we do.
- What we do is morally significant. What we are is not.
Tarodd #3 fi yng nghanol fy nhalcen pan darllenais i’r erthygl, ac agorodd pob math o ddrysiau. Wedi bod yn darllen am E-prime, “tafodiaith” Saesneg sy’n osgoi defnyddio’r ferf “to be”. A fyddai’n bosibl wneud hyn yn Gymraeg? Pa fath o fyd fyddai un lle nad yw’n bosibl bod yn Gymro, dim ond i actio fel un?
“Anathemata” David Jones
Pethau i’w gwneud, #374 - darllen Anathemata David Jones. Cerdd dw i erioed wedi mynd yn bell trwyddi hi, ond un sy’n talu’r darllenydd yn ôl am yr ymdrech angenrheidiol.
Yn ôl Anne Carson Daly yn Poetry Wales mae’r gerdd yn llawn haeddu lle yn gwmni clasuron moderniaeth megis gweithiau James Joyce, T.S.Eliot ac Ezra Pound.
Adolygwyd y gerdd gan W.H.Auden yn rhifyn cyntaf New York Review of Books yn 1963.
Rhywbeth i wneud trwy’r gaeaf hirlwm sydd o’n blaen.
Peter Hammill ym Montreal, 1974
Bit Torrent o’r set wnaeth Hammill wrth gefnogi Genesis ym Montreal yn 1974. Os nag oes cyfrif DimeaDozen gyda ti, cei di fe o fan hyn - a chei di osgoi stwff Genesis gan lawrlwythio traciau 4-10 ar ddisg 0 yn unig.
Neis clywed bootleg Hammill o safon mor uchel, o’r adeg gynnar ‘na.
Neis hefyd glywed bod Hammill a Peter Gabriel (sy’n ei gyflwyno) yn annerch y torf yn Ffrangeg.
Economi Lleol - Wendell Berry
“The Idea of a Local Economy” - erthygl gan Wendell Berry yn Orion.
[Beca]
Diffod y radar
Bydd cyfres newydd S4C, Popeth yn Gymraeg, yn dechrau y fory, fel dych chi wedi clywed, mae’n siŵr gen i. Yn fras, y syniad yw y bydd Ifor ap Glyn yn teithio o gwmpas Cymru ac yn siarad dim ond Cymraeg, hyd yn oed pan clywith e’r anhepgor “sorry mate, don’t speak Welsh”. Ar flog y rhaglen mae Ifor yn disgrifio hyn fel “diffod y ‘radar’”, y radar arbennig hwnna sy’n dweud wrthon ni bod y person o’n blaen ni’n medru’r Gymraeg. Gan gymryd bod pawb yng Nghymru’n medru’r iaith i ryw raddau, ac eu bod nhw i gyd yn fodlon cwrdd â’r Cymro uniaith hanner ffordd, bydd y rhaglen yn arbrawf diddorol iawn ynglŷn â sut mae Cymry di-Gymraeg yn ymateb i Gymro di-Saesneg.
Mae’n syniad gwych, ac yn ôl y sôn, wedi’i wneud mewn ffordd adeiladol, llawn hiwmor. Dyw’r bwriad ddim i ddieithrio’r di-Gymraeg, ond i ddi-ddi-eithrio [sic] y rhai sydd yn medru’r iaith, ond sy wastad yn barod i droi i Saesneg er mwyn beidio codi stwr.
Y gwir yw, ’sai bob un ohonon ni yn wneud hyn fel rheol, fyddai dim rhaid i’r Blaid Lafur malu awyr am “Gymru ddwyieithog” bellach achos byddai honna yn bodoli, dros nos. Dim angen protestiadau, dim angen carcharu neb. Y peth symlaf yn y byd, ond y peth lleia tebyg i ddigwydd.
[This rest of this post will appear on the blog Rhys is setting up, for blogwyr Cymraeg who want to post English versions of some posts, but don't want to run bilingual blogs. Does that make sense? It'll make more once Rhys gets his shit together. Dere mlân Rhys. ;-)]
Ifor ap Glyn is a Welsh language poet, who was born and brought up in London. As such, he’s more sensitive than most to the need to use one’s Welsh whenever possible. He’s the perfect choice of presenter, therefore, for a new S4C series Popeth yn Gymraeg (Everything in Welsh) which starts on Monday 28th November, and will appear every night at 9.00 for a week.
The premise of the show is simple: Ifor will travel around Wales, speaking Welsh.
Just Welsh.
When he meets someone who says “sorry mate, don’t speak Welsh” he will smile politely and continue… yn Gymraeg. According to Ifor’s blog the reactions he got were overwhelmingly positive, although these may have been mitigated somewhat by the presence of a camera crew. In this post, Ifor talks about turning off the “radar” that tells Welsh speakers whether or not it’s “safe” to siarad Cymraeg with any new person one comes across. The tendancy is to speak English with any new person, unless something tells us that that person can speak Welsh - but this “something” tells us more about our own prejudices than about the other person’s linguistic ability. As the soon to be sadly missed Welsh Language Board keeps reminding us, the only way to know if a stranger speaks Welsh is to start every conversation yn Gymraeg and see what happens. But what Ifor is doing takes the thing to a whole new, and potentially revolutionary (I don’t think that’s too strong a word) level:
There’s a difference between starting a conversation [in Welsh], and insisting on continuing a conversation in Welsh. We’re nervous as bilingual Welsh speakers… but if we were to insist on speaking Welsh, other people in our communities would have to learn. [..]
Do we still have the strength? Through protesting for the externals - official status, roadsigns, forms and so on - have we lost something of the devilishness, the strength of will, which allows people to insist on speaking Welsh?
I don’t suppose for a moment that Ifor is saying that the protesting has not been of fundamental importance, but I agree that the really revolutionary act, — and the only one necessary if only enough people would do it — is speaking Welsh, and only Welsh, at all times.
The irony of me having written more about this in English than I did in the original post isn’t lost on me, but as I said over on maes-e, it’s non-Welsh speakers who really need to see this programme, not Cymry Cymraeg. If you’ve never found yourself in the position of having to use a foreign language in your own country to make yourself understood, you’re less likely to understand how alienating that experience is, or how often Cymry Cymraeg forced to go through it.
Het mewn trwbl
Mae rhywun yn bygythio languagehat â gweithred enllib.
Ac mae pobl ar maes-e sy’n dal i feddwl fy mod i’n ffasgwr am ddileu pethau enllibus.
Dal i fyny
Nôl ar lein ar ôl bron i 3 wythnos heb gysylltiad, diolch i symud tŷ. Wedi symud i mewn i’r lle newydd, ond mae’n mynd i gymryd sbel i mi ddal i fyny gyda phopeth sy wedi digwydd ar y we ers i mi fynd oddi ar lein. Dw i wedi llwyddo sieco fy ebost pob hyn a hyn, ond mae rhai pethau wedi mynd yn drech na fi:

Peiriant y Peli Gleison
Hunllef Heath Robertson am byth.
Ryseitiau Amberel Bwgan
Gwelais i griw bach o fadarch ambarél bwgan yn tyfu yn y clawdd lawr y lôn y bore ‘ma, ond doedd dim amser ‘da fi i stopio i’w casglu, felly bore fory biau hi. Hoffwn i drial cwpl o ryseitiau newydd gyda nhw.
Mae’n rhyfedd cynlleiad o bobl sy’n gwybod bod y madarch ‘ma yn dda i’w bwyta.
MP3au del.icio.us
O’r adran “pethau do’n i ddim wedi sylweddoli o’r blaen”: sut i ffeindio MP3au gyda deil.icio.us, a gwrando arnyn nhw heb eu lawrlywtho.
Mae’n defnyddio tag arbennig: system:filetype:mp3, sy’n dychwelyd bob MP3 sy wedi’i glustnodi gan ddefnyddwyr del.icio.us. Ffordd eitha da o ffeindio rhywbeth ar hap, falle, ond mae’r peth yn dod yn fwy defnyddiol pan ti’n ychwanegu tagiau eraill i’r ymchwiliad. Dyma i chi sesiwn Peel gan Black Sabbath ac wedyn rhywbeth hollol wahanol.
Van der Graaf ym Moscow
Pa ffordd well i ddathlu p-b PH, na thrwy lawrlwtho bootleg ganddo? Dyw’r safon ddim cystal â rhai o’r gigs eraill, ond mae’n well na dim byd.
Qallunajatut
Mae Qallunajatut yn ffilm newydd o wlad yr Inuit, Nunavut, gan yr un criw a wnaeth Atanarjuat, y rhedwr cyflym. Ffilm ddogfennol am fywydau pobl ifaint o drais Inuit sy’n gadael eu cartrefi i fyw yn ninasoedd mawrion Canada.
Ffowc o ddiwrnod
Diwrnod llawn heddi. Dysgu ar Sadwrn Siarad Llambed, dod i nabod criw newydd o ddysgwyr, cael lot o sbort gyda nhw.
Gyrru nôl i weld hanner cyntaf y g&emcirc;m fawr, ond yn lwcus iawn gorfod colli’r ail hanner, gan ein bod ni wedi gwirfoddoli helpu cyfeirio traffig yn y pentre ar gyfer noson tân gwyllt. Ond ddim yn gallu aros i weld llawer o’r rocedi, ganei bod hi’n noson cyfarfod Cymdeithas Ceredigion, ac mae Rocet o Aberystwyth wedi’i saethu lawr yr A487 atom ni, i ddarllen o’i lyfr newydd a thrafod ei brofiadau teithio yn Affrica. Noson ddifyr iawn.
Wedi blino racs, ond dyma’r fath diwrnodau mae dyn yn cofio. GOrmod o’m dyddiau i wedi’u treulio o flaen y sgrîn bach yma, a dw i ddim yn difarru hynny chwaith; jyst meddwl ydw i efallai bod ‘na bethau eraill alla i wneud gyda fy amser.
Y newyddion diweddaraf ar y symud tŵ, i’r rhai sy’n dilyn y hanes gartre, yw ei bod yn bosibl y byddwn ni’n gallu symud dydd Mercher. Os ewn ni i’r ben gyda’r gwaith symud ar y dydd hwnna, alla i fynd i Gateshead dydd Gwener a gweld bob un o’r gigs Van der Graaf. Croeswch eich bysedd, gyfeillion annwyl.
Gormod o rwtsh?
Jyst twlu fe mas. Ti’n gwybod fod e’n wneud sens.
This is what you do: You throw stuff out.
O’r holl bobl i ofyn am gyffuriau
Lemmy yn y Cynulliad. Am ryw reswm anhysbys wnaeth Tori o AC wahodd Lemmy i’n Cynulliad Ni i annerch y siwtiau ar beryglon heroin, gan fod Mr Kilminster yn ei erbyn e.
Lemmy cleared his throat, and took out two typed sheets of white paper, apologising for using notes. Mr Graham looked politely expectant. Heroin was a killer, Lemmy said. Mr Graham nodded. Heroin made people into thieves and liars. Mr Graham nodded again. “There is only one answer,” Lemmy said, “legalise it.” Mr Graham, a former magistrate, blinked twice.
Clasur.
[O'r maes]
Next Page »