Pa mor wael yw’r Da Vinci Code?

Ro’n i’n dechrau meddwl taw dim ond fi oedd e, ond na, wnaeth Geoffrey K. Pullum, Language Log yn casau’r Da Vinci Code hefyd. Fe wnaeth e lywddo lle ffaelus i; do’n i ddim yn gallu bennu’r pennod gyntaf pan triais i fe’n diweddar, ar argymhelliad fy mam annwyl.

“I couldn’t put it down,” chwedl hi.

“I couldn’t put it down fast enough,” meddwn i.

Ro’n i’n disgwyl, o’r heip i gyd, cyfuniad o Name of the Rose a Harry Potter, a dyna beth oedd yn fy rhwystro i rhag ei drial. Dw i’n dwli ar Umberto Eco ond rhoddais i’r gorau i Harry Potter and the Philosopher’s Stone ar ôl rhyw hanner awr. Sdim byd ’da fi yn erbyn llyfrau plant – es i drwy trioleg Phillip Pullman mewn penwythnos – ond mae arddull Rowlingson mor chwyddedig, y peth gorau dw i’n gallu dweud amdani yw ei bod wedi fy ngorfodi chwilio am turgid yn y geiriadur.

Ond mae Dan Brown yn wneud Rowlinson edrych fel Raymond Carver. Sut mae llyfr sy wedi’i sgwennu mor aflêr wedi ennill y fath glod?

Ai dim ond fi yw e?