Mae Mordecai Eisiau Bod yn Awdur

Dw i Eisiau Bod yn Awdur. Un sy’n werth dyfynnu:

Pam datgan hyn ar flog? Wel, mi roedd Chris eisiau bod yn Gymro, ac mi weithiodd yr un tric yn ei achos o. Wn i ddim os oes dyn call sydd ag uchelgais o fod yn awdur Cymraeg.

Felly’r wythnos hon rydw i wedi dechrau ysgrifennu o ddifri, dim fel difyrwaith ond gyda’r nod o gyhoeddi rhywbeth i’r cyhoedd gael ei fwyta a’i dreulio. Ac wedi dechrau darllen hefyd, wrth gwrs, am nad oes modd ysgrifennu yn y Gymraeg heb fod yn darllen yn y Gymraeg. Yn y wythnos diwethaf rydw i wedi darllen Te yn y Grug, y Stafell Ddirgel ac I Fyd sy Well. Does dim modd taflu fyny heb fwyta.

Mae risg o ddatgan hyn, wrth gwrs, achos mi allai’ fethu’n ofnadwy yn fy nhasg. Os yw hynny’n digwydd bydd rhaid i mi ddileu’r cofnod ’ma a honni na ddigwyddodd hyn byth.

Sut wyt ti’n mynd i ddileu hyn ‘te? ;-)

England’s Dreaming

Erthygl wych gan Mark Larson yn y Guardian heddi, am ddadenni’r syniad o “Seisnigrwydd” fel rhywbeth ar wahan i “Brydeindod”.

If Muriel Spark had received the call from Stockholm on Thursday, she would rapidly have been identified as a “Scottish” laureate, emails and letters quickly descending if southern journalism had claimed her for the wider kingdom. Similarly, Paul Muldoon would have been “Irish” or “Northern Irish”. But Pinter, in broadcast bulletins and most newspaper reports, was persistently “British”.

Mae’r un peth yn wir am awduron eraill o Loegr megis Alan Bennett, P.D.James, A.S.Byatt, Tony Harrison, i grybwyll rhai oddi ar dop fy mhen. Nid Prydeinwyr mo’r rhain, ond Saeson. Mae hyn yn hollol glir i ni, ac i’r Albanwyr a’r Gwyddelod, pam mae mor anodd i’r Saeson eu hunain ei weld?

(Mae mwy i ddod ar hyn, ond dw i ddim yn hollol sobr, ac mae hyn yn ardal beryglus. Rhaid sobri, a meddwl mwy.)

Ffordd cwmpasog o ofyn cwestiwn…

Yn fy referrer logs dw i’n gweld bod rhywun wedi dod yma gan roi can you translate eich barn chi am y sw into english i mewn i Google.

Unrhywbeth i helpu:

your opinion of the zoo

Lwcus aeth e ddim i Criddle, byddai hwnna wedi siarsio.

Gan fod ni ’ma:

it’s Welsh and it means “I was the first”. (Dogfael yw’r canlyniad cyntaf am hwnna – dw i ddim yn ei weld e helpu ei ddarllenwyr fel hyn.)

Ac i brofi bod ni’n barod i helpu CYmry hefyd:

y tri prif afon syn llifo yn y mor yn caerdydd: Tâf, Elai, a Rhymni. (Ydy hynny’n iawn?)

Bach yn drist, ond ni yw rhif un gyda Google am y gair erotig. Teitl y cofnod yw Pastai erotig o’r Eidal. Chwilio am bethau poeth?

Bocs cinio fegan

Blog gan fam fegan gyda lluniau o’r ciniawau di-anifail mae’n paratoi i’w mab bob dydd.

Ar yr un trywydd: Bento Moblog, a blog bwyd Frykitty (wedi’i flogio yma o’r blaen).

Meddwl lot am fwyd oherwydd i mi godi llawer o bwysau’n diweddar, stôn a hanner dros y flwyddyn ’ma, ac hyn ar ôl i mi golli bron yn bedwar stôn dros y ddwy flynedd cyn hyn. Hoffwn i gael fy mhysau o dan reolaeth eto, ac un o’r pethau sy’n helpu yw paratoi cinio dyddiol ar y diwrnodau dw i’n ma’s o’r tŷ, yn lle prynu pethau llawn garbohydradau, braster ac/neu aspartame.

Mmm, aspartame.

Ta beth, dw i’n crwydro. Ac mae’n amser cinio.

Hela Bob Dylan, 1977

Ydy pawb yn gwrando ar Bob ar hyn o bryd? Wrth gwrs eich bod chi.

Beth am ddilyn hipi o Sweden a aeth o Stockholm i Efrog Newydd, i Hibbing ac i Malibu, “chwilio am Dylan”. Cafodd ei hela bant o’r “castell” yn Malibu, felly aeth yn ôl i Sweden, gan ffeindio gwraig ar y ffordd.

Stroi fach rhyfedd, gyda lluniau neis.

After a while I only saw clouds, and if I hadn’t brought the pictures of the garbage containers in Hibbing I might have started to doubt the existence of America. Dylan exists. I’ve got records of him.

John Bauer

Newydd dod ar draws cofnod blog ar yr artist John Bauer o Sweden. Am wn i, dw i heb weld gwaith Bauer o’r blaen, ond mae’n hyfred. Cyfoeswr agos i’r Sais Arthur Rackham, roedd steil y ddau artist yn debyg, ac roeddent yn dilanwadu ar ei gilydd.

Mae gwefan Amgueddfa John Bauers yn cynnwys oriel ond er bod llun bach Jac yr Undeb yna, dw i’n methu’n lan ffeindio fersiwn Saesneg o’r safle. Dim ots, mae’r lluniau yn werth eu gweld. Mae’n debyg bod stori Bauer yn un drist; fe foddwyd yr artist, ei wraig a’u mab 3 oed pan suddodd eu fferi i Jonkoping.

[Gol.] Sganiadau o safon uwch. Pwt bach ar Wikipedia.

bARN ar-lein

Mae bARN wedi lawnsio gwefan newydd. Gobeithiwn yn fawr bod bwriad i roi mwy o gynnwys y cylchgrawn ar lein yn y dyfodol. Dw i’n deall bod hyn yn anodd i gylchgrawn sy’n dibynnu ar danysgrifiadau, ond byddai’n adnodd heb ei ail i gael archif cynhwysfawr o erthyglau Barn ar gael ar-lein. Faint o danysgrifiadau byddech chi’n eu colli gan roi mwy o ddeunydd ar lein, dych chi’n meddwl?

(D.S. Er bod bARN yn edrych yn ffynci iawn ar glawr cylchgrawn, mae’n boen yn y pen-ôl i’w deipio.)

R.S. Thomas a Chymreictod

R.S. Thomas and the Problem of Welsh Identity – dim ond un o gasgliad mawr o traethodau beiriniadol, yn Saesneg, gan yr Americanwr Jeffery Triggs. Llawer yna i gnoi’r cil drosto, gan gynnwys dyfyniadau o Portrait of an Artist James Joyce:

The language in which we are speaking is his before it is mine. How different are the words home, Christ, ale, master, on his lips and on mine! I cannot speak or write these words without unrest of spirit. His language, so familiar and so foreign, will always be for me an acquired speech. I have not made or accepted its words. My voice holds them at bay. My soul frets in the shadow of his language.

Wendell Berry, howies a’r Gymraeg

Am grys-T hyfred! Wendell Berry yw un o’m hoff awduron, ac howies yw fy hoff gwmni dillad masnach deg, felly rhaid oedd cael un o’r rhain – er bod rhaid i mi aros iddyn nhw gyrraedd adran sêl y wefan, hefyd.

Yr unig peth sy’n fy moddran i am howies, a dw i’n credu mod i wedi dweud hyn o’r blaen, yw’r ffaith iddyn nhw anwybyddu’n llwyr eu bod nhw’n gweithio mewn ardal Gymraeg. Dim gair o’r Gymraeg yn eu catalog. Dim un crys gyda slogan Cymraeg; mae ganddyn nhw un Ffrangeg wedi’r cwbwl, felly beth yw’r broblem? Mae eu catalog yn llawn enghreifftiau o ba mor feddylgar a right on ydyn nhw am bopeth arall, pam felly anwybyddu iaith frodorol Aberteifi?

Tybed fyddai’r iaith frodorol yn fwy deniadol ’sai fe’n cael ei siarad gan frodorion mwy, ymm, masnachadwy?

Mae howies yn wneud cymaint o bethau iawn – masnach teg, defnyddio deunydd organig, annog pobl i beidio defnyddio cardiau credyd (ie, wir) – mae’n drueni eu bod nhw’n colli’r cyfle yma i adlewyrchu diwylliant yr ardal maen nhw wedi sefydlu ynddi.

Dewch ymlaen howies: what would Wendell do?