Daeth hyn mas o’r trafodaeth ar gofnod blaenorol: y syniad yw y bydd sawl blogiwr Cymraeg yn cyfrannu at blog-ar-y-cyd newydd, gan gyfieithu ambell i gofnod i Saesneg. Os wyt ti’n fodlon wneud hyn, a fyddet gystal â chlicio linc ’ma ac arwyddo yr addewid ar PledgeBank? (Dyw fersiwn Gymraeg PB ddim yn berffaith eto, ond maen nhw’n gweithio arni hi.)
Diolch.
Ypdêt: mae’r addewid wedi llwyddo! Mae trafodaeth ar flog Rhys ynglŷn ag enw’r blog newydd.
Helo, wedi’ weud.
Mae’r addewid wedi llwyddo!
Bydda i’n cysylltu â Rhys nawr i ofyn os ydy e’n fodlon sefydlu’r blog.