“Speaking a dead language since 1977″.
Mae’n debyg bod gen i 10 mlynedd ar Rhys fel Cymro, ond mae ganddo fe bron 20 arnaf i fel Cymro Cymraeg. Dim ond ers 1995 ydw i’n siarad yr iaith farw hon.
Mae’r syniad o Gymry Cymraeg sy’n blogio yn Saesneg wedi fy nharo i yn chwithig hyd yn hyn, ond nawr bod y syniad o flogio yn y Gymraeg wedi ennill ei le, a ydy hi’n amser i ni feddwl am flogio yn yr iaith fain hefyd, fel modd cyrraedd y di-Gymraeg. Chmod, yr “80% of the population of Wales who don’t speak Welsh”.
Mae ’na rywbeth yn digwydd yma, ond mae rhan fwya o Mr Joneses y byd ddim yn gwybod beth yw e. (Sori, dw i’n dal i wrando ar ddim byd ond Dylan.)
Beth am blog-ar-y-cyd yn yr iaith fain gan flogwyr Cymraeg? Oes diddordeb?
[Gol. 28/10/05.] Dw i wedi creu addewid PledgeBank ar gyfer hyn, er mwyn profi rhyngwyneb Cymraeg newydd ar PledgeBank, mwy na dim. Byddai’n help fawr, os wyt ti’n ei lofnodi, i nodi unrhyw gwallau iaith, neu anhawsterau eraill, wrth fynd trwy’r broses ar PledgeBank. Diolch yn fawr. Hoffwn i gael hynny’n iawn cyn dechrau defnyddio PledgeBank am bethau mwy difrifol.
Beth mae eraill yn feddwl o’r syniad o flogio’n Saenseg hefyd? Mae’n ymddangos yn beth braidd yn od dwi’n gwbod, ond gyda llwyddiant(?) blogiau Cymraeg, sydd yn trafod pethau yn ymwneud â Cymru a’r Gymraeg, ychydig iawn sy’n cael ei drafod am hyn yn Saesneg. Yr uig dro mae’r iaith Gymraeg yn cael ei drafod yw ar flogiau’r AS’au Leighton Andrews a Peter Black a dim ond y person mwyaf diflas (fel fi a blogwyr Llafuraidd) sy’n darllen blogiau gwleidyddion.
Dwi’n ceiso cyfyngu’r cyfirieithiadu i byst sy’n ymwneud a storiau am wleidyddiaeth a ieithoedd lleafrifol (nid mond y Gymraeg), yn aml mae’nt yn storiau sy’n ymmdangos ar wefan BBC Cymry’r Byd, ond nid ar wefan BBC Wales.
Dwi’n cael ymwelwyr o Loegr ac America, llawer gyda diddordeb yn beth sy’n digwydd yma ac hefyd gan un neu ddau Gymro sydd efallai ddim yn cyd-weld ond sy’n gwrtais.
Dyna’r ddau grŵp o ddarllenwyr o’n i’n meddwl amdanyn nhw. Dw i’n gwybod bod sawl Americanwr di-Gymraeg (neu sy’m dysgu) yn “darllen” Morfablog yn eitha aml, ond hoffwn i rywbeth sy’n rhoi pethau yn eu cydestun. Ar yr un pryd dw i’n credu yn gryf taw blogio yn y Gymraeg yw’r peth mwya pwysig. Yn fy achos i, dw i’n gwybod o brofiad bod cael mwy o flogiau jyst yn golygu bod llai yn cael ei bostio ar Morfablog.
Gyda llwyddiant cynnyddol blogiaduron Aran, byddai blog Saesneg, gan Gymry Cymraeg, yn fwy tebyg o gyrraedd cynulleidfa eang erbyn hyn.
Sori, fethais i’r bir ‘cyd-flogio’. Beth fyddai’n gallu gweithio yw rhyw fath o blog ’round up’ misol neu wythnosol fel sy’n cael ei wneud yn barod gyda chasgliad blogiau o’r un diddordeb.
Efallai bydda cael rhyw fath o round up yn Gymraeg ac yn Saesneg am bopeth sy’n ymddangos ar y blogiadur (ac efallai ar Blog Cymru).
Gallwn gyd gymeryd tro ar wneud hyn ac yna ei bostio ar Smiling under Buses (neu SuB o hyn ymlaen!), yna bydd yn ymddangos ar BlogCymru.com
e.e.
This week’s Blogiadur Round up
“On Morfablog, Nic Dafis askes should Welsh bloggers consider also occasionally blogging in English to ensure that certain issues not mentione in the English blogging word are discussed.”
“Rhys on SuB is worried that he’s a bit boring as the ‘movie rating’ for his lifestyle is only a mere 12A.”
“Siprys Sanddef is concerned that potential parents in the US deciding on what sex their children will be is an abuse of science”
Byddwn i’n hapus i gyfrannu erthygl o dro i dro i flog o’r fath, ond byddai hynny yn fy ngorfodi i greu blog arall?
Wel, yn y blogiadur gellir darllen am bob math o bwnc gan eu bod i gyd wedi eu sgwennu yn Gymraeg, ond dylai fersiwn Saesneg fod yn gasgliad o bethau sydd a wnelo a Chymru a’r Gymraeg. Faint o bobl fydd yn creu blog “thematig” o’r fath? Oni fydd yn haws creu blog-cylchgrawn lle mae aelodau’n postio iddo yn lle creu blog? Eto ni wnaeth hynny weithio yn achos lleisiau. Dw’i'n hoffi’r syniad o’r “round-up”, ond pwy fydd yn fodlon neud y gwaith?
Naaaaaaa, dim mwy o flogiau Sanddef, pliiis!!!
Cytuno dylai ond cyfieithu blogiau yn ymwneud a Chymru, y Gymraeg (ec efallai ieithoedd lleiafrifol a chenhedloedd di-wladwriaeht eraill).
Gelli’d unai creu un blog arall gyda mwy nag un cyfrannwr, neu eu postio ar fy mlog Saesneg i. Unai bod pawb yn cymeryd o yn ei dro, neu un person yn gwirfoddoli. Gallai roi caniatad i eraill bostio ar Smiling under Buses os chi eisiau.
‘pyst’ yn ymwneud a Chymru a’r Gymraeg, nid blogiau sori
Os wyt ti’n fodlon Rhys, byddwn i’n hapus i fod yn gyfrannwr ar SuB.
Dw i’n meddwl y byddai’r peth yn fwy tebyg o lwyddo ‘sai pawb yn cymryd cyfrifoldeb dros ei gofnodio eu hunain, yn lle un person cymryd cyfrifoldeb dros bawb. Byddwn i’n rhagweld i mi gyfieithu rhyw un neu ddau gofnod yr wythnos o Morfablog, a fyddai hynny yn ddigon hawdd. Ond byddai cyfieithu, hyd yn oed wneud crynodeb fel ti’n awgrymu, deunydd ar dros 20 o flogiau yn ormod o waith o lawer.
Cyfle da i brofi PledgeBank?
Dwi’n ddwyieithog ar http://bratiaith.com erbyn hyn. Ond rhaid cyfaddef fy mod i’n unieithog ar sawl post, a mae Saesneg yn chwythu ei phlwc yn amlach.
http://bratiaith.blogspot.com/
yw’r URL wnes i gamdeipio dwi’n meddwl.
Cytuno efo’r syniad o dorri allan o’r “geto” Cymraeg. Mae na lwyth o bethe yn y Gymraeg sy’ byth yn cael eu trafod yn y Saesneg. Byddwn i’n awgrymu un blog efo nifer o flogwyr Cymraeg yn cyfrannu yn hytrach na “round up”, sy’n swnio ychydig yn tokenistic. Does na’m pwynt deud wrth bobl be sy ar y blogiau Cymraeg os nad ydynt yn siarad Cymraeg, ond mae’n bosib rhoi crynodeb Saesneg ar un blog pwrpasol.
ON Oes na rhywun arall yn cael trafferth mynd ar natwatch heddiw. Oes na broblem tybed?
Dw i ddim yn boddran gyda blogiau sy’n ofni eu darllenwyr
Un blog newydd fyddai orau, gyda pawb yn cyfrannu eu rhai eu hunain, ond efallai person gwahnol yn ei gyhoedid pob tro?
Un problem fyddwn yn ragweld, be bynnag fformat ddefnyddir, fyddai’r ffaith na all y ddi-Gymraeg ddarllen Cymraeg (wel dŷŷ!). Be dwi’n feddwl ydi, hyd yn oed os ydi crynodeb byr 3-4 llinell yn ddigon i enyn diddordeb darllenwr di-GYmraeg at bwnc, unwaith bydd yn mynd i’r post gwreiddiol, bydd yn deall dim o beth mae’r blogiwr yn ei ddweud. Petai ond yn bost byr gyda dolen at wefan Saesneg arall iawn, ond os dio’n bost weddol hir gyda nifer o bwyntiau’n anghytuno a safbwynt, yna nid yw am weithio oni bai bod y post i gyd yn cael ei chyfieithu.
Sut fyddet yn geirio’r ‘addewid’ Nic? “Dwi’n gaddo cyfieithu X post yr wythnos o’m blog os wnaiff X blogiwr arall o’r Rhuithfro yr un fath a’u bostio ar http://www.whataretheyonabout.blogspot.com“?
Sori, heb ddarllen y golygiad:
Newydd arwyddo’r addewid a mae’r addewid yn ymddangos fel hyn:
“I will cyfieithu ambell i gofnod ar fy mlog i Saesneg but only if 5 o flogwyr Cymraeg eraill will gwneud yr un peth.”
Mae e wedi newid nawr (gobeithio bod hynny yn wir i bawb) – a dylai fe newid ‘to cyn bo hir i gael gwared o’r camdreiglo “Fe wna i cyfieithu…”
Ynglyn â dy bwynt am gynnwys y blog Saesneg, beth dw i’n rhagweld wneud yw cyfieithu ambell i gofnod yn gyfan gwbl, gyda’r rhai fel yr un o’t ti’n sôn am ei gyfieithu y rhai mwya tebyg i gael eu cyfieithu. Mae’n bosib y bydd blogwyr eraill yn ei ddefnyddio yn wahanol – oes ots am hynny?
Bydd modd i ddarllenwyr gofyn cwestiynau, yn Saesneg, ar y blog Saesneg. Un peth dylen ni fod yn glir amdano yw beth i wneud gyda sylwadau dwl – dw i’n siwr y bydd digon o’r rhain. Does dim diddordeb ‘da fi wastraffu amser dadlau gyda twpsynod sy’n postio pethau fel “Why do you write in that stupid language? Hur, hur.”
Lico’r enw, gyda llaw. Wyt ti am sefydlu fe?
Rhys – wyt ti’n siwr dy fod di wedi arwyddo’r addewid? Dyw dy enw ddim yn ymddangos.
Nai roi tro arall ar gofrestru.
Cytuno, waeth i bawb bostio arno fel mae’nt yn deimlo sydd orau, bod yn gyfieithiad llawn neu’n grynodeb, bydd hyn yn amrywio gyda cynnwys neu natur y post maen siwr.
Anwybyddu fyddai’r polisi gorau am troliaid, ond wedyn fe fydd na ambell i bost anhylaw dwi’n siwr. Efallai dylid gwnued yn siwr bod dolenni at wefannau gyda ystadegau ayyb ar yr ochr a mond cyfeirio pobl yno os ydynt eisiau dadlau am bethau sydd di’w trafod 1000 gwaith o’r blaen (fel, everybody can speak English blah blah)
Mond syniad oedd yr enw, braidd yn hir wyntog? Hoffwn fwy o awgrymiadau. Mae enw blog fel enwi band, efallai fod yn syniad da ar y dechrau ond anodd i’w ei newid wedyn os chi ddim yn ei licio.
Dwi’n cymryd mai blogs am Gymru a’i diwylliant da chi eisiau, nid blogs yn y Gymraeg sydd ddim yn neilltuol amdan Gymru (fel f’un i) ?
Dyna’r bwriad, ie, i gyfieithu ambell i gofnod am y profiad o fod yn siaradwr Cymraeg, neu am “bethau’r iaith”.
Wps, ond newydd cofio arwyddo rwan a fi yw’r 5ed. Mae fy enw’n ymddangos ar waelod y rhestr.
Os nad oes gan neb enw gwell, oes eisiau i mi osod blog newydd ta? Efallai byddai’n werth i mi bostio am hyn ar fy mlog yn gyntaf i atgoffa pobl a gofyn am awgrymiadau enw.
Ie, grêt, diolch Rhys.
Nic, dwi ar ganol anfon gwahoddiadau i fobol ymaelodi â’r blog newydd. A’i Sara o’r blog castell tywod yw un or addewidwyr? Allai ddim meddwl am Sara arall, er dwi’n siwr mai Sarah yw hi (oni bai ei bod yn Cymreigio ei henw). Dwi wedi anfon gwahoddiad i ti ar dy gyfeiriad nic@maesymorfa gan gymeryd ei fod dal yn gweithio am y tro.
Ddim yn gwybod, sori. Dyw PledgeBank ddim yn rhoi manylion pellach.