I fod yn deg i Alun Pugh, mae e’n gwybod yn union beth mae’n wneud, sef yr un peth mae Plaid Lafur wedi bod yn wneud ers dyddiau George Thomas: cadw’r di-Gymraeg yn ofnus o’r Nashis gan ddweud eu bod nhw mewn perygl o fod yn ddinasyddion ail-radd yn eu gwlad eu hunain. Sôn am y bobl sy’n galw am, a gweithio tuag at sichrau, hawliau sifil i’r 20% o bobl Cymru sy’n siarad Cymraeg fel eu bod nhw yn fygythiad i hawliau sifil y 80% o bobl Cymru sy ddim yn siarad Cymraeg. Mae hyn yn dacteg oedd Southern Democrats yr UDA yn ei ddefnyddio yn y 60au i gadw cefnogaeth y croenwynion tlawd; demoneiddio protestwyr hawliau sifil.
Ac hyn yn yr un wythnos a gollon ni Rosa Parks.
Gorddweud?
Dych chi wedi gweld y ffilmiau o heddweision llusgo aelodau Cymdeithas yr Iaith gan eu gwallt yn ystod protestiadau’r 70au? O’r “Cymry da” gweiddi a phoeri arnyn nhw ar loriau y Swyddfa Bost yn y 60au? Heb y protestiadau heddychlon sy wedi cadw pwysau parhaol ar yr “awdurdodau”, fyddai dim hawliau ieithyddol ’da’r Cymry Cymraeg o gwbl. Mae Alun Pugh yn siarad fel bod siaradwyr Cymraeg yn mynnu bod yn well na’r rhai sy ddim yn medru’r iaith. Ein lle ni yw gofyn am gonsesiynau gan gwmnïau mawrion fel Tesco a Microsoft, ac i beidio bod yn rhy anamyneddgar os dydyn nhw ddim yn cweit yn barod i’n bodloni. Gwell peidio cynhyrfu’r dŵr gormod gan fynnu eu bod nhw’n trin y Gymraeg yn gyfartel â’r Saesneg, neu fyddan nhw… beth? Tynnu eu busnes ma’s o Gymru? Gwynt teg iddynt.
Tasai llywodraeth Cymru â digon o geilliau i basio Deddf Iaith sy’n werth yr enw, byddai’n bosibl dweud wrth Microsoft “either you produce Welsh language versions of all your software, or we install Linux and Open Office on every publically owned computer in Wales”. Ond yn hytrach na hynny, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gorfod mynd at Bill Gates a’u capiau yn eu dwylo, gofyn yn boleit, cynnig talu am y gwaith cyfieithu gydag arian y trethdalwr, ac wedyn dweud diolch yn fawr iawn i Microsoft ym mhob datganiad i’r wasg am y tair blynedd nesaf, fel eu bod nhw wedi wneud ffafr i ni, gan adael i ni wario ein arian ni ar feddalwedd dyn ni wedi talu i’w ddatblygu.
We are idiots babe,
It’s a wonder we can even feed ourselves.
Bob Dylan said that.
Cei di fod yn fy mreuddwyd i
Os ga’ innau fod yn dy freuddwyd di.
Dylan ddwedodd hynny, hefyd.
Mi wnaeth yr erthygl yma fy nfhythruddo innau hefyd. Yr awgrymaid yma bod rhoi hawl i rhywun siarad Cymraeg yn mynd i rhywsut fygwth hawliau rhywun di-Gymraeg i siarad Saesneg, sy’n gwbwl wallgo a dan dîn. Hefyd mae na fath beth a chwmniau aml-wladol, sydd fel mae’r enw’n awgrymmu’n ymsefydlu ym mhob cornel o’r byd ble mae yna elw i’w wneud. Maen’t yn hynod a alluog wrth addasu i ieithoedd a chyfundrefnau’r gwahanol wledydd maen’t yn gwneud busnes ynddo – sut yn union fyddai defnyddio’r Gymraeg yng Nghymru mor wahanol?
Reit dwi off i eistedd mewn ystafell dywyll am ychydig funudau, ond cyn mynd gai ofyn ffarfr? Dwi ddim yn un da iawn am fynegi fy hun, fyddai ots gyda ti pe bawn y cyfieithu’r post hwn ar gyfer fy mlog Saesneg?
Cei, wrth gwrs, sdim angen gofyn. Mae wir angen trafod y pethau ‘ma yn Saesneg, o safbwynt siaradwr Cymraeg. Beth am ddechrau blog ar y cyd yn Saesneg rhwng y blogwyr Cymraeg? Dw i’n siwr byddai diddordeb ymysg pobl di-Gymraeg.
Y mwy dw i’n meddwl am y peth, y mwy blin dw i’n teimlo.
Dychmygwch erthygl sy’n trafod hawliau pobl anabl, sy’n ein hatgoffa bod 90% o bobl Cymru ddim yn anabl, felly “mae rhaid bod yn sensitif a dibynnu ar ewyllys da y mwyafrif”?
Dw i’n tamaid bach “rusty” yng nghymraeg felly gobeithio bydd pobl yn maddau ei safon! Dw i’n cydymdeimlo am yr angen am Ddeddf Iaith ond ar yr un adeg dw i’n credu ei fod yn colli’r pwynt rywsut.
Gan fwyaf, mae lot mawr o ewyllys dda ymhlith Cymry di-gymraeg tuag at yr iaith. Ond mae’n ymddangos i mi fod lot o gefnogwyr i hawliau i’r iaith yn creu ryw fath o “false dichotomy” rhwng siaradwyr gymraeg a’r di-gymraeg. Mae’n eitha hawdd i siarad am yr angen am fuddsoddiad gan gwmniau aml-wladol ac anghofio am y canlyniadau cymdeithasol o dibynnu arnyn nhw.
Beth yw’r pwynt o dibynnu ar cwmniau sy dod i Gymru yn y lle cyntaf achos eu fod yn gallu hawlio incentives (ar gefn y dalwyr treth Cymreig) ac ecsploitio eu weithluoedd am dal cachlyd? Ac sy’n pigo lan a symud i leoliad chepach cwpl o flynyddau nes ymlaen. Ti siarad am agenda’r dosbarth canol sy’n gallu cerdded mewn i siop a mynnu ar yr hawl i’r iaith neu brynu cynnyrch cymraeg a nid y weithwyr sy gweithio am ffyc all ar lawr y ffatri. A ti’n tybio pam mae’n mor rwydd i Lafur i droi pobl yn erbyn y mudiad iaith yn y dde pan dim ond ar yr iaith a nid y contecst cymdeithasol ti’n canolbwyntio ar?
Mae’r agenda’r mudiad iaith ar y cyfan yn rhy cul.
Pwy sy’n colli’r pwynt Jim? Dw i’n derbyn bod ewyllys da ymysg y Cymry di-Gymraeg tuag at yr iaith – y Blaid Lafur sy’n trial darbwyllo pobl bod hawliau sifil i siaradwyr Cymraeg yn rhywfodd yn fygwth i hawliau’r di-Gymraeg. Ond ym mhob maes arall o weithredu er mwyn sicrhau cyfarteledd, dyw dibynnu ar ewyllys da ddim yn ddigon da.
Dw i’n cytuno â ti yn hollol bod ‘na false dichotomy yma, ond sa i’n credu taw ar y mudiadau iaith mae’r bai am hynny.
Dw i hefyd ddim yn deall sut mae mynnu hawliau ieithyddol i siaradwyr Cymraeg yn ymyrryd ar yr ymgyrch “ar lawr y ffatri”. Wyt ti’n meddwl bod pob siaradwr Cymraeg yn pethyn i’r dosbarth canol? Neu dim ond pobl dosbarth canol sy’n siopa?
Mae beirniadu’r mudiadau iaith am ganolbwyntio ar ymgyrchoedd ieithyddol bach yn od. Fyddet ti’n beirniadu y mudiadau gwyrdd am ganolbwyntio ar ymgyrchoedd sy’n trial gwella’r amgylchedd? Neu’r mudiadau heddwch am drial stopo rhyfel? Yn fy mhrofiad i, mae’r unigolion sy’n weithredol yn y mudiadau iaith hefyd yn weithredol mewn sawl maes arall, ac yn sicr maent yn fwy tebyg i fod yn engaged yng nghymdeithasol.
Dydy meddwl bod hawliau ieithyddol yn bwysig ddim yn golygu dy fod di ddim yn meddwl bod hawliau eraill ddim yn bwysig.