Sgwennu at Ddysgwr mewn carchar America?
Newydd ebost sy’n gofyn am bobl i sgwennu at ddyswr Cymraeg sy mewn carchar yn yr UDA.
My neighbour [..] suggested I seek your assistance. Two months ago I received a letter from a young Britisher in an American jail,
appealing for help in learning Welsh, since his learning materials had been confiscated. He is also feeling isolated and cut off. I sent him a grammar,a dictionary, and a novel, and said I’d try to find a Welsh speaking correspondent for him. Do you know anyone who could help, please ? It is not an exacting commitment — just, say, a letter once a month (his release date is September 2006), and he seems a pleasant — and very grateful — correspondent.
Dw i ddim yn nabod y person a sgwennodd y neges wreiddiol, felly dw i ddim am ddatgelu ei enw/ebost yma nes i mi siarad â fe. Yn y cyfamser, gall unrhywun sy’n fodlon helpu gysylltu â fi a wna i basio’r manylion ymlaen. Gadewch neges yma, neu ebostio nicdafis at gmail dot com.
Gwd.
Gwranda, Mr Pugh
Erthygl yn y Western Mail gan Steffan Cravos sy’n ymateb i erthygl Alun Pugh ddechrau’r wythnos.
Alun Pugh naively makes this judgment: “Major companies like Tesco and Ikea are happy to work on extending bilingual provision without the stick of legislation”.
The tokenistic exceptions of sporadic and piecemeal developments to which he refers prove the rule; unless private companies are required by law to operate bilingually, they mostly choose not to do so.
Alun Pugh suggests that a new Welsh Language Act would “alienate the 80% of people in this country who have not been fortunate enough to learn both our national languages”. There is no evidence to support this view and it is surely scandalous for Alun Pugh to be so divisive.
Blogio yn Saesneg - addewid PledgeBank
Daeth hyn mas o’r trafodaeth ar gofnod blaenorol: y syniad yw y bydd sawl blogiwr Cymraeg yn cyfrannu at blog-ar-y-cyd newydd, gan gyfieithu ambell i gofnod i Saesneg. Os wyt ti’n fodlon wneud hyn, a fyddet gystal â chlicio linc ‘ma ac arwyddo yr addewid ar PledgeBank? (Dyw fersiwn Gymraeg PB ddim yn berffaith eto, ond maen nhw’n gweithio arni hi.)
Diolch.
Ypdêt: mae’r addewid wedi llwyddo! Mae trafodaeth ar flog Rhys ynglŷn ag enw’r blog newydd.
43 Places
Dwed wrth y byd beth yw’r 43 Lle ti am ymweld â nhw. Lot o hwyl.
Maen nhw’n agored i ddefnydd o’r Gymraeg hefyd, felly os doi di ar draws lle yng Nghymru gyda enw Saesneg, defnyddia’r botwm “Report a problem with this page” a byddan nhw’n ei newid i’r Gymraeg.
Wel, dyna’r stori ar hyn o bryd.
Llangrannog ar 43 Places
Newydd greu cofnod i Langrannog ar 43 Places, wedyn mynd yn ôl i’r dudalen a gweld llun o garped ein cegin. Sbŵci.
Ddim yn sbŵci o gwbl, mewn gwirionedd - mae’r safle yn tynnu lluniau oddi ar Flickr, yn ôl y tagiau mae pobl wedi defnyddio yna.
Llongyfarchiadau, Catrin a Pob!
Newydd glywed bod Catrin a Pob, y cwpl ifanc sydd am symud i mewn i Maes-y-Morfa unrhyw ddydd nawr, wedi dyweddïo. Wych o beth.
Ond…
Fyddet ti’n gadael i’th ferch briodi hwn?
Fy Merch -> Fy Ngwlad -> Fy Star Wars
Blaenoriaethau. Mae angen cynllun ar bawb.
Smiling under Buses
“Speaking a dead language since 1977″.
Mae’n debyg bod gen i 10 mlynedd ar Rhys fel Cymro, ond mae ganddo fe bron 20 arnaf i fel Cymro Cymraeg. Dim ond ers 1995 ydw i’n siarad yr iaith farw hon.
Mae’r syniad o Gymry Cymraeg sy’n blogio yn Saesneg wedi fy nharo i yn chwithig hyd yn hyn, ond nawr bod y syniad o flogio yn y Gymraeg wedi ennill ei le, a ydy hi’n amser i ni feddwl am flogio yn yr iaith fain hefyd, fel modd cyrraedd y di-Gymraeg. Chmod, yr “80% of the population of Wales who don’t speak Welsh”.
Mae ‘na rywbeth yn digwydd yma, ond mae rhan fwya o Mr Joneses y byd ddim yn gwybod beth yw e. (Sori, dw i’n dal i wrando ar ddim byd ond Dylan.)
Beth am blog-ar-y-cyd yn yr iaith fain gan flogwyr Cymraeg? Oes diddordeb?
[Gol. 28/10/05.] Dw i wedi creu addewid PledgeBank ar gyfer hyn, er mwyn profi rhyngwyneb Cymraeg newydd ar PledgeBank, mwy na dim. Byddai’n help fawr, os wyt ti’n ei lofnodi, i nodi unrhyw gwallau iaith, neu anhawsterau eraill, wrth fynd trwy’r broses ar PledgeBank. Diolch yn fawr. Hoffwn i gael hynny’n iawn cyn dechrau defnyddio PledgeBank am bethau mwy difrifol.
RALI: Dyfodol ein Cymunedau, Caernarfon
Pob lwc i bawb sy’n mynychu Rali Caernarfon ddydd Sadwrn.
Hir ei dafod, byr ei wybod.
I fod yn deg i Alun Pugh, mae e’n gwybod yn union beth mae’n wneud, sef yr un peth mae Plaid Lafur wedi bod yn wneud ers dyddiau George Thomas: cadw’r di-Gymraeg yn ofnus o’r Nashis gan ddweud eu bod nhw mewn perygl o fod yn ddinasyddion ail-radd yn eu gwlad eu hunain. Sôn am y bobl sy’n galw am, a gweithio tuag at sichrau, hawliau sifil i’r 20% o bobl Cymru sy’n siarad Cymraeg fel eu bod nhw yn fygythiad i hawliau sifil y 80% o bobl Cymru sy ddim yn siarad Cymraeg. Mae hyn yn dacteg oedd Southern Democrats yr UDA yn ei ddefnyddio yn y 60au i gadw cefnogaeth y croenwynion tlawd; demoneiddio protestwyr hawliau sifil.
Ac hyn yn yr un wythnos a gollon ni Rosa Parks.
Gorddweud?
Dych chi wedi gweld y ffilmiau o heddweision llusgo aelodau Cymdeithas yr Iaith gan eu gwallt yn ystod protestiadau’r 70au? O’r “Cymry da” gweiddi a phoeri arnyn nhw ar loriau y Swyddfa Bost yn y 60au? Heb y protestiadau heddychlon sy wedi cadw pwysau parhaol ar yr “awdurdodau”, fyddai dim hawliau ieithyddol ‘da’r Cymry Cymraeg o gwbl. Mae Alun Pugh yn siarad fel bod siaradwyr Cymraeg yn mynnu bod yn well na’r rhai sy ddim yn medru’r iaith. Ein lle ni yw gofyn am gonsesiynau gan gwmnïau mawrion fel Tesco a Microsoft, ac i beidio bod yn rhy anamyneddgar os dydyn nhw ddim yn cweit yn barod i’n bodloni. Gwell peidio cynhyrfu’r dŵr gormod gan fynnu eu bod nhw’n trin y Gymraeg yn gyfartel â’r Saesneg, neu fyddan nhw… beth? Tynnu eu busnes ma’s o Gymru? Gwynt teg iddynt.
Tasai llywodraeth Cymru â digon o geilliau i basio Deddf Iaith sy’n werth yr enw, byddai’n bosibl dweud wrth Microsoft “either you produce Welsh language versions of all your software, or we install Linux and Open Office on every publically owned computer in Wales”. Ond yn hytrach na hynny, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gorfod mynd at Bill Gates a’u capiau yn eu dwylo, gofyn yn boleit, cynnig talu am y gwaith cyfieithu gydag arian y trethdalwr, ac wedyn dweud diolch yn fawr iawn i Microsoft ym mhob datganiad i’r wasg am y tair blynedd nesaf, fel eu bod nhw wedi wneud ffafr i ni, gan adael i ni wario ein arian ni ar feddalwedd dyn ni wedi talu i’w ddatblygu.
We are idiots babe,
It’s a wonder we can even feed ourselves.
Bob Dylan said that.
Cei di fod yn fy mreuddwyd i
Os ga’ innau fod yn dy freuddwyd di.
Dylan ddwedodd hynny, hefyd.
Byddwch yn daer, podledu’r gair.
Graffiti Cymraeg - podledu yn y Gymraeg. Erbyn hyn mae’r rhan fwya o beth mae Rhys yn chwarae yn Saesneg, gan fod dim un band Cymraeg wedi cofrestru eu cerddoriaeth yn podsaff.
America We Stand As One
America We Stand As One - mae hyn yn barodi, reit?
Cyfoethog, o’r diwedd
Hmm.

Mae fy mlog yn werth $39,517.80.
Faint yw gwerth dy flog di?
[BoingBoing - sy'n werth lot mwy.]
Gêm y Grid
Tegan, yn hytrach na gêm, dwedwn i, oni bai bod yr amynedd ‘da ti i weithio ma’s lle yw’r lle gorau i glicio a dechrau’r adwaith cadwynnol.
Crefftwyr Tan-y-groes
Adolygiad y BBC o’r llyfr Y grefft o Dan-y-Groes sy’n cynnwys stori awdl “Blodwen Evans” - yr unig hwch i ddod yn agor at frig cystadleuaeth Cadair y Genedlaethol.
Cyngor ar gwpl o bethau
Sut i gael mwy mas o Bloglines. Cwpl o bethau yma do’n i ddim yn gwybod.
Sut i ddenu pobl i ddarllen dy flog. Dylen nhw fod wedi cynnwys “paid blogio mewn iaith mae dim ond hanner miliwn o bobl yn ei deall”, ond does neb yn berffaith.
Llyfrgellwyr wedi’u Gwella
The Modified Librarian - casgliad o lyfrgellwyr wedi’u haddasu.
Yn siomedig braidd, nad ydyn nhw wedi’u trefnu yn ôl cyfundrefn Dewey.
Cronfa Ddata COFLEIN
Mapio henebion Cymru - a sgwennu amdanyn nhw yn iaith Lloegr. (Mae fersiwn Gymraeg “ar y gweill” - un dydd bydd cwango yn wneud rhywbeth yn y Gymraeg yn gyntaf a bydd y fersiwn Saesneg “ar y gweill”. Un dydd.)
Diddorol iawn, er hynny. Wedi ffeindio sawl safle yn ardal Llangrannog ac yn y Waun do’n i ddim yn gyfarwydd â nhw, ac mae’n hwyl i chwarae gyda fe. Ddim yn gweithio ar Safari, a ddim yn edrych yn bert iawn yn IE i’r Mac chwaith.
Ble wyt ti, Jean-Louis?
Jack Kerouac, 1922-1969.
Blogiau Brezhoneg
Blog Beneat, sy’n chwarae yn y band Kelien (digon o MP3au i gael).
Ex-Smith, gan ffan y Fall.
Breizh Zo omp Heñcher - lluniau diddorol yma.
Blogyann, forzhkreatinin, IS-101 sy’n flog tair iaith - Brezhe, française ac íslenska!. Sy’n jyst dangos eich hunan, dw i’n meddwl.
Drueni mod i ddim â’r un gair o Lydaweg.
Next Page »
