Mae rhifyn newydd Tafod allan, bois…
Monthly Archives: Medi 2005
Ffilmiau o’r Dwyrain
Hyd yn oed mwy o stwff o BoingBoing – dyma i chi gasgliad mawr o glipiau ffilmiau wedi’u hanimeiddio o Ddwyrain Ewrop – llawer o bethau rhyfedd a phrydferth yma, ac wedyn reit lawer ar y gwaleod mae ’na glip o ddechreuad ffilm gynnar Tarkovski, Andre Rublev.
Ryseitiau Mam
Mom’s Recipes – dolen arall dw i wedi ei ddwyn o BoingBoing. Mae’n wych y ffordd mae Flickr wedi agor drysau i bobl wneud prosiectau bach prydferth a gwallgo fel hyn.
Charles W. Cushman yng Nghymru
Mae BoingBoing wedi sôn heddi am gasgliad Charles W. Cushman, ffotograffydd amatur o Americanwr. Mae’r lluniau yn dyddio o 1938-1969, ond yn 1961 daeth e yma, i Gymru, ar ei wyliau. Mae’r lluniau o Aberystwyth yn wych, a ti’n gallu gweld faint sy wedi newid a faint sy wedi aros.
Peidiwch â cholli’r dolenni eraill yn y cofnod BB, sef Casgliad Edward S. Curtis a America Mewn Lliwiau, 1939-1945.
Bach o hwyl
(Mae del.icio.us i lawr…)
Testimony: Peiriant Storïau. Gwlad Dyn yr Wyau. Gêm peryglus iawn.
I gyd o Screenhead.
Ymchwilydd Blog Google
Google Blog Search – ffordd arall i ffeindio pethau i wastraffu dy amser arnynt.
Symud i Gymru / Moving to Wales
Symud i Gymru: tips i bobl sy’n meddwl am symud i Gymru fach. Un o’r wefannau ’na lle mae fersiwn Saesneg yn fwy pwysig na’r un Gymraeg, am unwaith.
Moving to Wales: background information for potential immigrants. Good, beefy stuff too.
Many non-Welsh speakers feel a sense of commitment to the traditional language and lifestyle of the area in which they live, a commitment that is sometimes deeper than that of the native Welsh speakers themselves. As Stel Farrar of Bethesda, former Welsh Learner of the Year, said, “I learnt Welsh because I didn’t want to contribute to the decline of the language by bringing up a non-Welsh speaking child.” After a few months in her beginners’ Welsh class, she stopped speaking English to her 2-year-old son. As a result both mother and son were fully bilingual within two years.
Diolch, Rhys!
How to adapt your blogspot.com blog to your language
How to adapt your blogspot.com blog to your language – trosiad o’r fersiwn Gymraeg, yn benodol ar gyfer siaradwyr ieithoedd Celtaidd eraill, ond handi i unrhywun, siawns.
Rhithfro.com
Rhithfro.com – profi profi profi.
[Gol.] Mae’r Rhithfro yn fyw! Da iawn Aled, mae popeth yn edrych yn wych.
MP3au Cymraeg
Mae Norman o’r maes wedi creu tudalen handi iawn sy’n rhestri’r llefydd lle all rhywun ffeindio MP3au Cymraeg.
Mae Pop Peth wedi bd yn dawel iawn yn diweddar – dw i’n meddwl mod i wedi gofyn hyn o’r blaen, ond oes ’na rhywun gyda diddordeb bod yn gyd-flogiwr ar hwnna? Dw i’n fodlon darparu’r storfa am y ffeiliau o hyd, ond dw i byth yn gallu canolbwyntio ar fwy nag un blog ar y tro.
Rho wybod os oes diddordeb.
Diolch.
Natwatch am y tro ola
Mae’r busnes gyda Natwatch yn dechrau cymryd gormod o amser, i ddim pwrpas. Dydy’r ffaith bod y Blaid Lafur yn wrth-Gymraeg ddim yn newyddion i neb bellach – mae’n hollol amlwg i mi taw gweithwyr y blaid honno sydd tu ôl i Natwatch, ond beth yw’r ots? Pobl Plaid Lafur sy’n gyfrifol am rôl Prydain yn y rhyfel hil-leiddiol yn Irac: ydy Natwatch mor ffiaidd â honno?
Pan ffeindiais i fy hunan ddweud wrth un o’r Llafurwyr ’ma fy mod i wedi colli fy nhad yn diwetha, sylweddolais i pa mor abswrd yw’r sefyllfa ’ma. Mewn ffordd, ro’n i’n gofyn am dosturi gan rywun sy’n meddwl taw hyn yw marc llwyddiant y wefan:
they have managed to achieve a front page splash in a regional newspaper and have been responsible for someone losing their job – and have mangaed to come out of it smelling of roses.
Rhywun sy’n meddwl bod hyn yn “amusing”.
Oes wnawn nhw gario ymlaen gyda eu hymgyrch personol, pitw, yn fy erbyn i, wna i ymateb ar natwatchwatch, ond maen nhw wedi cael eu hysbyseb ola fan hyn.
Celestia
Teithio o gwmpas y cysawd heulol, y Llwybr Llaethog a tu hwnt gyda Celestia. Lot o hwyl. Dw i wedi bod yn hedfan o gwmpas Sadwrn am hanner awr.
Buddsoddwch yn Y Byd
Rwy wedi dod i mewn i dipyn bach o arian yn diweddar, felly galla i wneud rhywbeth dw i wedi bod yn gobeithio wneud ers meityn sef prynu cyfranddaliadau ym mhapur dyddiol Y Byd. Dim ond rhyw £40,000 sydd angen arnyn nhw erbyn hyn — na, dw i ddim yn gallu fforddio cymaint â hynny, ond dyw e ddim yn swm anferthol y dyddiau hyn chwaith, nag yw? Llai na 10c y pen gan bob siaradwr Cymraeg yn y wlad.
Hanes Cymdeithas yr Iaith, a’i dyfodol
Dw i newydd sgwennu cofnod hir, ar ôl gwylio’r fideo ar hanes cynnar Cymdeithas yr Iaith o archifau’r BBC, ac wedyn ei golli fe i dduwiau creulon y blogosffêr. Treuliais i ryw awr arno fe, ac oedd yn cynnwys un o’r ffigurau ymadrodd mwya arteithiedig yn hanes rhethoreg Cymraeg. Byddai fe wedi bod yn rhodd i’r genedl, wir i chi.
O wel.
Hanfod y neges oedd gwylia’r fideo hwn ac wedyn dwed wrtha i pam nag wyt ti’n gallu dod i’r Rali yng Nghaerdydd ar Hydref 1af.
Crefftwyr Cymru Wledig
Cyfres o erthyglau yn Saesneg am grefftwyr cefn gwlad Cymru 1933-1934 gan y newyddiadurwr Gareth Jones.
Mae un ar fardd o grudd o Danygroes – sef y pentre anhygoel yna sy’n denu beirdd fel mae Llangrannog yn denu Brummies.
Diolch i Bartiddu am y linc.
Who is ‘price4president’?
[Can't be bothered translating this. If you can afford a lawyer, you can afford a translator.]
Mwy am natwatch, mae arna i ofn, ond gan fod aelodau y Blaid Lafur wedi ymyrryd eto mewn “sgandal” “datguddiwyd” (hynny yw, dyfeisiwyd) gan ein ffrind price4president, dw i’n cymryd y gall pawb dynnu eu menyg nawr. Mae pobl yn colli eu gwaith oherwydd y busnes ’ma.
Sori am y cofnod diwetha, gyda llaw: diflas iawn, dw i’n gwybod, ond ces i frênwêf neithiwr. Ro’n i’n trïal gweithio mas pam mae mor bwysig i P4P dduo fy enw – does bosib bod rhywun yn flin am y cofnodion pitw sy wedi ymddangos yma o bryd i’w gilydd sy’n pwyntio ma’s pethau dwl fel hyn? Sgersli bilîf!
Ond hyd yn hyn, yr unig bobl dw i wedi dod ar eu traws sy’n meddwl bod “price4president” yn unrhywbeth ond trol a chelwyddgi di-gywilydd yw dau aelod etholedig y Blaid Lafur (Cael Sargeant a Leighton Andrews), ac un gweithiwr y Blaid, David Taylor. Mae’r ddolen ola yn mynd at gopi Web Archive o flog David Taylor, gan fod y fersiwn wreiddiol wedi’i dynnu o’r we. Mae’n drueni bod rhywun mor dalentog – ac mor ifanc! – wedi rhoi ffidl ei flog yn y to. Diddorol oedd darllen ei sylwadau ar Steddfod Casnewydd, er enghraifft, lle darganfuwyd bod “many [Welsh Nationalists] are unashamedly racist”. A’r perl bach ’ma, ar y Stupid Liberals:
I used to be slightly sympathetic towards them. I used to think they meant well and that the Tories where the real enemy.
But their recent campaign tactics, materminded by “wizz kid” Lord Rennard means I now hate them just as much as the Tories, which as almost as much as the Nationalists.
Ac wedyn, yn y sylwadau:
Hysterical? – Come off it!
I consider it nothing less than my duty to point out the failings of other political parties.
Hei, mae’n jobsyn frwnt, ond mae rhaid i rywun wneud.
Ymwadiad: dydw i ddim yn awgrymu am eiliad bod unrhyw cysylltiad rhwng “price4president” a “David Taylor”. Dim ond sylwi ydw i taw bob tro mae rhywun yn dweud pethau cas am Natwatch ar flogiau Saesneg (fel hyn neu hyn er enghraifft) mae David Taylor yn popio i fyny i atgoffa pawb pa mor glyfar yw P4P. Mae’r holl beth yn gyd-ddigwyddiad llwyr, siwr o fod.
Technoriti: Natwatch, Labour Party
Etholaeth Plaid Llafur Caerdydd
Etholaeth Plaid Llafur Caerdydd Cardiff West Constituency Labour Party – fyddet ti’n ymddiried mewn plaid wleidyddol sy ddim yn gwybod beth yw enw ei hetholiaeth ei hun yn iaith brodorol y wlad? Ac mae’r linc i’r dudalen “Cymraeg” yn mynd at hen barth sy’n cael ei sgwatio gan gwmni Almaeneg.
Synnu bod y Cymro Cymraeg ’ma ddim yn poeni am bethau fel hyn. Ydy’r we mor boring â’r iaith, Rhods?

