Mae Aran wedi adeiladu’r blogiadur i’w Sgwarnogod, sef “blog o’r blogiau”. Fel cyflwyniad i’r sîn blogio yn y Gymraeg, mae’n heb ei ail, gan fod dim angen cofrestru, na deall terminoleg, na dim byd. Yn ôl Aran, mae eisioes wedi talu am ei le, gan fod mwyafrif o’r bobl sy’n defnyddio Sgwarnog.com ddim yn ymwybodol o’r pethau eraill sy’n digwydd ar y we Gymraeg.
I’r rhai sy’n dod yma am y tro cyntaf ar ôl gweld y cofnod hyn ar y Blogiadur – croeso mawr i chi! Gadewch wybod yn y blwch sylwadau pwy ydych chi. Dyn ni’n hoffi darllenwyr newydd rownd fan hyn.
Eek – dw i ddim yn siwr bod nhw ddim yn ymwybodol am y We Gymraeg yn gyfangwbl! – jesd bod nhw ddim yn darllen llawer o flogiau fel y cyfryw (neu dyna beth dw i wedi clywed ganddynt!)…
Gobeithio bydd rhai yn ddigon dewr i ddweud helo…;-)
Sori, ddim wedi’i eirio’n dda. “Ddim yn ymwybodol o bopeth arall sy’n digwydd ar y we Gymraeg”, fyddai’n well, falle?
Wedi dweud hynny, pwy sy’n ymwybodol o bopeth?
Ti’n awgrymu bod Brenin Ffasgaidd Maes-E ddim yn gwybod popeth?…[syllu mewn ofn].