Croeso, Finn Bach!

Am hanner awr wedi wyth heno, ganwyd Finlay Carter Morris, mab cyntaf fy chwaer Claire a’i gŵr Derek, a fy nai cyntaf innau.

:-)

12 thoughts on “Croeso, Finn Bach!

  1. Llongyfarchiadau mawrion, dewyrth Nic…;-)

    Ti yn deall fod o’n debyg o chwarae rygbi i’r Alban gydag enw fel hynny, ‘dwyt?

  2. Ti yn deall fod o’n debyg o chwarae rygbi i’r Alban gydag enw fel hynny, ‘dwyt?

    Mae’n fwy tebyg i eisiau chwarae pêl-droed i Loegr, gyda Dad fel Derek, mae arna i ofn.

  3. Diolch yn fawr i bawb! Mae Claire a Finn yn wneud yn dda, a byddan nhw’n symud o’r ysbyty yn Amwythig i’r Orthopedig yng Ngobowen heddi.

    Diolch hefyd i’r darllenwr anhysbys a adawodd y neges i mi yn y coleg neithiwr – cymryd taw rhywun sy’n darllen Morfablog oedd hwn, ond does dim syniad ‘da fi pwy ych chi.

  4. pa mor hir tan mae’n berchen ar gyfrif maes-e?

    Ddim yn debyg. Sais fydd e. Mae fy chwaer yn ddi-Gymraeg, ac maen nhw’n byw yn Lloegr. Does dim diddordeb ‘da nhw o gwbl yn yr iaith.

    Mae rhaid i ti geisio bod y ‘cool uncle.’

    Ceisio? Os oes rhaid i ti geisio, ychan, ti’n wastraffu dy amser ;-)

  5. Llongyfarchiadau mawr i dy chwaer a’i gwr a chroeso i Finn. Mwynha dithau dy rol newydd…;-)

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>