Am hanner awr wedi wyth heno, ganwyd Finlay Carter Morris, mab cyntaf fy chwaer Claire a’i gŵr Derek, a fy nai cyntaf innau.
Am hanner awr wedi wyth heno, ganwyd Finlay Carter Morris, mab cyntaf fy chwaer Claire a’i gŵr Derek, a fy nai cyntaf innau.
Yw hyn yn meddwl ein bod ni’n cal dy alw di’n Yncl Nic?
Llongyfarchiadau.
awww! llongyfarchiadau.
Llongyfarchiadau mawrion, dewyrth Nic…;-)
Ti yn deall fod o’n debyg o chwarae rygbi i’r Alban gydag enw fel hynny, ‘dwyt?
Llongyfarchiadau, Ynci Nic.
Ti yn deall fod o’n debyg o chwarae rygbi i’r Alban gydag enw fel hynny, ‘dwyt?
Mae’n fwy tebyg i eisiau chwarae pêl-droed i Loegr, gyda Dad fel Derek, mae arna i ofn.
Llongyfarchiadau Wncwl Nic ☺
Diolch yn fawr i bawb! Mae Claire a Finn yn wneud yn dda, a byddan nhw’n symud o’r ysbyty yn Amwythig i’r Orthopedig yng Ngobowen heddi.
Diolch hefyd i’r darllenwr anhysbys a adawodd y neges i mi yn y coleg neithiwr – cymryd taw rhywun sy’n darllen Morfablog oedd hwn, ond does dim syniad ‘da fi pwy ych chi.
Mabrook habibi !
Llongyfarchaidau Yncl Nic … pa mor hir tan mae’n berchen ar gyfrif maes-e?
Llongyfarchiadau. Mae rhaid i ti geisio bod y ‘cool uncle.’
pa mor hir tan mae’n berchen ar gyfrif maes-e?
Ddim yn debyg. Sais fydd e. Mae fy chwaer yn ddi-Gymraeg, ac maen nhw’n byw yn Lloegr. Does dim diddordeb ‘da nhw o gwbl yn yr iaith.
Mae rhaid i ti geisio bod y ‘cool uncle.’
Ceisio? Os oes rhaid i ti geisio, ychan, ti’n wastraffu dy amser
Llongyfarchiadau mawr i dy chwaer a’i gwr a chroeso i Finn. Mwynha dithau dy rol newydd…;-)