[Can't be bothered translating this. If you can afford a lawyer, you can afford a translator.]
Mwy am natwatch, mae arna i ofn, ond gan fod aelodau y Blaid Lafur wedi ymyrryd eto mewn “sgandal” “datguddiwyd” (hynny yw, dyfeisiwyd) gan ein ffrind price4president, dw i’n cymryd y gall pawb dynnu eu menyg nawr. Mae pobl yn colli eu gwaith oherwydd y busnes ’ma.
Sori am y cofnod diwetha, gyda llaw: diflas iawn, dw i’n gwybod, ond ces i frênwêf neithiwr. Ro’n i’n trïal gweithio mas pam mae mor bwysig i P4P dduo fy enw – does bosib bod rhywun yn flin am y cofnodion pitw sy wedi ymddangos yma o bryd i’w gilydd sy’n pwyntio ma’s pethau dwl fel hyn? Sgersli bilîf!
Ond hyd yn hyn, yr unig bobl dw i wedi dod ar eu traws sy’n meddwl bod “price4president” yn unrhywbeth ond trol a chelwyddgi di-gywilydd yw dau aelod etholedig y Blaid Lafur (Cael Sargeant a Leighton Andrews), ac un gweithiwr y Blaid, David Taylor. Mae’r ddolen ola yn mynd at gopi Web Archive o flog David Taylor, gan fod y fersiwn wreiddiol wedi’i dynnu o’r we. Mae’n drueni bod rhywun mor dalentog – ac mor ifanc! – wedi rhoi ffidl ei flog yn y to. Diddorol oedd darllen ei sylwadau ar Steddfod Casnewydd, er enghraifft, lle darganfuwyd bod “many [Welsh Nationalists] are unashamedly racist”. A’r perl bach ’ma, ar y Stupid Liberals:
I used to be slightly sympathetic towards them. I used to think they meant well and that the Tories where the real enemy.
But their recent campaign tactics, materminded by “wizz kid” Lord Rennard means I now hate them just as much as the Tories, which as almost as much as the Nationalists.
Ac wedyn, yn y sylwadau:
Hysterical? – Come off it!
I consider it nothing less than my duty to point out the failings of other political parties.
Hei, mae’n jobsyn frwnt, ond mae rhaid i rywun wneud.
Ymwadiad: dydw i ddim yn awgrymu am eiliad bod unrhyw cysylltiad rhwng “price4president” a “David Taylor”. Dim ond sylwi ydw i taw bob tro mae rhywun yn dweud pethau cas am Natwatch ar flogiau Saesneg (fel hyn neu hyn er enghraifft) mae David Taylor yn popio i fyny i atgoffa pawb pa mor glyfar yw P4P. Mae’r holl beth yn gyd-ddigwyddiad llwyr, siwr o fod.
Technoriti: Natwatch, Labour Party
17 Comments
Mae ‘na ‘David wedi bod yn gadael sylwadau ar fy mlog i yn ddiweddar hefyd, ond do’dd dim syniad ‘da fi pwy o’dd y person dan sylw. Diolch am y wybodaeth, Nic.
Na, David Jones yw hwnna.
Pwy di’r David Taylor ‘ma te?
O le mae o’n dod? A be yn union mae o’n ei wnued i’r Blaid Lafur?
Ydi o yn cael dalu gan y lywodraeth? Fath a Adrian McMenamin?
Rhaid gwybod mwy amdan y boi cyn i ni streicio.
Wedi ebostio P4P ddiwrnod o’r blaen fy hun, yn resymegol ddigon (gweler fy mlog). Syrpreis, dim ateb.
Gyda llaw, ella ddylech chi beidio siarad efo radical ddansierus fel fi! Ddisgwyl i’r Torygraph gyhoeddi llythyr fechan fach ddwy linell gen i ddydd Sadwrn (am y Gymraeg) – wi wedi cael un cerdyn post o Hate Mail, a sawl llythyr ganddryll o grac fel ateb yn nhudalennau’r Telegraph drwy’r wythnos…
Gwelwch: http://www.blogger.com/comment.g?blogID=13551159&postID=111835780683591911
“I’m assuming this is same David Taylor who set up an “annonymous” (sic) campaigning for Clare Short to be kicked out of New Labour for actually speaking against old Tony?
The same David Taylor who was little Jessie’s campaign manager?
The same David Taylor who has ran numerous Labour Party websites and who was “tipped for stardom in New Labour by the Sunday Express and dubbed “one of the most powerful teenagers in Britain”. He he he.”
Dw i ddim yn gallu pwysleisio hyn ddigon: na ddyled sgwennu at gyfeiriad natwatch@gmail.com, oni bai eich bod chi’n hapus gweld eich sylwadau cael eu defnyddio allan o’u cyd-destun er mwyn sbardduo eich cymeriad. Unig bwrpas natwatch yw i wylltio pobl, yn y gobaith y byddan nhw’n ymateb mewn ffordd mae P4P yn gallu camddarlunio i’w ffrindiau yn y Blaid Lafur.
Dwi’n gwneud yr honiad ei f/bod yn siaradwr Gymraeg.
Dolen
O wel y post yma. Edrychwch sut mae wedi ysgrifennu cyfeiriad llety Mr Dafis.
“The Beudy” syn dangos fod y person wedi darllen yn hytrach na copio, ac yn gyfarwydd gyda’r iaith i gyfieithu “Y” i “The”.
Da ni’n dod yn agosach.
“The Beudy” sydd ar fersiwn Saesneg ein gwefan, Huw.
O.
(Un o’r sylwadau gorau erioed ar Morfablog.
)
Mae David Taylor wedi cysylltu â fi i wadu bod unrhyw cysylltiad rhyngddo â Natwatch, felly dim ond cyd-digwyddiad yw’r cyfan, wedi’r cwbl.
Sori David.
Felly David Taylor, ymchwilydd Leighton Andrews AC sy’n rhedeg Natwatch ie? Dere mlaen David, ni’n gwbod dy fod yn siarad Cymraeg, os nad yw hyn yn wir, beth am ei wadu yn gyhoeddus yma?
So it’s David Taylor, Leighton Andrews’ Researcher, that’s the ‘brains’ behind natwatch? Cmon David, we know that you ‘can’ speak Welsh, if this isn’t true, deny it here.
Fel dwedais i o’r blaen, mae David Taylor wedi gwadu bod unrhyw cysylltiad rhyngddo â Natwatch.
Ydy David Taylor wedi gwadu hyn, yn yr un modd y gwnaeth Ron Davies wadu eu fod yn hoffi moch daear?
Has David denied his involvement in Natwatch in the same way that Ron Davies denied that he was fond of badgers
Is there a denial available somewhere on this site?
Mae e wedi ei wadu mewn ebost i fi. Gan nad oes unrhyw dystiolaeth i brofi ei fod e ddim yn dweud y gwir wrtha i, dw i’n fodlon derbyn ei air.
Cyd-ddigwyddiad arall. Newydd ddarllen am achos y Lib Dem sy wedi’i orfodi dewis rhwng ei flog a’i blaid, diolch i ymgyrch castiau brwnt gan y Blaid Lafur yn Durham. Mae’r erthygl ‘na yn sôn am ddigwyddiad tebyg arall, o sylwadau mewn ebost yn cael eu dyfynnu mas o’u cydestun ac wedyn eu cyhoeddi mewn papur lleol, y tro ‘ma yn ystod is-etholiad Hartlepool -gwelerstori’r Guardian am hyn:
The third assault was a devastating surprise. On August 27, Dunn had written in her blog about a dispiriting evening out canvassing with Simon Hughes. “It didn’t just rain last night, it poured,” she wrote. “In fact the evening became one of the more farcical moments of the campaign. We’d picked what appeared at first to be a fairly standard row of houses. As time went on however, we began to realise that everyone we met was either drunk, flanked by an angry dog or undressed.”
The blog had continued with a joke about how Dunn looked like Worzel Gummidge in the rain. Ed Fordham had checked the copy as usual before posting it online. Nothing he read had sounded alarm bells.
The Labour printing machines turned again, and this time Hartlepool woke up to the news on its doormat that Dunn had accused them all of being “either drunk, flanked by an angry dog, or undressed”.
Nawr ‘te, pam mae geiriau “Hartlepool” a “bi-election” yn canu cloch gyda fi? O ie, oedd David Taylor lan yn y gogledd pell yn ystod yr ymgyrch hynny.
Fel dwedais i, cyd-ddigwyddiad llwyr.
Mae’n amser i’r person tu ol i p4p gyfaddef mai fe sydd wrthi.
Mae pawb yn gwybod mai fe sydd wrthi. Trwy wadu mai fe sydd wrthi yr oll mae’r person yn gyflawni mewn gwirionedd yw dangos i bawb gymaint o gelwyddgi yw ef.
Y peth doniol yw fod y person yma’n meddwl fod rhedeg y wefan faleisus ddi-enw yma’n mynd i hybu ei yrfa.