Helo blogiadur.com!

Mae Aran wedi adeiladu’r blogiadur i’w Sgwarnogod, sef “blog o’r blogiau”. Fel cyflwyniad i’r sîn blogio yn y Gymraeg, mae’n heb ei ail, gan fod dim angen cofrestru, na deall terminoleg, na dim byd. Yn ôl Aran, mae eisioes wedi talu am ei le, gan fod mwyafrif o’r bobl sy’n defnyddio Sgwarnog.com ddim yn ymwybodol o’r pethau eraill sy’n digwydd ar y we Gymraeg.

I’r rhai sy’n dod yma am y tro cyntaf ar ôl gweld y cofnod hyn ar y Blogiadur – croeso mawr i chi! Gadewch wybod yn y blwch sylwadau pwy ydych chi. Dyn ni’n hoffi darllenwyr newydd rownd fan hyn.

Typetester

Gill Sans neu Comic Sans? Tahoma neu Verdana? Mae Typetester yn declyn i gymharu ffontiau sgrîn yn erbyn ei gilydd. Hawdd iawn i’w ddefnyddio, mae hyd yn oed yn creu’r CSS yn awtomatig.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd |

Discardia

Un o’r Adran Gydamseredd: y bore ’ma dyn ni wedi cael cyfres o ymweliadau gan bobl a welodd hysbyseb Philippa yn y Teifi Seid a ddwedodd “AM DDIM: hen rwtsh tydynnol.” Hen ffenestri wedi’i torri, olwynion beic, tarps, darnau bach o fetal rhwdlyd, mae gennym ni bopeth.

Wel, oedd gennym.

Anhygoel beth bydd pobl yn ffeindio yn ddefnyddiol.

Ta beth, dyma fi ddod at y Mac, ac i ffrwd Beca yn Bloglines (lle ffeindiais i LibraryThing neithiwr), a beth yw’r linc nesa ond un?

Discardia – gŵyl newydd i bobl gyda gormod o stwff.

Discardia is celebrated by getting rid of stuff and ideas you no longer need. It’s about letting go, abdicating from obligation and guilt, being true to the self you are now. Discardia is the time to get rid of things that no longer add value to your life, shed bad habits, let go of emotional baggage and generally lighten your load.

Mae gan metagrrl gofnod arall ar gael gwared â stwff sy’n hefyd werth ei ddarllen.

Pam “cydamseredd”. Achos mae Discardia yn ŵyl symudol:

The exact days vary. It takes place in the time between the Solstices & Equinoxes and their following new moons. Sometimes it’s short and sometimes it’s long.

Ond yn ôl y calendr hwn, mae Discardia nesa yn dechrau… heddiw.

Amser i mi fynd i Oxfam.

Ebost call, breuddwyd gwrach?

Sut i sgwennu ebost call. Cyngor da i unrhywun sy’n defnyddio ebost, ond wishful thinking, braidd.

Byddai’n ddechrau da ’sai pobl yn gallu cofio i beidio anfon atodiadau Microsoftaidd at bobl sy’n methu, neu sy’n gwrthod, eu hagor. Dw i’n gwybod fy mod i wedi colli o leia un “memo pwysig” gan fy adran yn y coleg yr wythnos ’ma, er i mi ofyn ddwywaith i gael testun y neges mewn ebost, yn lle fel *.doc.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd |

Coelbrennau Flickr

Mae Sanddef (sydd â mwy o flogiau na thi, wedi creu cyfrif Flickr sy’n cynnwys lluniau coelbren y derwyddon. Mae’n defnyddio “bathodyn Flickr” i ddangos un llun ar hap ar ei flog – fel y’i esbonir yma.

Felly, meddyliwch am gwestiwn, ewch i flog Sanddef a rhoi clec ar lun y goeden ar yr ochr dde…

Cw: Beth dylwn i wneud am Natwatch?

aethnen yn y gogledd

Ateb: wyt wedi dy ddal mewn rhwyd. cadw’n dawel ac ystyried dy strategaeth.

Annaearol!

Devendra Banhart

O’r diwedd, mae rhywbeth wedi fy stopio rhag gwrando ar Van der Graaf trwy’r dydd, sef albym newydd Devendra Banhart.

Dw i wedi gwrthsefyll apel Nicky Drakaidd y boi Banhart hyd yn hyn, ond mae’r un newydd wedi fy ennill drosodd i’r pwynt lle dw i wedi canslo pwyntiad gyda’r ferch trin gwallt fory.

Dyma fideos ganddo: Little Yellow SpidersAt The Hop, A Ribbon, ac o’r albym newydd, I Feel Just Like a Child.

Hefyd, mae’n f’atgoffa i o fy hen ffrind, Sebastian, yn ei ogoniant hipi. (Mae Flickr i lawr, bydd llun neu ddau i fynd gyda hyn…)

[Gol. 24/09/05]

Mwy o fideos Devendra Banhart, mewn sesiwn yn y BBC.

Sut i Ddysgu Iaith

How to Learn a Language – erthygl ar kuro5hin.org llawn tips i unrhywun sydd yn meddwl am ddysgu iaith.

Mae gan Suw gyfres o gofnodion wedi’i seilio ar ei phrofiadau hi o ddysgu Cymraeg.

Mae rhaid i mi bostio mwy am ddysgu, gan fy mod i ddim wedi wneud dim byd gyda dysgu.com dros yr haf – ac erbyn hynny mae’r URL ’na yn pwyntio yn ôl at yr hen Forfablog ta beth. Mwy o stwff i ddysgwyr! Unrhyw awgrymiadau?

Some links for language learners, specifically Welsh. I’ll be posting more stuff for learners (and relaunching a mailing list I’ve neglected shamefully over the summer) – any suggestions gratefully received. Click on Sylw below this entry to leave a comment, or email me at if you’d like to be on a mailing list for people learning Welsh in South Ceredigion.