Arts et Métiers Graphiques

Dw i’n benderfynnol i beidio treulio’r ddwy awr ola cwyno am ba mor flinedig ydw i – ystyr Blogathon yw 24 awr o flogio, nid 4 awr o flogio ac 20 o deimlo yn drist dros dy hunan bach. (Ond dw i yn anhygoel o flinedig, os bydd hynny yn dy wneud di yn fwy tebyg i roi tipyn bach yn y bwced.)

Dyma wefan Arts et Métiers Graphiques, sef y cylchgrawn teipograffi a dylunio dylanwadol o Ffrainc.

Blodeugerdd Blogiau MP3

Ddim yn gwybod os dych chi wedi gweld Y Selar, gyda’r erthygl benigamp gan “archdderwydd y we Gymraeg”?

*ahem*

Y broblem gyda sgwennu pethau am y we ar gyfer cylchgronau yw erbyn i’r erthygl weld golau dydd, bydd y we wedi symud ymlaen, a bydd hanner can mil o flogiau MP3 newydd i gael. Dyma rhai newydd sy wedi bod yn llenwi’r iPod yn diweddar.

Cymry’n ‘troi i’r Saesneg’

Yn ôl enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni, un o’r prif broblemau sy’n wynebu dysgwyr o hyd yw amharodrwydd Cymry Cymraeg i siarad yr hen iaith gyda rhywun sydd ag acen Seisnig, rhywbeth dw i wedi sôn amdano yma o’r blaen.

“Unwaith yr oeddwn wedi mabwysiadu’r acen roedd pobl yn siarad yn fwy naturiol efo fi gan fy mod yn swnio fel Cymraes go iawn.

“Un o’r problemau i ddysgwyr yw bod swits ym meddyliau’r Cymry Cymraeg a phan maen nhw’n clywed acen Seisnig maen nhw’n troi i’r Saesneg.”

Saeson Obsesiynol

Mae gan Adele Prince hobi bach od: mae hi wrth ei bodd canfod trolïau siopa ar strydoedd dinasoedd mawrion Lloegr.

Mae rhaid i rhywun wneud, sbo.

Dydy hi ddim ar ei phen ei hunan chwaith.

Bocs rhegi rhithiol?

Bydd Dogfael yn lico hyn: merch sy’n tynnu llun o bopeth mae hi’n bwyta am flwyddyn. Popeth.

Saeson, eh? Ffaelu byw gyda nhw, ffaelu wneud jôcs am losgi eu tai haf i lawr.

(Y nodyn anghenrheidiol: nid “y Saeson” yw gwir targed ein dirmyg eironig yma, ond “yr artistiaid cysyniadol”. Dyn ni’n chwarae gyda’r syniad o fod yn philistaidd, ond i fod yn deg, mae rhai o’n ffrindiau gorau yn artistiaid cysyniadol. Diolch am fod yn amyneddgar.)

Cymro Glân, Di-loyw

Wedi cael y cawod dw i wedi bod yn edrych ymlaen ato ers tair awr (anghofiais i droi’r dŵr ymlaen). A dyma ni ar brig yr awr, felly dw i’n mynd i drial postio un cofnod bob hanner awr o hyn ymlaen, a gosod camre i fy hun.

Saith awr i fynd. Dim problem.