Oes ‘na rywbeth arall i wylio?

Greenie Watch, PC Watch, Daily Mail Watch, Blunt Watch (ond mae Doobie Watch dal ar gael), SalesForce Watch, Coke Watch (bŵ!), Starbucks Watch (hwrê!), GMO Watch, Lib Dem Watch, Food Watch, Food Porn Watch, Warblogger Watch, Aging Hippie Feminist Watch, Tony Blair Watch, Bush Watch, Gore Watch, Nat Watch, Nat Watch Watch, Nat Watch Watch Watch

Na, sori, wnes i hwnna lan.

Ond stil, pam lai? Pwy sy’n gwylio’r gwylwyr gwylio’r gwylwyr, eh?

An open letter to the owner of Nat Watch

Nat Watch :: Will the real Nic Dafis please stand up?.

A few weeks ago, we asked our readers to help us identify Nic Dafis. We wondered which branch of the Nats he was a member of, and we also wanted to know if he was one of their spokespersons on energy, these questions remain unanswered.

Let’s see if we can make it a bit easier for you. This might take a while.

Continue reading

Cymraeg ar Radio One

Buodd rhaglen ar Radio 1 yn gynnar y bore ’ma yn gyfan gwbl yn y Gymraeg. Cyflwynwyd gan Bethan Elfyn ac Aled Hayden Jones, ac mae’n gynnwys cyfweliad â Gruff Rhys.

Mae ar gael ar lein am wythnos, ac mae dod ag is-deitlau, i’n ffrindiau Saesneg eu hiaith. Is-deitlau ar y radio, nawr mae hynny yn syniad newydd, ond dw i’n synnu pa mor dda mae’n gweithio.

Radio 1 did an hour in Welsh last night: Welsh language records, Welsh links, and an interview with Gruff Rhys in the middle. The show will be available on-line for a week, and there are subtitles, which work surprisingly well. It’s a shame Radio Cymru don’t do the same, but then I can’t remember I heard a solid hour on C2 without any English language records, and even though Aled and Bethan say at the beginning of this show, to my ears they’re actually using less English slang than you’d normally hear on C2. Very cool. Wir yr.

Cymru Feel The Noise

Gruff Rhys yn yr Observer heddi ar sut i brynu cerddoriaeth Cymraeg. Mae’r nodiadau wedi’u hail-dwymo o nodiadau Gruff i’r CD Welsh Rare Beat, ond dal yn dda i’w weld.

Tipyn bach yn llai defnyddiol yw 10 uchaf o gerddoriaeth Cymru, sy’n cynnwys John Cale, rhywun sy wedi byw a gweithio yn America ers 1965, a’r Manic Street Preachers, band sydd â dim byd i’w wneud â Chymru, am wn i – dim llyfrau ar hanes Cymru yn llyfrgell Coed Duon, efallai?

(Diolch i Nick Raine am f’atgoffa i am hyn.)

Copa Crib

Dwedais i wrth Joss, mynyddwr o fri, na fyddwn i’n sôn am ei flog newydd am wythnos neu ddwy, achos doedd e ddim am i bobl fynd i fyny Copa Crib a ffeindio doedd dim byd wedi ei sgwennu arno – ond erbyn hyn, tridiau yn diweddaraf, mae mwy o gynnwys ar y blog nag sydd ar rai sy’n bodoli ers chwe mis a mwy.

Y Post Ola’

Wel, dyma ni, diwedd Blogathon arall. Diolch yn fawr iawn, iawn, iawn i bawb sy wedi fy noddi. Gobeithio bod rhywbeth yma wedi bod o ddiddordeb. Mi gewch chi ebost gan bobl y Blogathon yn y man sy’n esbonio sut i dalu (oni bai eich bod chi wedi talu yn barod, wrth gwrs).

Mae wedi bod yn dawelach eleni, diolch i’r amseri falle, ond dw i wedi mwynhau.

I’d like to add a special thank you to my Mum, Anne Davies, and to the all rest of the family and friends who have helped raise this money for Nightingale House. I’d also like to thank the wonderful staff at the Hospice for taking such good care of my Dad in his last couple of months, and for being so ready to offer support to the whole family.

I’m sorry I haven’t blogged more bilingually – that was certainly the intention, but I found I was getting bogged down with too much to think about.

Alun will translate everything, I’m sure… ;-)

Nos da…