Hatfield, Throbbing Gristle a’r Talwrn

Ro’n i am flogio am hyn ddoe, ond tynnwyd fy sylw gan ffycwit*. Ces i noson dda iawn yn Llambed nos Lun. Tra oedd Philippa yn gwylio’r cadeirio yn y Steddfod, es i i siop Hag i fodio trwy’r hen feinyl yn y gobaith o lenwi’r unig dwll sydd ar ôl yn fy nghasgliad Van der Graff Generator. Dim lwc ’na, ond mi ffeindiais i CD gan Hatfield and the North, un o’r bandiau prog “clasurol” o Loegr dw i heb glywed tan nawr – mae hyn yn mynd i fod yn ffefryn – ac hefyd cwpl o bethau gan Throbbing Gristle. Mae TG yn un o’r bandiau ’na mae dyn yn clywed amdanyn nhw, yn gwybod eu bod nhw’n “ddylanwadol”, ond yn ofni bod hynny yn lledneisair am “anwrandawadwy”, os ydy hynny’n air. Mae un albym ’da fi ganddyn nhw ar feinyl, hanner can ceniog o sêl cist ceir, ond mae hynny yn boenus ar y clustiau. Felly, cymerwyd siawns, a phrynu 20 Jazz Funk Greats, sydd â chlawr arbennig. Record gwych hefyd, a lot mwy o laffs na Psychic TV.

Safle swyddogol TG. TG ar Wikipedia. Undefined (gweffan).

Ar ôl hyn, i’r Llew Du â fi, a chael peint gydag aelod o dîm talwrn Gwesty Emlyn**, cyn mynd i’r talwrn ei hun. Llawer o hwyl, fel arfer, ac unwaith eto dw i’n cael fy nharo gan y cyfoethogrwydd anhygoel yn y diwylliant ’ma. Llai na hanner cant yn y cynulleidfa, a ni yw’r unig bobl a fydd yn clywed y rhan fwya o’r cerddi cafodd eu darllen ar y noson.

Mae rhywbeth yn digwydd ’ma, a ti ddim yn gwybod beth yw e, wyt ti, Mr Jones?

Llongyfarchiadau i’r dau dîm a ddaeth i’r brig, sef y Gler a’r tîm o Gaerfyrddin (ddim yn cofio eu henw go iawn, sori).

Pa dîm talwrn fydd yr un cynta i gael gwefan eu hunain, tybed?

* gyda llaw, mae dim ond un canlyniad am y gair ffycwit ar Google ar hyn o bryd. Dw i’n Google.

** (Gol. 6/1/06 Hoffai Emyr Oernant i mi bwysleisio taw nid aelod Tîm Tanygroes oedd hwn, ond un o dîm Crannog. Os dw i’n cofio’n iawn, mi oedd aelodau’r ddau d&icric;m yn cystadlu fel un Uwch Dîm ar y noson honno, ond mae’n bosibl, debyg hyd yn oed, fy mod i’n camgofio’r manylion.

Ar nodyn arall: mae Emyr Oernant yn darllen Morfablog! Mae hynny yn wneud lan am Dogfael yn cael ei ddisgrifio fel “blog gorau yn y Gymraeg” yn Barn pwy wythnos.)

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>