Rhaid i mi ddweud i mi fod braidd yn sinicaidd pan glywais i bod Cyd wedi cael grant o rhyw £4500 o bunnoedd er mwyn creu gwefan newydd, ond dw i’n hapus iawn i gyfaddau taw fi oedd yn anghywir, ac mae’r wefan yn edrych yn ddefnyddiol iawn. Dw i’n lico’r ffordd nad yw’r Saesneg yn ymddangos yn awtomatig, sy’n rhoi’r dewis i’r dysgwyr sy’n ei defnyddio faint o help maent am ei gael.
Braf iawn i weld eu bod nhw’n cadw digwyddiadur ar y safle, yn enwedig achos fy mod i wedi bod mor ddiog gyda’r rhestr postio dw i fod i gadw – dim ebost ers dechrau gwyliau haf. Dw i’n gweld bod y digwyddiadur ag opsiwn i adael i “staff yn unig” olygu (ac ychwanegu?) manylion digwyddiadau – a fydd yn bosibl i adael mwy o bobl i mewn i’r sustem hwn? Hefyd, os ydy’r sustem ’na yn mynd i dyfu i fod yn adnodd cenedlaethol, a fydd yn bosibl i hidlo canlyniadau ymchwiliad gan “leoliad”, yn ogystal â chan “dyddiad”?
Lle mae’r arian wedi mynd? Am £4,500 fasen i’n disgwyl dyluniad o safon uchel, system rheoli cynnwys llawn o dan reolaeth y cwsmer, newyddion a digwyddiadau chwiliadwy. Dwi ddim yn hoff o’r cysylltiadau gweinyddu yn bobman chwaith.
Ond mae’n well na beth oedd na o’r blaen, sef dim byd?
Mae hen wefan dal yna. Mae’r un newydd yn llawer gwell.
Awgrymiad arall: gan taw’r hen gyfeiriad yw’r canlyniad cyntaf ar Google am rai ymchwiliadau amlwg, falle byddai’n syniad tynnu fe i lawr, ac ail-gyfeirio ymwelwyr i’r wefan newydd?
£4,500 – llawer o bres! Ro’n i’n disgwyl gweld y gwefan newydd ym mis Ebrill! Dw i wedi dweud wrth un o’r swyddogion am y hen wefan (mae’n dal yn dweud pethau’n anghywir – ers tair blynedd neu hirach).
Fel dylunydd y wefan, rhaid i mi ymateb i’r sylwadau, y rhai gan Dafydd yn arbennig.
Dydy’r £4,500 ddim wedi mynd yn gyfangwbl eto! Am y pris ‘swn i’n disgwyl system rheoli cynnwys hefyd, a dyna beth sydd yno, a llawer mwy! Ar hyn o bryd rydyn ni’n jyst profi’r system ar gyfer canghennau, ond mae’r system yn cynnig eisoes:
- opsiynau i swyddogion cangen (sydd wedi cofrestru – nid pawb yn y byd) ychwanegu tudalennau, lluniau, adroddiadau o ddigwyddiadau, manylion digwyddiadau i’r digwyddiadur ayyb.
- opsiyn i’r staff ychwanegu dogfennau pdf ayyb (e.e. cofnodion) i helpu gyda chyfathrebu mewnol. Gallen nhw hefyd ychwanegu tudalennau newydd wrth gwrs, gan gynnwys ffurflenni ymateb (bwcio lle ar benwythnos?, gofyn am e-byti?).
- System chwilio i’r holl safle, gan gynnwys digwyddiadau, newyddion, tudalennau a dogfennau PDF (gan gynnwys yr archif Cadwyn Cyd).
Rydyn ni’n trefnu hyfforddiant dros y penwythnos nesaf ar gyfer y staff i gyd ar sut i olygu’r wefan. Wedyn gallen nhw ychwanegu llawer mwy i’r digwyddiadur ayyb.
Fe fydd rhan nesaf y gwaith (dydyn ni ddim wedi gorffen eto!) yn gynnwys databas aelodaeth a fydd ar gael i bob swyddog yn y parth cyfyngedig hefyd. Rydym yn bwriadu ychwanegu cyfleusterau e-fasnach hefyd er mwyn i bobl dalu am gyrsiau/aelodaeth ayyb ar-lein. Newid arall fydd mwy o opsiynau o safbwynt dangos y digwyddiadur – rhestru dim ond digwyddiadau mewn un ardal ac ati.
Fe wnaethon ni benderfynu i beidio ychwanegu sawl peth (stafell sgwrsio ayyb) oherwydd bod pethau tebyg, gwell ar gael eisoes (maes-e?).
Problem arall wrth gwrs gyda gwefan lle mae’r perchnogion yn cyfrifol am y cynnwys yw cael y cynnwys. Mae’n proses hir bob tro – mae’n gwell dechrau gyda rhywbeth syml ac ychwanegu ati, pan fydd pobl wedi cael y siawns i weld beth sy’n bosibl a pharatoi deunydd.
Y cynllun gwreiddiol oedd lansio rhywbeth (syml iawn) ym mis Ebrill ac wedi symud i’r fersiwn fwy gyda system rheoli ayyb ym mis Gorffennaf. Wrth gwrs, gwefan Cyd yw e, nid gwefan y dylunwyr, ac rhaid i ni gwarando ar syniadau’r staff a swyddogion. Yn anffodus does fawr o amser ‘da nhw (mae gormod o waith ganddyn nhw eisoes) ac mae’n cymryd llawer o amser i baratoi rhywbrth o safon. Ond dyna ni, mae’n fyw bellach.
Wps! Rydyn ni’n mynd i newid yr hen wefan i ailgyfeirio i’r un newydd cyn gynteg ag sy’n bosibl.
Rydyn ni’n awyddus iawn gael adborth ac awgrymiadau – mae ffurflen adborth ar y wefan ac dyna’r ffordd orau i mi glywed eich sylwadau – mae’n dod yn syth i mi.
£4,500? Bargen!
Diolch am y sylwadau Nigel, nid pawb sy’n fodlon ymateb mor llawn. Edrych ymlaen at weld y datblygiadau ti sôn amdanyn nhw, a chael cyfrannu at y gwaith trwy bostio manylion digwyddiadau lleol.
Triais i ffeindio’r wefan neithiw a mi gymerodd tri cynnig ar gwgl i ddod o hyd iddo. Mae edrych yn dda iawn gyda nifer o ‘features’, a fel mae Nigel yn ddweud, un peth yw cael gwefan, peth arall fydd perswadio pobl i’w ddefnyddio i’r eithaf.