Darlunio ar Ddydd Gwener

Mae Illustration Friday yn syniad tebyg i’r hen “Friday Five” (oedd yn gosod 5 cwestiwn ar thema i flogwyr eu hateb dros y penwythnos, amser mae’n tueddu bod yn dawel yn y rhithfro). Mae hyn wedi’i anelu at artistiaid/darlunwyr (ble mae’r llinell?), ac yn rhoi testun bob dydd Gwener, gyda gwahoddiad agored i unrhywun i dynnu llun ar y pwnc ac wedyn casglu’r dolenni i’r gwefannau (blogiau, fel arfer) bob artist. Gan wneud y pynciau mor syml ag sy’n bosibl, un gair fel arfer, mi gân nhw ymateb eang iawn gan artistiaid o bedwar ban y byd.

Dyma’r rhestr o luniau ar y testun arwyr, gyda 253 o artistiad yn cymryd rhan. Nid cystadleuaeth yw hwn, dim ond ffordd dda o ddangos eich gwaith i gynulleidfa newydd.

Testun yr wythnos hon yw “breuddwydion”, ac mae dros 300 o artistiaid wedi postio cynhigion yn barod.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi รข *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>