Wel, dyma ni, diwedd Blogathon arall. Diolch yn fawr iawn, iawn, iawn i bawb sy wedi fy noddi. Gobeithio bod rhywbeth yma wedi bod o ddiddordeb. Mi gewch chi ebost gan bobl y Blogathon yn y man sy’n esbonio sut i dalu (oni bai eich bod chi wedi talu yn barod, wrth gwrs).
Mae wedi bod yn dawelach eleni, diolch i’r amseri falle, ond dw i wedi mwynhau.
I’d like to add a special thank you to my Mum, Anne Davies, and to the all rest of the family and friends who have helped raise this money for Nightingale House. I’d also like to thank the wonderful staff at the Hospice for taking such good care of my Dad in his last couple of months, and for being so ready to offer support to the whole family.
I’m sorry I haven’t blogged more bilingually – that was certainly the intention, but I found I was getting bogged down with too much to think about.
Alun will translate everything, I’m sure…
Nos da…
Ha. Nes i sponsro $19.56, a fel oedd yr cyfradd cyfnewid yn sefyll £11 oedd hi, fel bod £389 yn cael ei darlgrynnu at £400.
Ond heb sylwi fod justgiving.com wedi newid y currency yn barod, dwi di rhoi £19.56.
Pob lwc.
Hwyl
Diolch yn fawr Huw.
Da iawn ti Nic! Nawr dos i dy wely!
Llongyfarchiadau mawr i ti Nic! ‘Roeddwn wedi anghofio’n llwyr fod noson y blogathon ymlaen neithiwr nes i mi fynd i mewn i Morfablog a dy weld yn postio am bedwar o’r gloch y bore [ amser Cymru]! Faswn i ‘di cofio ynghynt , mi faswn ni wedi cadw cwmpeini i ti
Gyda llaw, dwi ‘di trio cofrestru er mwyn dy gefnogi yn y blogathon , ond dwi’n mynd rownd a rownd mewn cylchoedd ! Prun fasa’r ffordd ora?
Diolch yn fawr iawn! Mae’n bosib ei bod yn rhy hwyr i’m noddi trwy wefan y Blogathon, ond does dim ots am hynny – os ei di fan hyn, cei di roi o dy gerdyn credyd, neu os ydy siec yn well ‘da ti, cei di hala rhywbeth at:
Hosbis Tŷ’r Eos
14 Heol Caer
Wrecsam
LL11 2SJ
Diolch yn fawr i ti, ac i bawb arall a helpodd, gan fy noddi a chan ddod yma i gael sgwrs bach. Fel dwedais i, wnes i joio’r Blogathon, ond diolch i’r amseri anffodus, do’n i ddim wedi wneud hanner ddigon o waith hybu. Byddai wedi bod yn llawer gwell i’w wneud mewn cwmni â blogwyr eraill Cymraeg eu hiaith. Tybed a fydd yn bosib i ni gynnal ein Blogiothonrwydd ein hunain blwyddyn nesa?
Diolch Nic….siec o ugain punt ar y ffordd i Hosbis Tŷ’r Eos.
Diolch Linda!