9 Peth Ddigwyddodd ddoe

..sy ddim wedi digwydd o’r blaen.

  1. Es i i briodas yn y Mansion House, Bryste
  2. Gyrrais i dros Bont Grog Clifton
  3. Cwrddais i ag Unoliaethwr Wlster, a chael sgwrs digon cyfeillgar gyda fe
  4. Gwrandawais i ar Gadeirio’r Bardd ar radio car, yn ystod y neithior
  5. Canais i ‘All You Need Is Love’ yn y briodas
  6. A ‘She’s The One’ gan Robbie Williams
  7. Gwelais i’r lle ble gafodd fy nghariad ei geni
  8. Siaradais i Gymraeg gyda rhywun sy heb ddefnyddio’r iaith mewn 8 mlynedd
  9. Cysgais i yn nhŷ chwaer fy nghariad

Bwytais i fwyar duon cyntaf y flwyddyn hefyd, ond dyw hynny ddim y tro cynta i mi wneud hynny, dim ond y tro cynta eleni.

Mae’n 4.00 o’r gloch yn y bore. Help.

4 thoughts on “9 Peth Ddigwyddodd ddoe

  1. Deng munud yn ddiweddarach, ac ar ochr arall i’r byd…..ti’n gwneud yn dda iawn Nic :)

  2. Helo Nic,
    Newydd fod allan am dro …dipyn mwy cŵl rwan nag oedd hi’n ystod y dydd. Mae hi bron iawn yn hanner awr wedi naw y nôs yma ….wyth awr tu ôl i Gymru.

  3. Aha. Mae Blogathon yn lot haws i bobl Gogledd America. Dw i wedi bod ar ddihun ers 24 awr yn barod, gyda 6 awr a hanner i fynd. Bydd rhaid i mi fynd am dro cyn bo hir, dw i’n credu.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>