..sy ddim wedi digwydd o’r blaen.
- Es i i briodas yn y Mansion House, Bryste
- Gyrrais i dros Bont Grog Clifton
- Cwrddais i ag Unoliaethwr Wlster, a chael sgwrs digon cyfeillgar gyda fe
- Gwrandawais i ar Gadeirio’r Bardd ar radio car, yn ystod y neithior
- Canais i ‘All You Need Is Love’ yn y briodas
- A ‘She’s The One’ gan Robbie Williams
- Gwelais i’r lle ble gafodd fy nghariad ei geni
- Siaradais i Gymraeg gyda rhywun sy heb ddefnyddio’r iaith mewn 8 mlynedd
- Cysgais i yn nhŷ chwaer fy nghariad
Bwytais i fwyar duon cyntaf y flwyddyn hefyd, ond dyw hynny ddim y tro cynta i mi wneud hynny, dim ond y tro cynta eleni.
Mae’n 4.00 o’r gloch yn y bore. Help.
Deng munud yn ddiweddarach, ac ar ochr arall i’r byd…..ti’n gwneud yn dda iawn Nic
Diolch Linda! Faint o’r gloch yw hi ble wyt ti?
Helo Nic,
Newydd fod allan am dro …dipyn mwy cŵl rwan nag oedd hi’n ystod y dydd. Mae hi bron iawn yn hanner awr wedi naw y nôs yma ….wyth awr tu ôl i Gymru.
Aha. Mae Blogathon yn lot haws i bobl Gogledd America. Dw i wedi bod ar ddihun ers 24 awr yn barod, gyda 6 awr a hanner i fynd. Bydd rhaid i mi fynd am dro cyn bo hir, dw i’n credu.