Wnaeth unrhywun arall sylwi ar hwn? Ym mhabell ‘Capital Cuisine’, lle oedd bron pob arwydd yn uniaith Saesneg, un o’r pethau bach o’n nhw wedi boddran trosi a dydyn nhw ddim yn gallu sillafu please yn iawn. O ddrws y babell oedd pethau yn edrych yn eitha Cymraeg, gan fod arwyddion mawr amlwg, gyda’r Gymraeg uwchben y Saesneg, ac yn fwy o faint, ond unwaith dy fod di’n dechrau ordro dy fwyd, ti’n dechrau sylwi bod bob dim arall yn uniaith Saesneg. Pan gofynodd fy mhartner pam oedd y bwydlenni yn Saesneg yn unig, dwedodd y ferch tu ôl i’r cownter (Cymraes, fel y staff i gyd, am wn i) bod rhywun di-Gymraeg wedi cwyno, felly o’n nhw wedi rhoi’r fersiynau Saesneg yn eu lle.
Sori, ond fel maen nhw’n dweud lan fan’na yn y gogledd pell, be’ ffwc?
In one of the main eating places on the Eisteddfod field this year, just about every sign was in English only, except for the most obvious ones which catch the eye as you enter the tent, and these on the table, where the Welsh phrase for “please” is mangled – no, not so much as to make it impossible to read, but enough to make you want to throw it across the room in a rage.

Be ffwc yn wir. Wnaeth fy modryb i weld taflenni saesneg yno (ddim yn siwr os mai’r babell yma neu un o’r llefydd hynny oedd yn gwneud arddangosfeydd bwyd gyda ryseitiau ac ati) ag oedd hi mor grac wnaeth hi gynnig gyfieithu’r peth. Felly wnaeth hi dreulio’r penwythnos cynta yn cyfieithu bwydlenni!