Natwatch wedi’i ddallu?

Och a gwae! Mae Natwatch wedi marw. (Ond mae archif Google dal ar gael, os dych chi ddim wedi bod yn dilyn hyn.)

Ddydd Sadwrn cyntaf y Steddfod, a ninnau newydd gyrraedd, ces i nodyn fodyn gan gyfail o maes-e i ddweud bod y person tu ôl i’r wefan sarhaus o wrth-Gymraeg wedi troi ata i fel targed nesa ei gasineb, gan gymryd rhywbeth dwedais i ar y maes mas o’i gydestun, ei gyfieithu i rywbeth fel Saesneg, ac yn anwybyddu’r rhan o’r neges lle esboniais i taw jôc oedd y cyfan. Diawl, am frawddeg rhedeg ymlaen. Dyna chi’r Blogathon, dim amser am ail-sgwennu.

Dyma fwrdwn neges y Nat-wyliwr:

Does anyone out there know Mr Dafis? What branch of the Nats is he a member of? Is he a Nat spokesperson on energy we wonder?

Mae “Price4President” yn gwybod yn iawn pwy ydw i, oherwydd i mi sgwennu ato ddwywaith ers dechrau’r busnes gyda Aled Cottle. Dw i ddim yn cuddio tu ôl i ffugenw plentynaidd – diawl erioed, dw i wedi newid fy enw gan weithred cyfreithiol er mwyn bod yn haws i ffeindio ar y we. Dw i’n ffaelu credu bod P4P mor di-glem ei fod e’n ffaelu ffeindio dim byd amdana i.

Yn bell o fod yn “Nats spokesman” ar unrhyw bwnc, dw i ddim hyd yn oed aelod o Blaid Cymru, ond ar ôl y busnes yma dw i’n sicr ystyried ail-ymuno â’r Blaid, ac i helpu nhw curo Plaid Lafur yng Nghymru.

Achos mae gen i reswm i amau taw aelod etholedig Plaid Lafur yw “Price4President”, ac os ydy’r blaid lywodraethol yng Nghaerdydd wedi syrthio mor isel eu bod nhw’n barod i ddefnyddio tactegau fel hyn, wedyn mae dyletswydd â phob un ohonon ni i gael gwared ohonyn nhw.

Dw i hefyd wedi dod yn ymwybodol yn diweddar pa mor wan yw fy ngafael ar faterion y dydd, hynny yw gwleidyddiaeth. Mae safon y trafodaeth ar faterion felly ar y maes wedi achosi cymaint o benbleth i mi yn diweddar i beri i mi gau’r adran wleidyddiaeth, sy ddim wedi bod yn benderfyniad poblogaidd iawn. Ond nawr bod ‘na Fforwm newydd sy’n mynd i arbenigo ym mhethau felly, falle bod yr amser wedi cyrraedd i mi gymryd diddorol mwy manwl.

Felly, diolch yn fawr “Price4President”, a beth bynnag sy wedi dy orfodi cau dy wefan i lawr, gobeithio dwyt ti ddim mewn perygl o golli dy swydd hefyd. Ti yw Swyddog Recriwtio gorau Plaid Cymru ers George Thomas. Mae cenedlaetholdeb Cymru yn dy angen di!

This entry was posted in Heb Gategori and tagged , , , . Bookmark the permalink. Trackbacks are closed, but you can post a comment.

2 Comments

  1. chris
    Posted Awst 13, 2005 at 6:02 pnawn | Permalink

    Aelod etholedig sy’n swnio fel rhyddfrydwr ……hmmmmmm!!!?

    ;-)

  2. Posted Gorffennaf 31, 2006 at 12:49 pnawn | Permalink

    Dal yna….www.natwatch.org…..ond digon gwir, heb bost newydd ers tro…

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar