Now Available in the Language of Your Choice (More or Less)
-
Monthly Archives: Awst 2005
Blogday Hapus!
Diolch i Curt, sy’n mynd i enwebu Morfablog i Blog Day 2005, sy’n digwydd heddi. Edrych yn ddifyr iawn. Mae wastad yn neis iawn cael rhywun sy ddim yn siarad Cymraeg cymryd diddordeb yn y pethau sy’n digwydd yma, gwrthwenyn perffaith i’r pethau pitw sy weithiau yn tynnu ein sylw oddi ar beth sy’n bwysig. [...]
Gwefan CYD
Rhaid i mi ddweud i mi fod braidd yn sinicaidd pan glywais i bod Cyd wedi cael grant o rhyw £4500 o bunnoedd er mwyn creu gwefan newydd, ond dw i’n hapus iawn i gyfaddau taw fi oedd yn anghywir, ac mae’r wefan yn edrych yn ddefnyddiol iawn. Dw i’n lico’r ffordd nad yw’r Saesneg [...]
Darlunio ar Ddydd Gwener
Mae Illustration Friday yn syniad tebyg i’r hen “Friday Five” (oedd yn gosod 5 cwestiwn ar thema i flogwyr eu hateb dros y penwythnos, amser mae’n tueddu bod yn dawel yn y rhithfro). Mae hyn wedi’i anelu at artistiaid/darlunwyr (ble mae’r llinell?), ac yn rhoi testun bob dydd Gwener, gyda gwahoddiad agored i unrhywun i [...]
Woody Allen
Inside Woody Allen – mae brith gof ’da fi o ddarllen y stribedi ’ma yn y 70au, pan o’n i’n rhy ifanc i’w deall yn iawn, ond yn chwerthin arnyn nhw. Nawr dw i’n eu deall, ac mae rhan fwya ohonyn nhw’n drist iawn.
*och*
Lot fawr o AC/DC
Comback – stori comic gan Marcus Huber. Ffeindiwyd ar Flight, blog newydd am gomics, nage wir, ar Drawn, lle ffeindiais i Flight, hefyd.
Process Junkie
Mae Process Junkie [rhybudd: ddim yn saff i'r gweithle, falle] yn flog gan Lucio Alberto Ruiz-Diaz, artist comics o Efrog Newydd, sy’n tynnu lluniau di-derfyn a ferched gor-rywiol, os dych chi’n lico’r fath ‘na o beth, ond hefyd yn casglu enghreifftiau di-ri o waith ei hoff ddarlunwyr. Llawer o enwau do’n i ddim yn gyfarwydd [...]
OÏO
OÏO, cinépeinture gan Simon Goulet. Anodd disgrifio, gwyliwch y detholiad.
[Diolch, Future Feeder]
Y Prics
(Ni phoener, nid post arall am Natwatch yw hwn )
Newydd wrando ar raglen newydd Radio Amgen (tanysgrifiwch i’r podlediad gan lusgo’r linc i iTunes), sy’n cynnwys Sleifar wedi’i ailficsio, Cofi Bach yn joio dŵbi bach, a’r Prics, sef fatha Derek a Clive Cymraeg, ond yn ddoniolach.
Madarch Eithafol
“>Prynwch y CD, fyddarffycars.
N.I.C.D.A.F.I.S.