Nôl o’r gogledd

Ces i amser wych lan yn y gogledd dros y penwythnos. Prif reswm am fynd oedd mynychu priodas Aran a Catrin, a oedd priodas heb ei hail oedd hi hefyd. Diolch yn fawr iddyn nhw am fy ngwahodd, ac am drefnu diwrnod mor bobdigedig ar ein cyfer. Rhaid i mi ymddirheuro am (1) adael mor anrocarol o gynnar er mwyn gweld fy mam fach a (2) fod mor esgeulus tynnu lluniau. Dw i’n cymryd y bydd digon o luniau gan bobl sy’n gwybod beth maent yn wenud, felly byddai fy ymdrechion pitw innau wedi edrych yn waeth nag arfer (ond mae gen i un da o Mabon ap a’i wyneb arbennig, felly dw i ddim yn teimlo’n rhy ddrwg am hyn).

Rhywbeth arall neis a ddigwyddodd dros y Sul oedd cael ffurflen sbonsro yn ôl gan fy mam, gyda gwerth £139 o addawon arni, sy’n dod â’m cyfanswm am y Blogathon at $538. (Tipyn bach mwy na hynny os ydw i’n iawn gan feddwl dydy un o’m noddwyr hael ddim wedi boddran conferto’r addawiad i ddoleri *peswch*Hedd*peswch*.)

Mae hyn yn wych, a gobeithio y bydd modd codi yn uwch byth erbyn i’r ‘Thon ddod i ben, ddydd Sul 7fed Awst.

Rhaid i mi siapo nawr, a dechrau sgwennu at y papurau ac ati.

One thought on “Nôl o’r gogledd

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>