Blogathon 2005 – T-minws 15 dydd

Mae gwefan Blogathon 2005 yn fyw!

Fel dw i wedi sôn o’r blaen, eleni bydda i’n blogio dros Hosbis Tŷ’r Eos yn Wrecsam.

Os dych chi am fy sbonsro, mae rhaid i chi gofrestru gyda’r Blogathon, ac wedyn ymweld â fy nhudalen ymgyrch. Os cewch chi unrhyw broblemau, cysylltwch â fi a wna i ngorau i hwyluso’r broses (dyw e ddim yn arbennig o glir ar hyn o bryd, ond dw i’n credu bod staff y Blogathon yn gweithio ar bethau i wneud y wefan yn haws i’w defnyddio). Dim ond doleri Americanaidd mae Blogathon yn deall, felly mae rhaid conferto y swm o bunnoedd (£5 = $8.75, mwy neu lai).

Dw i’n bant o fory tan dydd Llun, ac wrth gwrs mae’r Steddfod yr wythnos nesa, felly fydd dim llawer o gyfle i mi gasglu noddwyr ar lein, ond dw i wedi casglu sawl un ar ffurflenni papur, ac mae Mam a’r teulu oll wedi bod yn helpu hefyd, felly pwy â wyr faint o arian maen nhw wedi codi. Edrych ymlaen at weld yfory.

Os wyt ti’n meddwl am gymryd rhan yn y Blogathon – a dylet ti, mae’n llawer o hwyl – dw i wedi agor seiat newydd ar maes-e, i drafod strategaeth ac yn y blaen.

Bydd angen logo Cymraeg, ond am y tro:

  1. Wps, dyma fi’n dilyn dy ddolen o faes-e cyn darllen y post hwn a dwi jyst wedi cyfrannu £5.00 trwy’r wefan justgive.com, a dwi’n sylweddolii rwan na fydd hyn yn ymddangos ar dy dudalen Blogathon. O wel, dim ots mae gyd yn mynd i’r un lle.

  2. Diolch yn fawr am hynny Rhys, ond os ti moyn cofrestru ar safle y Bloathon, cei di wneud hynny hefyd – jyst anwybyddu’r ebost y cei di ar ol y peth i ddweud wrthot ti i dalu. Dydy’r Blogathon ei hun (na fi, am hynny) i fod i handlo’r arian, felly byddan nhw’n dweud wrthot ti i wneud yn union beth wyt ti wedi wneud – ond bydd dy gyfraniad yn ymddangos ar fy swm terfynnol fi ;-)

    Diolch ‘to.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>