Monthly Archives: Gorffennaf 2005
Blogathon 2005 – T-minws 9 dydd
Mae cyfanswm wedi cyrraedd $664 (sef £380), ar ôl i mi fynd i’r Pentre Arms neithiwr gyda fy ffurflenni sbonsro dan fy nghesail. Bydd y ffurflenni gyda fi trwy’r wythnos yn y Steddfod, felly os wyt ti am fy sbonsro, paid bod yn swil
Sut wyt ti’n sillafu “goroesi” yn Gerneweg?
Spelling row could see Cornish go west – erthygl o’r Guardian am y ffraeo sy’n atal dadeni iaith Cernyw. The government money is on the table and the political will in Whitehall and Europe is apparently growing to help Cornish speakers turn their native tongue into a viable, living language. But there is one stumbling [...]
Priodas Aran a Catrin 23/07/05
Priodas Aran a Catrin 23/07/05 – ffotoset Flickr Diwrnod arbennig iawn, diolch i chi am y gwahoddiad.
Canu ar y ffordd
Clasur! Diolch, Bryn_s.
XFN – XHTML
XFN – rhwydwaith ffrindiau XHTML. Newydd ddod ar draws hyn wrth ddechrau ychwanegu dolenni i’m hoff flogiau Cymraeg. Ddim yn siwr pa mor ddefnyddiol y bydd hi – un o’r pethau ‘na sy’n dibynnu ar lot o bobl wneud yr un peth cyn iddo fe gael effaith llawn ei botensial, fel Flickr a Technorati.
Lingo Guide
The Lingo Guide – geiriadur Saesneg-Sbaeneg i adeiladwyr, gan adeiladwyr. Erthygl arno yn y Nashville City Paper.
Nôl o’r gogledd
Ces i amser wych lan yn y gogledd dros y penwythnos. Prif reswm am fynd oedd mynychu priodas Aran a Catrin, a oedd priodas heb ei hail oedd hi hefyd. Diolch yn fawr iddyn nhw am fy ngwahodd, ac am drefnu diwrnod mor bobdigedig ar ein cyfer. Rhaid i mi ymddirheuro am (1) adael mor [...]
Blogathon 2005 – T-minws 15 dydd
Mae gwefan Blogathon 2005 yn fyw! Fel dw i wedi sôn o’r blaen, eleni bydda i’n blogio dros Hosbis Tŷ’r Eos yn Wrecsam. Os dych chi am fy sbonsro, mae rhaid i chi gofrestru gyda’r Blogathon, ac wedyn ymweld â fy nhudalen ymgyrch. Os cewch chi unrhyw broblemau, cysylltwch â fi a wna i ngorau [...]
Rho’r gorau i Coke