Pwy sy ar ei geffyl?

Get off your high horse – llythyr hynod o wrth-Gymraeg yn y Teifi-Seid, sy’n sôn am y helbul diweddar ynglŷn â thaflen i denu twristiaid i Aberteifi, sori, Cardigan:

In English that brochure will mean a great deal to many people. In Welsh it will mean sweet Fanny Adams to almost the entire world. Who, outside of West Wales, knows where Aberteifi is? No one. Who in West Wales actually refers to Cardigan as Aberteifi. Very few. Like it or not, English is a global language.

Tourist brochures for Newcastle are not produced in the Geordie dialect, and London ones are not generally produced in Cockney rhyming slang either. These are both regional dialects as equally important as the language spoken by just 20% of the population of Wales.

Podledu mewn ieithoedd bychain

Gair o’r Gair. Podlediad am y Beibl, o America.

Yn iaith y Klingon.

Dal heb ffeindio un yn y Gymraeg.

Dwi am ychwanegu podlediadau eraill yma wrth i mi eu ffeindio. Os dere di ar draws rhywbeth o ddiddordeb, rho wybod yn y sylwadau.

Kanienkeha – geiriau Mohoceg. Dw i’n nawr gwybod beth yw “clefydd gwenerol” yn yr iaith brydferth hon.

http://www.bbc.co.uk/scotland/alba/foghlam/litir/Llythyr i ddysgwyr Gaeleg yr Alban – o’r BBC.

BBC yn Podledu

Mae gyda BBC yn arbrofi gyda Pod-ddarlledu. Mae’n dweud ar y wefan bod One Music ar gael, ond dw i’n methu ffeindio’r ffrwd. Unrhywun yn gallach?

[gol.]

Do’h. Newydd sylweddoli eu bod nhw’n siarad am yr MP3au gan fandiau newydd sydd ar gael i’w lawrlwytho yn hytrach na ffrwd Pod-ddarlledu. (Rhaid bathu gwell gair na hwnna, ar frys. I’r maes!)

[Diolch i Maff am y linc i'r stori ar Macworld.]

Ffrindiau Flicr yn dy fro

Newydd ddod ar draws syniad bach handi ar gyfer Flickr. Oedd rhywun yn gofyn a oes cynllun i greu maes “lleoliad” ymchwiladwy ar y proffeil, ac mae rhywun arall yn ein hatgoffa bod hyn yn bosibl eisioes, gyda’r maes agored “Diddordebau”. Rho dy gyfeiriad fan ’na a byddi di’n gallu gweld pawb sy’n byw yn yr un pentre (neb), tref (neb), neu gwlad (Dogfael! Dagobah!)

Blogathon amdani!

Newydd glywed y bydd y Blogathon ar Awst 6 eleni, yn lle y dydd Sadwrn ola mis Gorffennaf fel o’n i’n disgwyl. Fydda i ddim yn y Steddfod o hyd erbyn hynny, gan fod priodas teuluol ’da ni ar y dydd Gwener, ym Mryste.

Ar yr ochr bositif, bydd hyn yn golygu y galla i gasglu noddwyr yn ystod y Steddfod.

Ar yr ochr negyddol, bydda i wedi blino racs cyn i mi ddechrau y ‘Thon – ar âl bron wythnos gwersylla/yfed/mynd i gigs/eistedd yn y Babell Llên ac wedyn parti mawr ym Mryste, a gyrru yn ôl i Langrannog erbyn 2.00yp dydd Sadwrn. Ac hefyd, mae’n llai tebyg y bydd Cymry eraill yn wneud y peth, gan fod hynny yn golygu colli noson ola’r Steddfod.

Oni bai eich bod chi’n wneud yn yr Eisteddfod?

Llyffant Lloerig a Chwmniau Di-Hiwmor

Cwpl o wythnosau ar ôl ar maes-e, datganodd “mwgdrwg” ei fod e wedi wneud fersiwn Cymraeg (sy ddim yn saff i’r gweithle, neu bron unrhywle arall chwaith, oni bai dy fod di’n byw yng Nghaernarfon) o ringtone mwya pryfoclyd yn hanes y byd erioed.

Ddoe, cododd y Daily Post y stori. Mae pobl Jamster yn dweud y byddan nhw’n cymryd further action ’sai mwgdrwg yn gwerthu ei fersiwn e.

Mae ’na rhywbeth bach yn abswrd am gwmni sy wedi wneud cymaint o arian mas o rywbeth mor bryfoclyd cymryd yr ucheldir moesol dros hyn, ond sa i’n credu ein bod ni wedi clywed y diwedd o hyn.

Talwrn llawn stress

Fe aeton ni i’r Talwrn neithiwr yn y Cŵps, Aberystwyth, i weld gornest rhwng Tîm Tanygroes a’r Glêr. Wna i ddim sbwylio pethau gan ddweud pwy enillodd.

Hwnna oedd y Talwrn cynta i mi fod yn bresennol ynddo ers y sgarmes yn Ffarmers nôl ym mis Chwefror, a oedd yn gofiadwy i fi am ddou reswm: curodd Tanygroes y pencampwyr presennol, Y Sgwod; ac yn ystod y recordiad o’n i ar bigau drain aros clywed sut aeth llawdriniaeth fy nhad yn ysbyty Walton, Lerpwl.

Mae rhaid bod rhyw fath o gysylltiad yn fy is-ymwybod erbyn hyn rhwng y Talwrn a phoeni am fy nhad, achos erbyn diwedd y recordiad neithiwr o’n i’n nervous wreck unwaith eto, a nid jest achos pa mor agos oedd yr ornest.

Beth yw Bardd?

Daw hud y byd yn fyw o’i bair- mewn gwyll
Mae’n gweld duwch disglair;
Cusan a glyw mewn cesair
Odla’r gwynt, arogla’r gair.
Philippa Gibson