Diarmuid Johnson

Un o’r traciau ar CD Ceri Matthews a Beverley Evans yw’r gerdd Another Language gan Diarmuid Johnson. Yn enidigol o Gymru, cafodd Johnson ei fagu yng Ngalway, ac mae’n gweithio fel bardd yn Saesneg a Gwyddelig, yn ogystal â chyfieithu nofelau Gymraeg i’r Wyddelig, a trosi Dafydd ap Gwilym i’r Ffrangeg.

Mae ’na sut beth â gormod o dalent, ond oes?

Sôm am Iwerddon, un o uchafbwyntiau eraill y cyngerdd heno oedd fersiwn Roisin a Ryland o’r gân She Moves Through The Fair, a recordiwyd gan Anne Briggs a Sandy Denny, ymysg eraill. Fersiwn hyfryd iawn, hefyd, o beth o’n i’n gallu clywed uwchben y siarad yn y stafell.

Pearls/swine.

Hoe bach o’r rhithfro

Dw i’n cymryd brêc bach o’r blog, ac o’r maes. Bydda i nôl unwaith bod y Blogathon wedi’i lansio, ac eleni bydda i’n codi arian dros Tŷ’r Eos, y hosbis yn Wrecsam lle mae fy nhad wedi’i symud.

Dydy sorto mas yr argyfwng diweddaraf rhwng aelodau’r maes ddim yn teimlo yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd.