Fel dwedais i nôl ym mis Chwefror, o mai ffycin god, mae Damo Suzuki yn Aberteifi. Ddylwn i ddim synnu, mae’n debyg, bod dim ond llond dwrn o bobl yn ardal Aberteifi gyda digon o sens i ddod i weld un o arwyr mwya y sîn roc danddaearol, ond oedd y band yn danboeth, a Damo ei hun yn hollol fagnetig.