Monthly Archives: Mai 2005
Clwb Cefnogwyr y Maes?
Newydd grybwyll syniad ar maes-e am Glwb Cefnogwyr, sef cynllun i adael i bobl gyda gormod o arian (defnyddwyr maes-e) rhoi tipyn bach ohono fe i rywun sy heb un dimau coch (fi). Mae rhaid wneud rhywbeth fel hyn. Pan dechreuais i’r maes do’n i erioed wedi meddwl y byddai fe mor llwyddiannus, ond gyda’r [...]
Way aheadaya, ychan
Erthygl ar Gymru yn y Pakistan Daily Times: In some ways, the situation is not dissimilar to the relationship between Islamabad and the smaller provinces in Pakistan. But in Wales, they have not yet started blowing up power plants and railway tracks. Wyt ti’n siwr am hyn?
Damo Suzuki, yn Aberteifi, a ti wedi colli fe
Fel dwedais i nôl ym mis Chwefror, o mai ffycin god, mae Damo Suzuki yn Aberteifi. Ddylwn i ddim synnu, mae’n debyg, bod dim ond llond dwrn o bobl yn ardal Aberteifi gyda digon o sens i ddod i weld un o arwyr mwya y sîn roc danddaearol, ond oedd y band yn danboeth, a [...]
Ffilm Harry Potter yn Wyddeleg
Bydd teledu Gwyddeleg yn dangos y ffilm Harry Potter and the Chamber of Secrets wedi’i dybio i’r Wyddeleg ar Galan Gaeaf.
John Otway
MP3au gan John Otway. Welais i fe pan o’n i yn y coleg. Da iawn ‘fyd. Diolch i Big Al am yr atgoffion.
Mae Ah Pook yma…
Ddim yn gwybod ble dw i wedi gweld hyn o’r blaen, ond dw i wedi gweld hyn o’r blaen. William Burroughs yn darllen dros ffilm fach wedi’i hanimeiddio (rhyw 9 Mb) – Ah Pook Is Here. [Mwy ar BoingBoing]
Beth yw “blog” yn Ffrangeg?
Diolch i Loic Le Meur am sylwi bod Journal Officiel France wedi datgan taw bloc-notes yw “weblog” yn y Ffrangeg, er taw hynny yw’r cyfieithiad sy’n cael ei ddefnyddio am “Notebook” Microsoft, a bod “blog” wedi ennill ei le yn y Ffrangeg (fel y mae yn y Gymraeg, bellach). Dw i’n gweld y pwynt o [...]
Tri mis o’r gwaith i ddysgu Cymraeg
Newydd ddod ar draws hyn ar flog Geraint: Fe fydd cyfle i bob athro cynradd, uwchradd neu addysg bellach yng Nghymru i gael tri mis i ffwrdd o’r gwaith i ddysgu Cymraeg a hynny fel rhan o strategaeth Iaith Pawb Llywodraeth y Cynulliad.
Digwyddiadur: 30 Mai – 5 Mehefin 2005
Digwyddiadau i ddysgwyr (ac eraill) yn Ne Ceredigion am yr wythnos sy’n dod.
Araith Gyntaf Mark Williams