Heddlu Ieithyddol yn Iwerddon

Angen y Wyddeleg i ymuno â’r Garda.

ASGI executive member Tony O’Donnell said there had been a historic fear of the language in the force.

“When I joined an Garda Siochana, there was a tendency to see that anyone who spoke the language had subversive leanings and we’d become used to seeing people with such leanings appear in our media and speak the ‘cupla focal’ (few words) and pretend that it makes them more Irish than the rest of us.”

He told the conference that gardai no longer had any reason to fear the language.

He added that the motion allowed time for new recruits to learn Irish before they became full members of the force.

The motion was carried.

Ireland speaks up loudly for Gaelic

Ireland speaks up loudly for Gaelic – fydd dim Saesneg ar arwyddion ffyrdd yn y Gaeltacht cyn bo hir. Ac fel mae Chris yn gofyn, os allan nhw wneud, pam na allwn ni?

Welais i ryw pwt am hyn yn yr Independent ddoe, ond oedd yr awdur mor brysur ymosod ar y syniad o hawliau ieithyddol yn gyffredinol, anghofiodd e ddweud beth oedd wedi digwydd.

Mwy gan y BBC.

Angen uwchdagiau ar Flickr

Newydd sylweddoli, wrth edrych ar luniau Dogfael o dai yn Aberaeron, ei fod e wedi defnyddio’r tag Flickr tai i’w desgrifio, sy’n gweithio yn iawn ar lefel un defnyddiwr, ond sy ddim mor ddefnyddiol pan ti’n edrych ar luniau “tai” pawb. Cymherer â lluniau “houses” pawb.

Tybed a fyddai’n bosibl/ymarferol i Flickr ychwanegu “uwchdagiau” (meta-tags) sy’n dweud ym mha iaith mae tagiau penedol?

Fydd hyn ddim yn digwydd yn aml, wrth gwrs, ond bydd yn digwydd yn fwy aml wrth i Flickr dyfu.