Toreth

Toreth – grŵp traddodiadol arall sy’n newydd i fi, er mod i’n nabod Guto o’r dyddiau oedd e’n gweithio rhan amser yn siop Oriel.

A beth yw hwn? Mae eu gwefan yn cynnwys MP3au go iawn! Nid clipiau bach crintach, ond caneuon cyflawn all dyn wrando arnyn nhw a chael blas go iawn ar eu cerddoriaeth.

Mae Toreth (a Bragod) yn chwarae yn ystod Gŵyl Llên y Lli, Caerdydd, 16-24 Ebrill 2005.

Adolygiad o’r CD.

The Welsh Language… or something like that!

The one’s worth spreading around the wider web. I’ve translated the gist, below the fold…

Stori wych am agweddau “Welsh Labour” ar maes-e. Yn fras, mae Hedd Gwynfor, is-gadeirydd cyfathrebu a lobio Cymdeithas yr Iaith, wedi anfon ebost trwy wefan ddwyieithog Welsh Labour, a oedd yn gofyn:

Beth yw polisi y Blaid Lafur ar yr iaith Gymraeg yn yr etholiadau Seneddol yma? Ydy’r Blaid Lafur yn cefnogi’r alwad dros Ddeddf Iaith Newydd?

Cwestiwn digon syml. Mae’r boi yn wneud ei job.

Mae’r ebost yn cyrraedd mewnflwch Karen Bradbury, Gweinyddydd, a chan bod hithau ddim yn medru’r Gymraeg, mae hi’n anfon fe ymlaen at rywun arall i’w hateb – o leia dyna oedd ei bwriad. Mae’n mor hawdd i wasgu’r botwm rong ar eich rhaglen ebost. Dyma’r neges anfonodd hi yn ôl at Hedd Gwynfor, sef, os dych chi’n cofio, is-gadeirydd cyfathrebu a lobio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

Hi Dave,

I have it on good authority (as I cant understand a word of it myself!!!) that this e-mail is asking what we think about using the Welsh Language in Wales or something like that.

Thanks.

Karen Bradbury – Administrator
Welsh Labour

Clasur.

“Leig Pidion” a chrapeiriau eraill

icNorthWales – Blunder makes nonsense of sign – stori fach yn Nail y Post am arwyddion “Cymraeg” mewn archfarchnad ym Mangor.

Gwynedd Council chairman Charles Wyn Jones, who lives at nearby Llanrug, felt there was no need to blow the situation out of proportion.

“When similar mistakes have arisen in the past it is usually because the signs have been printed incorrectly.”

Wir yr, Sherlock.

Does neb yn chwythu’r sefyllfa mas o gymesur, dim ond gofyn ydym i’r Gymraeg gael yr un parch â’r Saesneg. Pa mor anodd yw prawfddarllen? Pa mor anodd yw e i staff yr archfarchnad sieco arwydd cyn iddo fe fynd lan a wneud testun sbort mas o’ch busnes? Arhosodd yr arwydd ’ma lan yn W.H.Smiths am dros mis ar ôl i lythyr ymddangos yn y papur lleol am y camgymeriad ynddo, ac am dros dau fis ar ôl i mi ddweud rhywbeth wrth aelod o staff y cangen.

Pan o’n i’n gweithio yn siop Oriel, Caerdydd, cawson ni ein cymryd drosodd gan gwmni o Loegr, ond gan fod arian cyhoeddus o’r Cymgor Celfyddydau dal i ddod i mewn i’r busnes, oedd rhaid i’r cwmni hwnna wneud arwyddion dwyieithog pan wnaethon nhw ail-addurno’r siop. Cymerodd e dri ymgais iddyn nhw sillafu Pensaernïaeth yn gywir, ond wnaeth y staff wrthod rhoi lan y rhai anghywir, am resymau amlwg – byddai fe wedi dangos diffyg parch y cwmni tuag at y cwsmeriaid, sy byth yn syniad da. Gofyn i Gerald Ratner.

Self Promotion Society, Cangen Morfablog

Cafodd hyn ei bostio ar maes-e.com heddi, gan y defnyddiwr Hernan Rodriguez (nid ei enw go iawn, natch):

Daeth i’m sylw yn ddiweddar mae Self Promotion Society yw maes-e. Pwy sydd yn euog o wthio eu hunain i’r entrychion medda chi? Wel, er eich budd chi rwyf wedi llunio ryw restr fer o arch wankers maes-e:
[..]
Nic Dafis (Myfi yw brenin y maes – taflaf fy mhwysau o gwmpas canys myfi yw eich meistr chi oll.)

Mae rheolau maes-e yn ddigon clir am bethau fel hyn, a doedd dim dewis ’da fi ond i ddileu’r sylwadau. Ond os ydy Hernan yn teimlo yn ddigon cryf am hyn, mae croeso cynnes iddo fe ddefnyddio’r lle hwn i fynegi ei gasineb tuag ata i. Dyna’r lleia alla i wneud iddo fe, a’r unig ffordd dw i’n gallu meddwl o brofi, unwaith ac am byth, nid er mwyn amddiffyn fy ego bregus innau ydyn ni wedi datblygu’r canllawiau yna ar y maes.

Myfi yw brenin morfablog.com hefyd, yn anffodus Hernan, ond dw i’n addo na fydda i’n dileu unrhywbeth wyt ti am ddweud amdana i yma (wrth gwrs bydd pethau enllibus am bobl eraill yn cael eu dileu).

Neu, os wyt ti moyn, wna i dy helpu di sefydlu dy flog dy hunan – gan dy fod di’n amlwg â phethau wyt ti am rannu gyda’r byd, ond heb y gallu i greu gwefan dy hun – wedyn cei di ddweud beth bynnag ti moyn am bwy bynnag ti moyn, a chymryd y cyfrifoldeb cyfreithiol dros dy sylwadau dy hunan hefyd.

Beth amdano?

Multilingual Matters am ddim

Mae’r cyhoeddwyr academaidd Multilingual Matters wedi rhoi testun llawn eu rhestr cyfnodolion ieithyddol ar-lein. Os dych chi’n tanysgrifio i gyfnodolyn penedol, dych chi’n cael mynegiad i destun y rhifyn cyfredol, ond gall unrhywun lawrlwytho deunydd o gylchgronau 2003 a chynt, sy’n dod â llond troli o stwff newydd ar cynllunio ieithyddol, dwyieithogrwydd, cyfieithu ac yn y blaen wrth ein drysau. Mae’n fel supermarket sweep i ieithyddwyr (a blogwyr) tlawd! Mae cannoedd o erthyglau jyst ar y Gymraeg yma, heb sôn am leisiau o bedwar ban y byd ar wrthdroi shifft ieithyddol.

Mae hyn yn newyddion eitha da, dwedwn i.

Hanner awr i helpu CYD yn Aberystwyth / Aberteifi?

Daw hyn trwy “rhestr Roced”:

Annwyl bawb,
Dyma ni ar fin tymor newydd ac rydw i’n gofyn i chi eto os oes modd i chi
wneud sesiwn neu ddau yn helpu dysgwyr ymarfer siarad.  Mae’r tymor yn
dechrau yr wythnos nesaf ac yn gorffen 24eg o Fehefin gyda thoriad am hanner
tymor 30/5-3/6.  Mae dosbarthiadau ar boreau Mawrth, Mercher a Iau, a
nosweithiau Mawrth a Mercher sydd eisiau siaradwyr. Byddaf yn falch o glywed
oddi wrthoch, gyda dyddiau cyfleus.
Diolch yn fawr iawn,
Linda Gay, algay waitrose com

eifi – os oes modd i chi roi rhyw hanner awr y mis i helpu dysgwyr yr ardal hon, cysylltwch â fi trwy’r sylwadau ’ma neu ar nicdafis gmail com.

Saesneg ar RnaG

[Dw i wedi golygu'r cofnod hwn tipyn bach, gan ddefnyddio Radio 1 yn lle Radio 2 fel enghraifft o orsaf Saesneg.]

Trist yw clywed bod Raidio na Gaeltachta wedi penderfynnu chwarae caneuon Saesneg ar ôl dros 30 mlynedd o ddilyn polisi “dim Saesneg”.

Dave Davin, an Irish-speaking DJ on Spin, said: “It is only right that RnaG moves with the times and introduces English language songs onto the airwaves. I think the station has projected a snootiness or poshness until now in relation to the Irish language. There was an attitude that if you couldn’t speak it, then RnaG wasn’t for you.

Sef yr un peth mae rheolwyr Radio Cymru yn poeni amdano, bod rhywun rhywle yn mynd i ddweud nad yw hyn yn deg:

If you can’t speak Welsh then Radio Cymru isn’t for you.

Mae hynny yn swnio yn gas, ond yw e? Dim ond eithafwyr fyddai’n dweud rhywbeth fel ’na.

Nawr, tria ddychmygu rhywun sy’n dweud yr un peth am Radio 1.

If you can’t speak English then Radio 1 isn’t for you.

Ond mae hynny yn wneud sens perffaith! Wrth gwrs fyddai rhaid i person sy am wrando ar Radio 12 fedru’r Saesneg! Gorsaf Saesneg yw hi. Byddai disgwyl clywed bhangra ar raglen Chris Moyles bob bore yn afrealistig, er mor boblogaidd yw’r fath ’na o gerddoriaeth gyda chanran go fawr o bobl ifainc Prydain.

Ond wrth gwrs does neb yn debyg i ddweud pethau mor dwp am radio Saesneg ei iaith, achos dydy Saesneg ddim yn iaith; hi yw’r awyr yr ydym yn ei anadlu, a chyfrwng normal i feddwl a chân. Byddai unrhywun sy’n awgrymu fel arall yn wallgof, mae’n amlwg.

“Pawb ar y bws ding ding!”

Bydd y ddrama newydd hon yn cael ei pherfformio tair gwaith yr wythnos hon. Yn anffodus, dw i’n methu ffeindio unrhyw gwybodaeth arall (beth yw’r teitl, er enghraifft), ond wotsh ddys sbeis. [Gweler sylwadau.] Diolch yn fawr i Dafydd Gwylon am hala’r manylion isod i ni.

Bydd y ddrama yn cyfleu portread o fyw yng nghefn gwlad ac mewn cymuned ddwyieithog. Rydym wedi casglu argraffiadau Cymry Cymraeg a Di-Gymraeg, mewnfudwyr a dysgwyr i rannu eu profiadau, gofidion, canfyddiadau a gobeithion ynglŷn â’r sefyllfa yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru.

Byddwn yn defnyddio’r ddrama fel cyfrwng er mwyn pigo ar gydwybod, ysbrydoli a chyflyru gwahanol gynulleidfaoedd ar hyd a lled yr ardal, i fod yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg gymaint â phosib yn eu bywydau bob dydd. Rydym hefyd am godi ymwybyddiaeth y Gymraeg a’r di-Gymraeg fod yr iaith yn fyw, a bod yna ddiwylliant a thraddodiad yn bodoli yn ein hardaloedd.

Rydym yn gobeithio yn fawr y bydd y prosiect yn effeithio ar bobl efallai drwy eu hysbrydoli i fynd ati i ddysgu’r Gymraeg, i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddechrau sgwrs gyda phobl dieithr neu i ddanfon eu plant i ysgol Gymraeg. Beth bynnag yw effaith y ddrama ein bwriad yw diogelu’r diwylliant a thraddodiadau Cymraeg a Chymreig yng nghymunedau bro Teifi am yr oesoedd a ddêl.

Bydd tri perfformiad ym mis Ebrill:

7fed Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre
8fed Festri Aberduar, Llanybydder
9fed Neuadd Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi

I ddechrau am 7.30yh

Pris i oedolion: £2.50
Pris consessiwn : £1.50

Kemak ac ieithoedd eraill

Mae Kemek yn un o’r cannoedd o ieithoedd sy’n goroesi yn Nwyrain Timor. Siaredir gan rhyw 80,000 o bobl. Dyma cân angladd Kemak – sgrolio i lawr am ddolen i’r ffeil WAV.

Dim ond un o’r ieithoedd ar restr gwaith ymchwil Prifysgol Hawai’i. Mae ’na drasiedi tu ôl i bob un o’r dolenni ar y dudalen honno. Cyrhaiddais i’r seithfed ddolen cyn i mi roi’r ffidil yn y to am heno.