CD yn y post y bore ’ma, sef detholiad o bedwar trac gan Y Celfi Cam, band Norman Lewis a Dilwyn Gregory. Mae Norman wedi rhoi caniatâd i mi rannu cwpl o’r traciau gyda chi, ddarllenwyr annwyl, felly dyma’r ddau drac sy wedi dal fy ffansi, ar ôl un gwrandawiad byr.
Y Celfi Cam – Adref i Quebec
Y Celfi Cam – Spyjazz
Mae mwy o stwff y Celfi Cam ar Radio Amgen, Sioe 35. Mae’n hen amser i mi lawrlwytho’r sioau ’ma i gyd a’u llosgi i CDr. Sneb sy wedi’u conferto i MP3 eisioes, oes ’na?
CD gan y Celfi Cam! O le? Mae 10 sioe ola Radio Amgen mewn mp3 felly falle wnai newid y lleill i’r fformat yna hefyd. Mae tua 300MB o ffeiliau felly os yw Crav yn cytuno falle gallai greu pecyn torrent o’r cyfan i’w ddosbarthu yn fwy effeithiol. Syniad?
CD arbennig i flogwyr arbennig, mae’n debyg
Byddai’n gret cael y sioeau i gyd ar MP3. Dim ond cwestiwn o ffeindio’r amser i’w lawrlwytho wedyn. Dw i yng nghanol cwblhau fy nghasliad o glasuron krautrock ac ar ddechrau casgliad danksrock. Dyna pam dw i ddim wedi blogio’r wythnos ‘ma. Mae soulseeX wedi cymryd drosodd fy mywyd.
Mae yna stafell ‘Cymraeg’ eitha llwm ar Soulseek gyda llaw.
Eitha llwm – sneb ‘na ond fi, oni bai mod i yn y lle rong.
Fe wnaeth fy ADSL farw rhywbryd yn y nos ond os fydd e nol erbyn heno wnai ail-ymuno a’r stafell.