Digwyddiadur: 25 Ebrill – 1 Mai 2005

Digwyddiadau i ddysgwyr (ac eraill) yn Ne Ceredigion am yr wythnos sy’n dod.

Bishi, bishi, bishi.

Mae pethau yn dechrau mynd yn fwy bishi – oedd 4 peth ymlaen *heno* ro’n i am fynd iddyn nhw! Bydd mis Mai yn fwy bishi byth. I arbed amser, dw i wedi dechrau cynwwys sgan o bosteri ac ati, yn lle teipio mas manylion cyflawn bob digwyddiad. Gobeithio bydd hyn o les.

[Things are starting to get busier - there are four things happening *tonight* that I wanted to go to! And May is looking busier still. To save time, I've started including a scan of posters and so on, instead of typing out full details of each event. Hope this helps.]

Meddalwedd am ddim!

Dych chi’n defnyddio Windows XP ar eich cyfrifiadur? Os felly, mae’r Bwrdd yr Iaith yn cynnig CD am ddim sy’n cynnwys y pecyn iaith Cymraeg ar gyfer Windows a MS Office. Cysylltwch â Rhian Owens, rhian.owens@bwrdd-yr-iaith.org.uk, os dych am gopi.

[Free copies of the Welsh language pack for Windows XP and MS Office are now available from Rhian Owens, the Welsh Language Board's local field officer.]

Mae llawer iawn o feddalwedd ar gael yn y Gymraeg erbyn hyn – ymwelwch â gwefan http://meddal.org.uk/ am fanylion.

[Lots more Welsh language software is available - visit http://meddal.org.uk/ for details.]

Beth sydd ymlaen?

Dydd Mawrth, 26 Ebrill 2005


CYD Aberteifi (nos)
Y Llew Coch, Aberteifi, bob nos Fawrth am 7.30.
Cysylltwyr: Mair David 01239 612148 David Griffiths: 01239 613046
cyd@aber.ac.uk

Dydd Iau, 28 Ebrill 2005


CYD Llandudoch
Caffi Theatr Mwldan, bob bore Iau am 12.00.
Cysylltydd/Contact: Rosi Bunce 01239 621 812
cyd@aber.ac.uk

29 Ebrill – 1 Mai 2005

Penwythnos CYD yn Nant Gwrtheyrn
Penwythnos llawn o weithgareddau lan yn y Gogledd.
Manylion: Jaci Taylor 01970 622143

Dydd Gwener, 29 Ebrill 2005


CYD Aberteifi (dydd)
Caffi Theatr Mwldan, bob bore Gwener am 11.30.
Cysylltwyr: Ann Stokoe: 01239 621739  Howard Williams: 01239 682182
cyd@aber.ac.uk

Nos Wener, 29 Ebrill 2005

Cyngerdd: Ar Ôl Tri
Neuadd Pontgarreg, 7.30, £5/£1
Cerddoriaeth gan un o gorau gorau Cymru, “Ar Ôl Tri”.
Manylion: Philippa 01239 654561
Poster: http://morfablog.com/05/04/aroltri.jpg

Dydd Sadwrn, 30 Ebrill 2005

Sadwrn Siarad, Crymych
Canolfan Ddysgu Gymunedol y Preseli, 9.45 – 3.30, £3
Manylion: 01239 831455
Poster: http://morfablog.com/05/04/sadwrnsiaradcrymych.jpg

Dydd Sadwrn, 30 Ebrill 2005

Taith gerdded: Hanes Llangrannog
Cymdeithas Edward Llwyd
Cwrdd ym maes parcio Neuadd Pontgarreg am 10.30 yb.
Arweinydd/Manylion: Jon Meirion Jones 01239 654309
[A guided walk, yn y Gymraeg.]

Nos Sadwrn, 30 Ebrill 2005

Drama: Ffernols Lwcus
Theatr Felinfach, 7.30pm.
Addasiad Bryn Fôn o “Lucky Sods” gan John Godber.
Manylion: 01570 470697
Poster: http://morfablog.com/05/04/ffernols.jpg

Am eich dyddiadur / For your diary

Dydd Llun, 2 Mai 2005

Eisteddfod Gadeiriol Maenclochog
Yn Ysgol Gymunedol Maenclochog
Manylion: Heather Jenkins (Ysgrifenyddes) 01437 532392

Dydd Gwener, 6 Mai 2005

Gwyl Merlod Aberaeron – Noson Lawen
Gyda Meriel Andrew, Ifor Lloyd, Côr Glannau Ystwyth. Arweinydd Dai Jones, Llanilar.
Theatr Felin-fach, 7.30 yh, £6
Manylion: 01570 470697

Dydd Sadwrn, 7 Mai 2005

Gŵyl y Dysgwyr, Llanelli
Diwrnod llawn o weithgareddau i ddysgwyr.
Manylion: Lowri Gwenllian, 01554 758355, lowri.gwenllian@colegsirgar.ac.uk
Poster: http://morfablog.com/05/04/gwylydysgwyr.jpg

Nos Lun, 9 Mai 2005

Arddangosfa: Bywyd yn Llandudoch yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Noson lansio arddangosfa o fywyd yn y pentre 1939-1945. Gyda lluniaeth ysgafn ac adloniant gan Fois y Frenni.
[Opening an exhibition on village life 1939-1945. Light refreshments and entertainment from Bois y Frenni.]
Canolfan Goffa, Llandudoch, 7.00 ymlaen, £2

Nos Wener, 13 Mai 2005

Sioe: 1000 o Filltiroedd ar Wahân
Perfformwyr lleol yn dod ynghyd i gydweithio a dyfeisio mewn ysbryd mentro — cymysgedd o symud, geiriau, cerddoriaeth a delweddau ar y themâu o bellter ac agosatrwydd.
Theatr Felin-fach, 7.30 yh, £5.50/£4.50/£3.50
Manylion: 01570 470697

Nos Wener, 13 Mai 2005

Noson o Gerddoriaeth Hen a Newydd
Noson o ganu Cymraeg traddodiadol a chyfoes yng nghwmni grwp gwerin offerynnol a’r grwp newydd lleol, Ha Kome.
Gwesty’r Webley, Poppit, 8.00, £3

Nos Wener, 13 Mai 2005

Cyngerdd: Parti’r Efail / Parti’r Gromlech
Dau grwp lleol poblogaidd i’ch diddanu.
Theatr y Gromlech, Crymych, 7.30 yh
Manylion: 01239 831455

13 – 14 Mai 2005

Drama: Ty ar y Tywod
Theatr Mwldan, Aberteifi. 7.30.
Clasur o’r 60au gan Gwenlyn Parry.
[Welsh language drama. Friday's performance will be preceded (6.30 - 7.00) by an introduction by the director, in simple Welsh for learners.]
Manylion: Theatr Mwldan 01239 621200
Theatr Genedlaethol Cymru: http://www.theatr.com

Dydd Sadwrn 14 Mai 2005

Sadwrn Siarad Felinfach
Canolfan Iaith Ceredigion, Felin-fach
Cysylltydd: Phyl Brake 01970 421580 pjb@aber.ac.uk
Poster: http://morfablog.com/05/04/sadwrnsiarad.jpg

Dydd Sadwrn 14 Mai 2005

Eisteddfod Gadeiriol Crymych
Theatr y Gromlech, Crymych, 1.30 yp, £2/£1
Manylion: Eiry Jones, 01239 841573

Dydd Mercher 18 Mai 2005

Drama: Ffair Ffeiradon
Cwmni Drama Llandudoch yn cyflwyno comedi hwyliog â llond llwyfan o ffeiriadon.
[A stageful of vicars in this comedy from the popular local company.]
Canolfan Goffa, Llandudoch, 8.00, £3

Nos Iau, 19 Mai 2005

Noson Lenyddol Eisteddfod Llandudoch
Noson o draddodi beirniadaeth cystadleuthau llenyddol Eisteddfod Llandudoch, a Thalwrn y Beirdd rhwng timau lleol.
Ysgol Gynradd Llandudoch, 7.30, £2.00

20 – 23 Mai 2005

Penwythnos o Gerdded Cymraeg
Teithiau cerdded ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro. Rhaid bwco lle cyn 22 Ebrill.
(Guided walks on the Pembs Coast Path. Learners welcome. Places to be booked by 22 April.)
Manylion: 01437 720392

Dydd Sadwrn 21 Mai 2005

Eisteddfod Gadeiriol Llandudoch
Canolfan Goffa, Llandudoch, o 11.00yb
Manylion: Mrs Melrose Thomas, 01239 615196

Nos Sadrwn, 29 Mai 2005

Gig: Meinir Gwilym a’r Band
Un o berfformwyr ifainc mwya poblogaidd Cymru.
Safle maes parcio Llanerchaeron, 7.30 yh, £6 ymlaen llaw, £7.00 ar y noson
Manylion: 01570 470697

17 Mehefin 2005

Eisteddfod Fach 2005 CYD Bro’r Preseli
Crymych Arms, Crymych, 10.30 yb.
Manylion y cystadlaethau ar y poster.
Poster: http://morfablog.com/05/04/steddfod.jpg

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>