Yn yr achos llys ddoe yn erbyn yr aelodau Cymdeithas yr Iaith a wnaeth torri ar draws rhaglenni uniaith Saesneg Radio Carmarthenshire wnaethpwyd pwynt diddorol gan un o’r protestwyr, sef bod y cwmni wedi defnyddio’r protest er mwyn cael carpedi (a chyfrifiadur) newydd mas o bocedi’r protestwyr.
Gweler blog Steffan Cravos am y stori lawn.
Ynghylch y mater o iawndal (o £1,660.53) gwnaeth Angharad ddatganiad i’r llys gan ofyn i’r Ynadon bwyso a mesur y modd y penderfynwyd gwario’r arian hwnnw. Soniodd mai’r unig ddifrod oedd y glud ar gefn y sticeri a thynnodd sylw at benderfyniad y cwmni i wario dros £757.88 ar lanhau’r carpedi rhag ofn bod rhywfaint o lud o gefn y sticeri wedi disgyn arnynt.
Fe warion nhw hefyd, £702.65 ar ddau fonitor newydd oherwydd eu bod yn credu bod ôl glud ar un ohonyn nhw. Tynnodd Angharad eu sylw at y ffaith bod dau swm o £100 wedi ei wario ar alw peiriannydd i ddod allan i edrych ar glud. Dywedodd, “mae’n bosib dod i’r casgliad bod y cwmni’n ceisio manteisio ar y sefyllfa i gael carped a chyfrifiaduron newydd.”
‘Mae’n bosib dod i’r casgliad’ wir. Hahaha.