icNorthWales – Blunder makes nonsense of sign – stori fach yn Nail y Post am arwyddion “Cymraeg” mewn archfarchnad ym Mangor.
Gwynedd Council chairman Charles Wyn Jones, who lives at nearby Llanrug, felt there was no need to blow the situation out of proportion.
“When similar mistakes have arisen in the past it is usually because the signs have been printed incorrectly.”
Wir yr, Sherlock.
Does neb yn chwythu’r sefyllfa mas o gymesur, dim ond gofyn ydym i’r Gymraeg gael yr un parch â’r Saesneg. Pa mor anodd yw prawfddarllen? Pa mor anodd yw e i staff yr archfarchnad sieco arwydd cyn iddo fe fynd lan a wneud testun sbort mas o’ch busnes? Arhosodd yr arwydd ’ma lan yn W.H.Smiths am dros mis ar ôl i lythyr ymddangos yn y papur lleol am y camgymeriad ynddo, ac am dros dau fis ar ôl i mi ddweud rhywbeth wrth aelod o staff y cangen.
Pan o’n i’n gweithio yn siop Oriel, Caerdydd, cawson ni ein cymryd drosodd gan gwmni o Loegr, ond gan fod arian cyhoeddus o’r Cymgor Celfyddydau dal i ddod i mewn i’r busnes, oedd rhaid i’r cwmni hwnna wneud arwyddion dwyieithog pan wnaethon nhw ail-addurno’r siop. Cymerodd e dri ymgais iddyn nhw sillafu Pensaernïaeth yn gywir, ond wnaeth y staff wrthod rhoi lan y rhai anghywir, am resymau amlwg – byddai fe wedi dangos diffyg parch y cwmni tuag at y cwsmeriaid, sy byth yn syniad da. Gofyn i Gerald Ratner.
Mae un nonsens newydd lan yn Tesco, Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd jyst tu fewn i’r mynediad. OND i fod yn deg mae’r cwmni wedi adnewyddu’u arwyddion eraill ac maen nhw a) i gyd i’w gweld yn gywir b) yn rhoi’r Gymraeg uwchben y Saesneg. Mae gan Tesco Crwys Cwrlwys un sy’n deud “Dim Partico”.
Hefyd yn Tesco Rhodfa’r Gorllewin mae’n dweud ‘Maes Parcio Rwsmeriaid’.
Oes modd tynnu lluniau o’r arwyddion yma? Dw i’n dal i gredu na fydd dim byd yn dangos pa mor remp yw’r broblem nag oriel go fawr o enghreifftiau ar draws Cymru cyfan.