Cafodd hyn ei bostio ar maes-e.com heddi, gan y defnyddiwr Hernan Rodriguez (nid ei enw go iawn, natch):
Daeth i’m sylw yn ddiweddar mae Self Promotion Society yw maes-e. Pwy sydd yn euog o wthio eu hunain i’r entrychion medda chi? Wel, er eich budd chi rwyf wedi llunio ryw restr fer o arch wankers maes-e:
[..]
Nic Dafis (Myfi yw brenin y maes – taflaf fy mhwysau o gwmpas canys myfi yw eich meistr chi oll.)
Mae rheolau maes-e yn ddigon clir am bethau fel hyn, a doedd dim dewis ’da fi ond i ddileu’r sylwadau. Ond os ydy Hernan yn teimlo yn ddigon cryf am hyn, mae croeso cynnes iddo fe ddefnyddio’r lle hwn i fynegi ei gasineb tuag ata i. Dyna’r lleia alla i wneud iddo fe, a’r unig ffordd dw i’n gallu meddwl o brofi, unwaith ac am byth, nid er mwyn amddiffyn fy ego bregus innau ydyn ni wedi datblygu’r canllawiau yna ar y maes.
Myfi yw brenin morfablog.com hefyd, yn anffodus Hernan, ond dw i’n addo na fydda i’n dileu unrhywbeth wyt ti am ddweud amdana i yma (wrth gwrs bydd pethau enllibus am bobl eraill yn cael eu dileu).
Neu, os wyt ti moyn, wna i dy helpu di sefydlu dy flog dy hunan – gan dy fod di’n amlwg â phethau wyt ti am rannu gyda’r byd, ond heb y gallu i greu gwefan dy hun – wedyn cei di ddweud beth bynnag ti moyn am bwy bynnag ti moyn, a chymryd y cyfrifoldeb cyfreithiol dros dy sylwadau dy hunan hefyd.
Beth amdano?
Dim ymateb eto?! Efallai y cawn glywed rhyw adlais o farn Hernan rhywle yn y Western Mule, yn lle na fan hyn – pwy a wyr…;-)
Heh. Oeddwn i yn y rhestr?
‘dwi yr un mor fysneslud â Macsen … pwy arall oedd ar y rhestr?
Fi, Aran, Rhys Llwyd, Ramirez a Leusa, os dw i’n cofio yn iawn. Sori bois, dych chi jyst ddim cweit yn ddigon twatlyd eto.
Mae pethau fel hyn yn digwydd weithiau. Dw i;n meddwl amdanyn nhw fel assisted suicides, bod rhywun am ymadael â’n hannwyl faes, am beth bynnag rheswm, ond sydd heb y cryfder o gymeriad i fynd yn dwrci oer. Felly maen nhw’n postio rhywbeth sydd yn amlwg yn mynd i wneud i fi eu gwahardd. Mae e wedi digwydd sawl gwaith nawr. (Ddim yn ddigon aml, dw i’n meddwl weithiau.)
Ie, dw i wedi dod ar draws yn ffenomena hwnnw ar fforymau eraill hefyd.
Mae’r Maes yn mynd drwy phase reit dawel ar hyn o bryd. Falle bod hynny’n naturiol; mae’r cywion bach sydd wedi ail afael yn ei cymreigtod ar y we yn barod i adael y nyth a gwneud ei prosiectau ei hunain yn y byd ‘go iawn’; wele Ffwdanu, Pictiwrs yn y Pyd, y boom mewn Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes, ac yn y blaen. DNaillai hynny neu dw i a sbectol tint rhosyn wedi’ holeio ar fy nhrwyn…?
Dw i heb edrych ar yr ystadegau ers sbel. Roedd mwy o aelodau newydd ym mis Mawrth nag erioed, ond ti’n iawn am nifer o negeseuon.
Ar ran ymwelwyr, mae tyfiant wedi arafu, ond mae’n dal i fynd i fyny:
month: #reqs: #pages:--------: -------: -------:
Dec 2002: 751: 728:
Jan 2003: 1921: 1831:
Feb 2003: 1924: 1837:
Mar 2003: 2146: 2146:
Apr 2003: 2894: 2894:
May 2003: 5067: 5063:
Jun 2003: 8069: 7357:
Jul 2003: 7996: 5943:
Aug 2003: 6975: 6574:
Sep 2003: 9391: 9319:
Oct 2003: 1921971: 257517:
Nov 2003: 1461401: 239307:
Dec 2003: 1400246: 216601:
Jan 2004: 2235581: 345652:
Feb 2004: 2403602: 348620:
Mar 2004: 3095016: 380342:
Apr 2004: 2669819: 368618:
May 2004: 3327788: 450706:
Jun 2004: 2833475: 383462:
Jul 2004: 2725991: 455885:
Aug 2004: 2381009: 417597:
Sep 2004: 2298147: 398746:
Oct 2004: 2789837: 519086:
Nov 2004: 3221217: 612510:
Dec 2004: 2567256: 896729:
Jan 2005: 2846730: 1081556:
Feb 2005: 2919522: 1107750:
Mar 2005: 3366213: 1278991:
Apr 2005: 1270762: 485474
(Dydy’r ffigyrau uchod ddim yn profi fawr o dim, ond bod pethau yn mynd yn fwy bishi o hyd.)
Ie, dwi’n meddwl bod gan yr haul diarth ‘ma lot i’w wneud gyda’r tawelwch o ran negeseuon newydd ar y funud. Ond fallai mai fi sy’n meddwl bod llai o negeseuon am fy mod i’n darllen llai ohonyn nhw.
Dwi’n cytuno am y busnes ‘ma o greu prosiectau ein hunain.
Mae’n rhaid mi gyfaddef fod Nic wedi f’ysbrydoli i ailgreu fy wefan bêl-droed a thro yma ei gwneud yn ddwyieithog, a hefyd creu blog Cymraeg.